Édouard Manet

(Ailgyfeiriad o Manet)

Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]

Édouard Manet
Ganwyd23 Ionawr 1832 Edit this on Wikidata
former 10th arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1883 Edit this on Wikidata
8fed Bwrdeisdref Paris, Paris Edit this on Wikidata
Man preswyl8fed Bwrdeisdref Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Collège-lycée Jacques-Decour Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, darlunydd, lithograffydd, drafftsmon, drafftsmon, artist, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Fif, Street Singer, Lola de Valence, Luncheon on the Grass, Olympia Edit this on Wikidata
Arddullportread, peintio genre, bywyd llonydd, celf tirlun, paentiadau crefyddol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadThomas Couture Edit this on Wikidata
MudiadArgraffiadaeth Edit this on Wikidata
TadAuguste Manet Edit this on Wikidata
MamEugénie-Désirée Fournier Edit this on Wikidata
PriodSuzanne Manet Edit this on Wikidata
PlantLéon Leenhoff Edit this on Wikidata
PerthnasauBerthe Morisot, Julie Manet Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod
Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.
Picnic ar y gwair gan Manet; olew ar ganfas, 1863

Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.

Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.

Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.

Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.

Oriel Édouard Manet

golygu

Cyfeiriadau

golygu