Newyddiadurwr a ffotograffydd Americanaidd oedd Malcolm Wilde Browne (17 Ebrill 1931 - 27 Awst 2012). Tynnodd y llun enwog o'r mynach Bwdhaidd Thích Quảng Ðức yn hunanlosgi yn Saigon ym 1963.[1]

Malcolm Browne
Ganwyd17 Ebrill 1931 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 2012 Edit this on Wikidata
Hanover, New Hampshire, Lebanon, New Hampshire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Swarthmore
  • Friends Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ffotograffydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr George Polk, World Press Photo of the Year, Pulitzer Prize for International Reporting, James T. Grady-James H. Stack Award for Interpreting Chemistry Edit this on Wikidata

Gweithiodd fel gohebydd i'r Associated Press (AP) yn Fietnam yn y 1960au, gan adrodd ar yr argyfwng Bwdhaidd ac yn hwyrach Rhyfel Fietnam. Roedd yn rhan o garfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys Peter Arnett a David Halberstam, a gafodd ffrae yng Ngorffennaf 1963 gyda heddlu cudd Ngô Đình Nhu. Enillodd Wobr Pulitzer ym 1964 am ei adroddiadau o Fietnam.[2] Ar ôl gadael yr AP, ymunodd â The New York Times ym 1968 a gweithiodd fel gohebydd rhyfel a thramor i'r papur hwnna am y 30 mlynedd nesaf.

Ym 1993, cyhoeddwyd ei hunangofiant Muddy Boots and Red Socks. Bu farw Browne o glefyd Parkinson.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Pyle, Richard (28 Awst 2012). Burning-monk photographer Malcolm Browne dies. Associated Press. Google News. Adalwyd ar 28 Awst 2012.
  2. (Saesneg) Vietnam war reporter Malcolm Browne dies. BBC (28 Awst 2012). Adalwyd ar 28 Awst 2012.