Marchysgallen y gerddi

Cynara cardunculus
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Planhigyn blodeuol
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Cynara
Rhywogaeth: C. cardunculus
Enw deuenwol
Cardoon
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol lluosflwydd o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Marchysgallen y Gerddi sy'n enw benywaidd ac yn fath o ysgallen a dyfir ar gyfer y bwrdd bwyd i'w fwyta fel llysieuyn. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cynara cardunculus a'r enw Saesneg yw Globe artichoke.[1] Mae'n tyfu hyd at 1.4–2 m (4.6–6.6 tr) o uchder, gyda dail crwm, arian, tal, sydd rhwng 50–82 cm (20–32 mod). Datblyga'r blodyn mewn pelen fechan, a dyma'r rhan a gaiff ei fwyta; mae'n 8–15 cm (3.1–5.9 mod) mewn diametr gyda rhannau trionglog (cenynnau) drosto a blodau porffor.

Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rottenberg, A., a D. Zohary, 1996: "The wild ancestry of the cultivated artichoke." Genet. Res. Crop Evol. 43, 53—58.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: