Aristoteles Onassis

Mogwl llongau Groegaidd oedd Aristoteles Sokratis Onassis (Groeg (iaith): Αριστοτέλης Ωνάσης; 20 Ionawr [7 Ionawr O.S.] 1906[1] neu 15 Ionawr 1906[2] – 15 Mawrth 1975). Roedd yn un o ddynion busnes enwocaf a chyfoethocaf yr 20g ac yn aelod o'r jet set. Roedd ei fflyd o danceri a llongau nwyddau yn fwy o faint na llyngesau nifer o wledydd.

Aristoteles Onassis
GanwydΑριστοτέλης Σωκράτη Ωνάσης Edit this on Wikidata
20 Ionawr 1906, 15 Ionawr 1906 Edit this on Wikidata
İzmir Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
o methiant anadlu Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Groeg, yr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Efengylaidd Smyrna Edit this on Wikidata
Galwedigaethperchennog llongau, person busnes, entrepreneur Edit this on Wikidata
TadSocrates Onassis Edit this on Wikidata
MamPenelope Dolagu Edit this on Wikidata
PriodTina Onassis Niarchos, Jacqueline Kennedy Onassis Edit this on Wikidata
PartnerMaria Callas Edit this on Wikidata
PlantAlexandros Onassis, Christina Onassis Edit this on Wikidata
PerthnasauCaroline Kennedy, John F. Kennedy Jr., Arabella Kennedy, Patrick Bouvier Kennedy Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cafodd ei eni yn Smyrna yn Ymerodraeth yr Otomaniaid (heddiw yn Nhwrci) i deulu Groegaidd Uniongred ac yn fab i Socrates Onassis, dyn busnes tybaco oedd yn berchen ar longau. Bu'r teulu yn ffoi i Wlad Groeg yn sgîl Tân Mawr 1922. Ym 1923 aeth Aristoteles i'r Ariannin ar basbort Nansen, dogfen a roddwyd i ffoaduriaid heb ddinasyddiaeth gan Gynghrair y Cenhedloedd.

Ailgychwynnodd Onassis hen fusnes tybaco ei deulu yn Ne America, gan fewnforio tybaco o Dwrci. Cytunodd Onassis i drafod cytundeb masnach rhwng yr Ariannin a Gwlad Groeg ym 1928, a chafodd ei wneud yn gonswl cyffredinol gan lywodraeth Groeg am ei ymdrechion.[1] Gan weld llwyddiant economaidd anhygoel yn ei fusnes, miliwnydd oedd Onassis erbyn oed 25,[1] a phrynodd ei longau cludo nwyddau cyntaf ym 1932. Erbyn diwedd y 1930au ymledodd i'r diwydiant tanceri, gan adeiladu ei dancer olew cyntaf ym 1938. Cludodd llongau Onassis olew ar gyfer cwmnïau petroliwm mawr megis Mobil a Texaco, a hwyliodd y llongau dan faner Panama oedd yn eu galluogi i gludo nwyddau heb dalu treth. Adeiladodd y supertankers cyntaf, ac yn ystod Argyfwng Suez (1956) a'r Rhyfel Chwe Diwrnod (1967) elwodd yn sylweddol trwy gludo olew o'r Dwyrain Canol o amgylch Penrhyn Gobaith Da, pan oedd Camlas Suez ar gau. Bu gystadlu rhwng Onassis a Stavros Niarchos, mogwl llongau arall o Roeg.

O 1950 hyd 1956 bu'n elwa ar forfilo ger arfordir Periw, ond gwerthodd ei fusnes i'r Japaneaid i osgoi gael ei erlyn am ladd morfilod ifanc. Ym 1953 prynodd Onassis fuddiant rheolaethol yn Société des Bains de Mer, sy'n berchen ar casino, gwestai, ac eiddo diriaethol arall ym Monte Carlo. Prynodd gwmni hedfan cenedlaethol Groeg ym 1957 a gafodd ei ail-frandio'n Olympic Airways. Bu dulliau busnes Onassis yn ddadleuol ac yn cynnwys llwgrwobrwyo.

O 1946 hyd 1960 bu'n briod i Athina Livanos, merch y mogwl llongau Groegaidd Stavros Livanos. Cafodd dau o blant, Alexander (1948 – 1973) a Christina (1950 – 1988). Prynodd y ffrigad Ganadaidd HMCS Stormont (K327) a throes yn iot a enwyd yn Cristina O, ar ôl ei ferch. Cafodd berthynas â'r gantores opera Maria Callas am wyth mlynedd, ac bu'n ffrind i Winston Churchill.[3] Ym 1968, priododd Jacqueline Bouvier Kennedy, gweddw John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau. Bu farw Aristoteles Onassis yn Neuilly-sur-Seine, Ffrainc, o gymhlethdodau myasthenia gravis, a chafodd ei gladdu ar ei ynys breifat Skorpios ym Môr Ionia. Y neidiwr ceffylau Athina Onassis Roussel yw ei unig ddisgynnydd fyw.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Aristotle Socrates Onassis. Britannica Online. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  2. (Saesneg) Aristotle Onassis biography. The Biography Channel. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  3. (Saesneg) Smith, Helena (6 Hydref 2006). Callas takes centre stage again as exhibition recalls Onassis's life. The Guardian. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: buddiant rheolaethol o'r Saesneg "controlling interest". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.