Peter Arnett
Newyddiadurwr o'r Unol Daleithiau a aned yn Seland Newydd yw Peter Gregg Arnett, ONZM (ganwyd 13 Tachwedd 1934) sy'n enwog fel gohebydd rhyfel. Gweithiodd Arnett dros gylchgrawn National Geographic ac yn hwyrach am nifer o sianeli teledu, yn bennaf CNN.
Peter Arnett | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 1934 Aparima, Seland Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Seland Newydd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd newyddion, gohebydd |
Gwobr/au | Officer of the New Zealand Order of Merit, Gwobr Newyddiaduraeth Cenedlaethol Ischia, Pulitzer Prize for International Reporting, Gwobr Weintal ar gyfer Adrodd Diplomyddol |
Gweithiodd fel gohebydd i'r Associated Press yn Fietnam yn y 1960au, gan adrodd ar yr argyfwng Bwdhaidd ac yn hwyrach Rhyfel Fietnam. Cafodd ei fwrw ar y trwyn yng Ngorffennaf 1963 mewn ffrae rhwng heddlu cudd Ngô Đình Nhu a charfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys David Halberstam. Enillodd Wobr Pulitzer ym 1966 am ei adroddiadau o Fietnam. Yn Chwefror 1968 cyhoeddodd ei stori enwocaf o Bến Tre: "'It became necessary to destroy the town to save it,' a United States major said today. He was talking about the decision by allied commanders to bomb and shell the town regardless of civilian casualties, to rout the Vietcong."[1] Dadleuol yw geirwiredd yr hyn a ddyfynnodd.[2] Arhosodd yn Fietnam am weddill y rhyfel, ac ef oedd un o'r newyddiadurwyr olaf o'r Gorllewin yn Saigon hyd ei chwymp ym 1975.
Gweithiodd Arnett yn Affganistan yn ystod y rhyfel Sofietaidd ac yn Baghdad yn ystod Rhyfel y Gwlff, lle cafodd gyfweliad â Saddam Hussein.[3] Ym 1997 cynhalodd gyfweliad ag Osama bin Laden.[4] Ym 1998 roedd ganddo ran mewn adroddiad ar Operation Tailwind ar gyfer CNN a chylchgrawn Time, o'r enw The Valley of Death, a honnodd i Fyddin yr Unol Daleithiau ddefnyddio sarin yn erbyn milwyr ei hun yn Laos ym 1970. Cafodd manylion y stori eu gwrth-ddweud gan y Pentagon, a chynhalodd CNN ymchwiliad ei hun gan benderfynu fod y newyddiaduraeth yn wallus a thynnu'r stori yn ôl. Cafodd Arnett ei geryddu gan CNN, ac yn hwyrach ei ddiswyddo.[5]
Aeth Arnett i Irac yn 2003 ar gyfer NBC a National Geographic i adrodd ar y goresgyniad Americanaidd. Rhoddodd gyfweliad i sianel deledu a redir gan lywodraeth Irac, gan roi ei farnau ar rôl newyddiadurwyr mewn rhyfel, ac am hyn cafodd ei ddiswyddo gan NBC, MSNBC, a National Geographic.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Major Describes Move". New York Times. February 8, 1968.
- ↑ Keyes, Ralph (2006). The Quote Verifier: Who Said What, Where, and When. St. Martin's Griffin. ISBN 978-0-312-34004-9.
- ↑ Peter Arnett (January 16, 2001 11 a.m. EST). "Peter Arnett: A look back at Operation Desert Storm". CNN News. Cyrchwyd 2007-09-12. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Peter Arnett (December 5, 2001 Posted: 2:50 PM EST (1950 GMT)). "Peter Arnett: Osama bin Laden and returning to Afghanistan". CNN News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-24. Cyrchwyd 2007-09-12. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Barry Grey (22 April 1999). "Fired CNN journalist on dismissal of Arnett: "They will do anything to stem the flow of information"". pub. Cyrchwyd 2007-09-12.
- ↑ "National Geographic Fires Peter Arnett". National Geographic News. March 31, 2003. Cyrchwyd 2007-09-12.