Blodyn haul
Helianthus annuus | |
---|---|
Amrywiaeth garddwriaethol o flodyn haul cyffredin | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Helianthus |
Rhywogaeth: | H. annuus |
Enw deuenwol | |
Helianthus annuus L. | |
Cyfystyron[1] | |
Synonymy
|
Blodyn haul | |
---|---|
Math garddwriaethol o flodyn haul. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytras: | Tracheophytes |
Cytras: | Angiosperms |
Cytras: | Eudicots |
Cytras: | Asterids |
Trefn: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Helianthus |
Rhywogaeth: | H. annuus
|
Enw binomial | |
Helianthus annuus | |
Cyfystyrau[2] | |
Synonymy
|
Mae'r blodyn haul cyffredin ( Helianthus annuus ) yn blanhigyn blynyddol mawr o'r genws Helianthus a dyfir fel cnwd ar gyfer ei hadau olewog bwytadwy . Ar wahân i gynhyrchu olew coginio, fe'i defnyddir hefyd fel porthiant da byw (fel pryd o fwyd neu blanhigyn silwair ), fel bwyd adar, mewn rhai cymwysiadau diwydiannol, ac fel addurnol mewn gerddi domestig. Mae H annuus gwyllt yn blanhigyn blynyddol canghennog eang gyda llawer o bennau blodau. Fodd bynnag, yn aml dim ond un fflurgainc mawr (pen blodyn) sydd gan y blodyn haul domestig ar ben coesyn di-ganghennau.
Daw'r enw binomaidd Helianthus annuus o'r Groeg Helios 'haul' ac anthos 'blodyn', tra bod yr epithet annuus yn golygu 'blynyddol' yn Lladin.
Cafodd y planhigyn ei ddofi gyntaf yn America . Daethpwyd â hadau blodyn yr haul i Ewrop o America yn yr 16eg ganrif, lle, ynghyd ag olew'r blodyn haul, daethant yn gynhwysyn coginio eang. Gydag amser, mae swmp y cynhyrchiad ar raddfa ddiwydiannol wedi symud i Ddwyrain Ewrop, ac ( ers 2020 ) gyda'i gilydd mae Rwsia a'r Wcráin yn cynhyrchu dros hanner yr hadau a gynhyrchir ledled y byd.
Disgrifiad
golyguMae gan y planhigyn goesyn blewog garw, a all gyrraedd uchder nodweddiadol o 3 medr . Cyflawnodd y blodyn haul talaf a gofnodwyd 9.17medr . [3] Mae dail y blodyn haul yn eang, yn fras danheddog, yn arw ac fel rheol wedi eu gosod bob-yn-ail i fyny'r coesyn; mae'r rhai sy'n agos at y gwaelod yn fwyaf ac yn gyffredinol ar ffurf calon . [4]
Blodyn
golyguMae'r planhigyn yn blodeuo yn yr haf. Yr hyn a elwir yn aml yn " blodeuyn " blodyn haul mewn gwirionedd yw "pen blodyn" ( pseudanthium ), 7.5cm - 12.5cm o led, [4] ac mewn gwirionedd yn nifer o flodau bach unigol pum-petal (" bloenos "). Gelwir y blodau allanol, sy'n debyg i betalau, yn flodau pelydr . Mae pob "petal" yn cynnwys ligwl sy'n cynnwys petalau ymdoddedig o flodyn pelydryn anghymesur. Maent yn rhywiol anffrwythlon a gallant fod yn felyn, coch, oren, neu liwiau eraill. Gelwir y blodau sydd wedi'u trefnu'n droellog yng nghanol y pen yn flodau disg . Mae'r rhain yn aeddfedu i ffrwythau ("hadau" blodyn yr haul).
Mae blodyn haul y paith ( H. petiolaris ) yn debyg o ran ymddangosiad i flodyn haul cyffredin gwyllt; mae'r cen yn ei ddisg ganolog gyda blewiach gwyn ar eu blaenau. [4]
Heliotropiaeth
golyguCamsyniad cyffredin yw bod pennau blodau haul yn olrhain yr Haul ar draws yr awyr. Er bod blagur blodau anaeddfed yn arddangos yr ymddygiad hwn, mae'r pennau blodeuol aeddfed yn pwyntio i gyfeiriad sefydlog (ac yn nodweddiadol dwyreiniol) trwy gydol y dydd. [5] [6] Dadleuwyd yr hen gamsyniad hwn yn 1597 gan y botanegydd Seisnig John Gerard, a dyfai flodau haul yn ei ardd lysieuol enwog : " [y mae rhai] wedi adrodd ei fod yn troi gyda'r Haul, yr hyn ni allwn byth sylwi arno, er fy mod wedi ymdrechu i gael gwybod y gwir am hyn." [7] Gallai aliniad unffurf pennau blodyn haul mewn cae roi'r camargraff i rai pobl fod y blodau'n dilyn yr Haul.
Mae'r aliniad hwn yn deillio o heliotropiaeth mewn cyfnod datblygu cynharach, y cyfnod blodau ifanc, cyn aeddfedrwydd llawn pennau blodau ( anthesis ). [8] Mae'r blodau haul ifanc yn troi i gyfeiriad yr haul. Ar doriad gwawr mae pen y blodyn yn wynebu tua'r dwyrain ac yn symud tua'r gorllewin drwy'r dydd. Pan fydd blodau haul yn cyrraedd aeddfedrwydd llawn nid ydynt bellach yn dilyn yr haul, ac yn wynebu'r dwyrain yn barhaus. Bydd blodau ifanc yn unig, yn ailgyfeirio dros nos i wynebu'r dwyrain gan ragweld y wawr yn y bore. Mae eu mudiant heliotropig yn ran o'u rhythm circadaidd, wedi'i gydamseru gan yr haul, sy'n parhau os yw'r haul yn diflannu ar ddiwrnodau cymylog neu os yw planhigion yn cael eu symud i olau cyson. [9] Gallant reoli eu rhythm circadaidd mewn ymateb i'r golau glas a allyrrir gan ffynhonnell golau. [9] Os byddai'r planhigyn blodyn haul yn cael ei gylchdroi 180 ° pan fydd yn ei gyfnod blaguro, bydd y blagur yn troi i ffwrdd o'r haul am ychydig ddyddiau, gan fod ailgydamseru â'r haul yn cymryd amser. [10]
Pan fydd tyfiant coesyn y blodyn yn dod i ben a'r blodyn yn aeddfed, mae'r heliotropaeth hefyd yn dod i ben ac mae'r blodyn yn wynebu'r dwyrain o'r eiliad honno ymlaen. Mae'r cyfeiriadedd hwn i'r dwyrain yn caniatáu cynhesu cyflym yn y bore ac, o ganlyniad, cynnydd mewn ymweliadau peillwyr. [9] Nid oes gan flodau haul bonchwydd/pwlfinws o dan eu blodau . Mae'r bonchwydd yn ran hyblyg yng nghoesau dail (deilgoes) rhai rhywogaethau o blanhigion ac mae'n gweithredu fel cymal. Mae'n effeithio ar symudiad dail oherwydd newidiadau cildroadwy mewn pwysedd chwydd-dyndra, sy'n digwydd heb dyfiant. Mae dail cau'r planhigyn sensitif yn enghraifft dda o symudiad dail cildroadwy trwy bonchwyddau.
Trefniant Blodigyn
golyguYn gyffredinol, mae pob blodigyn wedi'i gyfeirio tuag at y nesaf gan yr ongl aur, 137.5 °, gan gynhyrchu patrwm o droellau rhyng-gysylltu, lle mae nifer y troellau chwith a nifer y troellau de yn rhifau Fibonacci olynol. Yn nodweddiadol, mae 34 troellog i un cyfeiriad a 55 i'r cyfeiriad arall; fodd bynnag, mewn pen blodyn haul mawr iawn gallai fod 89 i un cyfeiriad a 144 i'r cyfeiriad arall. [11] [12] [13] Mae'r patrwm hwn yn galluogi'r cynhyrchiad fwyaf effeithiol fathemategol o hadau o fewn pen y blodyn. [14] [15] [16]
Cynigiwyd model ar gyfer y patrwm o flodigion ym mhen blodyn yr haul gan H. Vogel ym 1979. [17] Mynegir hyn mewn cyfesurynnau pegynol
lle mae'r θ yn ongl, r yw'r radiws neu'r pellter o'r canol, ac n yw rhif mynegai'r blodigyn ac mae c yn ffactor graddio cyson. Mae'n ffurf ar droell Fermat . Mae'r ongl 137.5° yn gysylltiedig â'r gymhareb euraidd (55/144 o ongl gylchol, lle mae 55 a 144 yn rhifau Fibonacci) ac mae'n rhoi pecyn agos o flodigion. Defnyddiwyd y model hwn i gynhyrchu cynrychioliadau cyfrifiadurol o flodau'r haul. [18]
Genom
golyguMae genom blodyn haul yn ddiploid gyda rhif cromosom sylfaen o 17 ac amcangyfrif o faint genom o 2,871–3,189 miliwn o barau sylfaen . [19] Mae rhai ffynonellau'n honni mai ei wir faint yw tua 3.5 biliwn o barau sylfaen (ychydig yn fwy na'r genom dynol ). [20]
Dosbarthiad a chynefin
golyguCafodd y planhigyn ei ddofi gyntaf yn yr Americas . Mae blodau haul yn tyfu orau mewn pridd ffrwythlon, llaith, wedi'i ddraenio'n dda gyda thomwellt trwm . Maent yn aml yn ymddangos ar fannau agored sych a godre bryniau. [4]
Ecoleg
golyguBygythiadau a chlefydau
golyguUn o'r prif fygythiadau sy'n wynebu blodau haul heddiw yw Fusarium, ffwng ffilamentaidd a geir yn bennaf mewn pridd a phlanhigion. Mae'n bathogen sydd dros y blynyddoedd wedi achosi difrod cynyddol a cholli cnydau blodyn yr haul, gyda difrod i rai cnydau mor helaeth ag 80%. [21]
Mae llwydni llwyd yn glefyd arall y mae blodau haul yn agored iddo. Mae ei dueddiad i lwydni llwyd yn arbennig o uchel oherwydd ffordd blodyn haul o dyfu a datblygu. Yn gyffredinol, mae hadau blodyn yr haul yn cael eu plannu o fewn ychydig gentimedrau o wyneb y pridd. Pan fydd plannu bas o'r fath yn cael ei wneud mewn pridd neu bridd llaith a socian, mae'n cynyddu'r siawns o glefydau fel llwydni llwyd.
Bygythiad mawr arall i gnydau blodau haul yw broomrape, paraseit sy'n ymosod ar wraidd blodau haul ac yn achosi difrod helaeth i gnydau blodau haul, hyd at 100% o'r cnwd. [22]
Amaethu
golyguMewn plannu masnachol, mae hadau'n cael eu plannu 45 cm ar wahân a 2.5cm o ddwfn.
Hanes
golyguRoedd blodyn haul cyffredin yn un o nifer o blanhigion a dyfwyd gan frodorion y Cenhedloedd Cyntaf yng Ngogledd America cynhanesyddol fel rhan o Gyfadeilad Amaethyddol y Dwyrain . Er y derbyniwyd yn gyffredinol bod y blodyn haul wedi'i ddofi gyntaf yn yr hyn sydd bellach yn dde-ddwyrain yr Unol Daleithiau, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, [23] mae tystiolaeth bellach iddo gael ei ddofi cyn hynny'n Mecsico [24] tua 2600 COB(BCE.) Darganfuwyd y cnydau hyn yn Tabasco, Mecsico, ar safle cloddio San Andres. Mae'r enghreifftiau cynharaf y gwyddys amdanynt yn yr Unol Daleithiau o flodyn haul dof llawn wedi'u canfod yn Tennessee, ac maent yn dyddio i tua 2300COB. [25] Daw enghreifftiau cynnar iawn eraill o safleoedd ogofau cyfnosol (rockshelters) yn nwyrain Kentucky, UDA. [26] Defnyddiodd llawer o bobl Cenhedloedd Cyntaf America y blodyn haul fel symbol o'u dwyfoldeb solar, gan gynnwys yr Aztecs a'r Otomi o Fecsico a'r Incas yn Ne America. Ym 1510, daeth fforwyr Sbaenaidd cynnar ar draws y blodyn haul yn yr Americas a chludo ei hadau yn ôl i Ewrop. [27] O'r pedwar planhigyn y gwyddys eu bod wedi'u dofi yn nwyrain Gogledd America [28] ac sydd wedi dod yn nwyddau amaethyddol pwysig, y blodyn haul yw'r pwysicaf yn economaidd ar hyn o bryd.
Mae ymchwil i gysylltiadau ffylogeograffeg a phatrymau demograffig poblogaeth ar draws blodau haul wedi dangos fod blodau haul a dyfwyd yn gynharach o glâd o boblogaethau gwyllt o'r Gwastadeddau Mawr, yn dynodi bod un digwyddiad dofi wedi digwydd yng nghanol Gogledd America. Yn dilyn tarddiad blodyn haul wedi'i drin, efallai ei fod wedi mynd trwy 'dagfeydd' sylweddol yn dyddio'n ôl i ~5,000 o flynyddoedd yn ôl. [29]
Yn yr 16eg ganrif daethpwyd â'r bridiau cnwd cyntaf o America i Ewrop gan fforwyr. [30] Mae hadau blodyn haul domestig wedi'u darganfod ym Mecsico, yn dyddio i 2100 COB. Tyfodd pobl Cenhedloedd Cyntaf America flodau haul fel cnwd o Fecsico i Dde Canada. [30] Yna cawsant eu cyflwyno i Ymerodraeth Rwsia, lle lleolwyd tyfwyr had olew, a datblygwyd a thyfu'r blodau ar raddfa ddiwydiannol. Ailgyflwynodd Ymerodraeth Rwsia'r broses tyfu had olew hon i Ogledd America yng nghanol yr 20fed ganrif; Dechreuodd Gogledd America eu cyfnod masnachol o gynhyrchu a bridio blodyn haul. [9] Daeth bridiau newydd o'r Helianthus spp. i ddechrau dod yn fwy amlwg mewn ardaloedd daearyddol newydd. Yn ystod y 18fed ganrif, daeth y defnydd o olew blodyn haul yn boblogaidd iawn yn Rwsia, yn enwedig gydag aelodau o Eglwys Uniongred Rwsia, oherwydd dim ond brasterau'n seiliedig ar blanhigion a ganiateir yn ystod y Grawys, yn ôl traddodiadau ymprydio . [31] Yn gynnar yn y 19eg ganrif, cafodd ei fasnacheiddio gyntaf ym mhentref Alexeyevka yn Voronezh Oblast yn ne orllewin Rwsia gan fasnachwr o'r enw Daniil Bokaryov, a ddatblygodd dechnoleg a oedd yn addas ar gyfer ei echdynnu ar raddfa fawr, ac a ymledodd yn gyflym.
Cynhyrchu
golyguCynhyrchu hadau blodyn haul - 2020 | |
---|---|
Gwlad | ( Miliynau o dunelli ) |
Rwsia</img> Rwsia | 13.3 |
</img> Wcráin | 13.1 |
</img> Ariannin | 3.2 |
Gweriniaeth Pobl Tsieina</img> Gweriniaeth Pobl Tsieina | 2.4 |
</img> Rwmania | 2.2 |
Twrci</img> Twrci | 2.1 |
</img> Unol Daleithiau | 1.4 |
Byd | 50.2 |
Ffynhonnell: FAOSTAT y Cenhedloedd Unedig [32] |
Yn 2020, roedd cynhyrchiad hadau blodau haul y byd yn 50 miliwn o dunelli, dan arweiniad Rwsia a'r Wcrain gyda 53% wedi'u cyfuno o'r cyfanswm (tabl).
Defnydd gwrtaith
golyguMae ymchwilwyr wedi dadansoddi effaith gwrteithiau amrywiol sy'n seiliedig ar nitrogen ar dyfiant blodau haul. Canfuwyd bod amoniwm nitrad yn cynhyrchu gwell amsugniad o nitrogen nag wrea, a berfformiodd yn well mewn ardaloedd tymheredd isel. [33]
Cynhyrchu ym Mrasil
golyguYm Mrasil, defnyddir system gynhyrchu unigryw o'r enw system ffa soia-blodyn haul : mae blodau haul yn cael eu plannu yn gyntaf, ac yna mae cnydau ffa soia yn dilyn, gan leihau cyfnodau segur a chynyddu cyfanswm cynhyrchu blodyn haul a phroffidioldeb. Mae blodau haul fel arfer yn cael eu plannu yn rhanbarthau deheuol neu ogleddol eithafol y wlad. Yn aml, yn y rhanbarthau deheuol, feu'i tyfir ar ddechrau'r tymhorau glawog, ac yna gellir plannu ffa soia yn yr haf. [34] Mae ymchwilwyr wedi dod i'r casgliad y gallai'r dull tyfu planhigfa yma gael ei wella ymhellach drwy newidiadau yn y defnydd o wrtaith . Dangoswyd bod y dull presennol yn cael effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. [35]
Hybridau a chyltifarau
golyguYn y farchnad heddiw, mae'r rhan fwyaf o'r hadau blodyn haul a ddarperir neu a dyfir gan ffermwyr yn hybridau. Mae hybridau neu flodau haul hybrid yn cael eu cynhyrchu trwy groesfridio gwahanol fathau a rhywogaethau, er enghraifft blodau haul wedi'u tyfu gyda rhywogaethau gwyllt. Drwy wneud hynny, ceir ailgyfuniadau genetig newydd yn y pen draw gan arwain at gynhyrchu rhywogaethau hybrid newydd. Yn gyffredinol, mae gan y rhywogaethau hybrid hyn ffitrwydd uwch ac mae ganddynt briodweddau neu nodweddion y mae ffermwyr yn chwilio amdanynt, megis ymwrthedd i bathogenau. [21]
Nid yw Hybrid, Helianthus annuus dwarf2 yn cynnwys yr hormon gibberellin ac nid yw'n arddangos ymddygiad heliotropig. Mae planhigion sy'n cael eu trin â chymhwysiad allanol o'r hormon yn arddangos adferiad dros dro o batrymau twf ymestyniadol. Lleihaodd y patrwm twf hwn 35% 7-14 diwrnod ar ôl y driniaeth derfynol. [9]
Mae gan flodau gwrywod hybrid di-haint a gwrywod ffrwythlon sy'n dangos heterogenedd groesfaniad isel o ymweliadau gwenyn mêl. Gall ciwiau synhwyraidd fel aroglau paill, diamedr pen hedyn, ac uchder ddylanwadu ar ymweliadau peillwyr â pheillwyr sy'n dangos patrymau ymddygiad cyson. [36]
Mae blodau haul yn cael eu tyfu fel addurniadau mewn lleoliad domestig. Gan eu bod yn hawdd eu tyfu a chynhyrchu canlyniadau ysblennydd mewn unrhyw bridd da, llaith yn llygad yr haul, maent yn hoff bwnc i blant. Mae nifer fawr o gyltifarau, o wahanol faint a lliw, bellach ar gael i'w tyfu o hadau. Mae'r canlynol yn gyltifarau o flodau haul (y rhai sydd wedi'u marcio wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol :- [37]
- Arnika
- Autumn Beauty
- Aztec Sun
- Black Oil
- Chianti Hybrid
- Claret agm[38]
- Dwarf Sunspot
- Evening Sun
- Florenza
- Giant Primrose
- Gullick's Variety agm [39]
- Incredible
- Indian Blanket Hybrid
- Irish Eyes
- Italian White
- Kong Hybrid
- Large Grey Stripe
- Lemon Queen agm[40]
- Loddon Gold agm[41]
- Mammoth Russian
- Miss Mellish agm[42]
- Monarch agm[43]
- Mongolian Giant
- Moon-Walker
- Munchkin[44]
- Orange Sun
- Pastiche agm[45]
- Peach Passion
- Peredovik
- Prado Red
- Red Sun
- Ring of Fire
- Rostov
- Skyscraper
- Solar Eclipse
- Soraya
- Strawberry Blonde
- Sunny Hybrid
- Sunsation Yellow [46]
- Sunshine
- Taiyo
- Tarahumara
- Teddy Bear agm[47]
- Thousand Suns
- Titan
- Valentine agm[48]
- Velvet Queen
- Yellow Disk
Defnyddiau
golyguGwerthir "had cyfan" (ffrwythau) blodyn yr haul fel byrbryd bwyd, yn amrwd neu ar ôl ei rostio mewn poptai, gyda neu heb halen a/neu sesnad wedi'i ychwanegu. Gellir prosesu blodau haul i mewn i fenyn cnau daear, menyn blodyn haul . Mae hefyd yn cael ei werthu fel bwyd i adar a gellir ei ddefnyddio'n uniongyrchol mewn coginio a saladau. Roedd gan y Cenhedloedd Cyntaf Americanaidd ddefnyddiau lluosog ar gyfer blodau haul yn y gorffennol, megis mewn bara, eli meddygol, llifynnau a phaent corff. [49]
Defnyddir olew blodyn haul, wedi'i dynnu o'r hadau, ar gyfer coginio, fel olew cludo ac i gynhyrchu margarîn a biodiesel, gan ei fod yn rhatach nag olew olewydd . Mae amrywiaeth o fathau o flodau haul yn bodoli gyda chyfansoddiadau asid brasterog gwahanol; mae rhai mathau "uchel-oleic" yn cynnwys lefel uwch o frasterau mono-annirlawn yn eu olew na hyd yn oed olew olewydd. Mae'r olew hefyd yn cael ei ddefnyddio weithiau mewn sebon. [50] Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia, defnyddiodd pobl yn yr Wcráin olew hadau blodau haul mewn lampau yn lle cerosin oherwydd prinder. Mae'r golau o lamp o'r fath wedi'i ddisgrifio fel "diflas" a "myglyd." [51]
Defnyddir yr hyn sy'n weddill ar ôl i'r hadau gael eu prosesu ar gyfer olew fel porthiant da byw. [52] Gellir bwydo'r cyrff sy'n deillio o ddadhylio'r hadau cyn echdynnu olew i anifeiliaid domestig hefyd. [53] Mae gan rai cyltifarau a ddatblygwyd yn ddiweddar bennau sy'n plygu tuag at i lawr. Mae'r cyltifarau hyn yn llai deniadol i arddwyr sy'n tyfu blodau fel planhigion addurnol, ond maent yn apelio at ffermwyr, oherwydd eu bod yn lleihau difrod adar a cholledion o rai clefydau planhigion . Mae blodau haul hefyd yn cynhyrchu latecs, ac yn destun arbrofion i wella eu haddasrwydd fel cnwd amgen ar gyfer cynhyrchu rwber hypoalergenig .
Yn draddodiadol, plannodd nifer o lwythau Cenhedloed Cyntaf America flodau haul ar ymylon gogleddol eu gerddi fel "pedwerydd chwaer" i'r cyfuniad mwyaf adnabyddus o dair chwaer o ŷd, ffa a gowrdiau . Mae rhywogaethau blynyddol yn aml yn cael eu plannu oherwydd eu priodweddau alelopathig . Fe'i defnyddiwyd hefyd gan Genhedloedd Cyntaf America i drin gwallt. [50] Ymhlith y bobl Zuni, mae'r gwreiddyn ffres neu sych yn cael ei gnoi gan ddyn y feddyginiaeth cyn sugno gwenwyn o brathiad neidr a rhoi fel pwltis ar y clwyf. [54] Mae'r pwltis cyfansawdd hwn o'r gwraidd yn cael ei gymhwyso gyda llawer o seremoni i frathiadau neidr gribell. [55]
Fodd bynnag, ar gyfer ffermwyr masnachol sy'n tyfu cnydau nwyddau eraill, mae'r blodyn haul gwyllt yn aml yn cael ei ystyried yn chwyn . Yn enwedig yng nghanolbarth yr Unol Daleithiau, mae rhywogaethau gwyllt (lluosflwydd) i'w cael yn aml mewn caeau corn a ffa soia a gallant leihau cynnyrch. Gellir priodoli'r gostyngiad mewn cnwd i gynhyrchu cyfansoddion ffenolig a ddefnyddir i leihau cystadleuaeth am faetholion mewn ardaloedd lle mae'r blodyn haul cyffredin yn tyfu'n brin o faetholion. [56]
Gellir defnyddio blodau haul mewn phytoremediation (technoleg sy'n defnyddio planhigion byw i lanhau pridd, aer a dŵr sydd wedi ei lygru gan gemegolion peryglus megis plwm, arsenig ac wraniwm, a'u defnyddio mewn rhizofiltration (lle defnyddir gwreiddiau planhigion i ddadlygru dŵr) i niwtraleiddio radioniwclidau a chynhwysion gwenwynig eraill a bacteria niweidiol o ddŵr. Fe'u defnyddiwyd i dynnu caesiwm-137 a strontiwm-90 o bwll cyfagos ar ôl trychineb Chernobyl, a chynhaliwyd ymgyrch debyg mewn ymateb i drychineb niwclear Fukushima Daiichi . [57] [58]
-
Hadau, heb blisgyn (chwith) a gyda phlisgyn (dde)
-
Allbwn blodau haul ledled y byd
-
Pen yn arddangos blodau mewn troellau o 34 a 55 o amgylch y tu allan
-
Paill
Diwylliant
golyguYn ystod y 19eg ganrif, credwyd y byddai tyfu planhigion cyfagos o'r rhywogaeth yn amddiffyn cartref rhag malaria. [50]
Mae'r bobl Zuni yn defnyddio'r blodau yn seremonïol ar gyfer addoli anthropig. [59] Roedd blodau haul hefyd yn cael eu haddoli gan yr Incas oherwydd eu bod yn ei weld fel symbol ar gyfer yr Haul. [60]
Y blodyn haul yw blodyn cenedlaethol Wcráin. Yn ystod goresgyniad Rwsia o’r Wcráin yn 2022, dangoswyd fideo a rannwyd yn eang ar gyfryngau cymdeithasol fenyw o Wcráin yn wynebu milwr o Rwsia, gan ddweud wrtho i “gymryd yr hadau hyn a’u rhoi yn eich pocedi fel y bydd blodau haul o leiaf yn tyfu pan fyddwch chi i gyd yn gorwedd yma " . [61] Ers hynny mae'r blodyn haul wedi dod yn symbol byd-eang o wrthwynebiad, undod a gobaith. [62]
Y blodyn haul hefyd yw blodyn talaith Kansas yn yr UDA, [4] ac un o flodau dinas Kitakyūshū, Japan .
Mae’r blodau’n destun paentiadau bywyd llonydd Vincent van Gogh yn ei <i id="mwAeM">Gyfres Blodau Haul</i>.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, defnyddiwyd y blodyn fel symbol y Mudiad Esthetig .
Defnyddir y blodyn haul yn aml fel symbol o ideoleg werdd . Mae'n symbol o'r Gymdeithas Fegan, yn o gystal caiff ei ddefnyddio fel logo ar gyfer y Blaid Werdd yn Sennedd Ewrop.
Dewiswyd blodyn yr haul fel symbol yr Eglwys Ysbrydol am lawer o resymau, ond yn bennaf oherwydd ei fod yn troi tuag at yr haul wrth i "Ysbrydoliaeth droi tuag at oleuni gwirionedd". Fel y dywedwyd yn gynharach yn yr erthygl, nid yw hyn mewn gwirionedd, yn wir. Yn aml mae gan Ysbrydegwyr Modern gelf neu emwaith gyda chynlluniau blodyn yr haul. [63]
Y blodyn haul yw'r symbol y tu ôl i Fudiad Blodau'r Haul, protest dorfol yn 2014 yn Taiwan .
Ym mis Gorffennaf 2015, caffaelwyd hadau hyfyw o'r cae lle bu damwain Malaysia Airlines Flight 17 flwyddyn ynghynt ac fe'u tyfwyd fel teyrnged i'r 15 o drigolion Iseldiroedd Hilversum a laddwyd. [64] Yn gynharach y flwyddyn honno, roedd prif ohebydd Fairfax Paul McGeough a'r ffotograffydd Kate Geraghty wedi casglu 1.5 kg o hadau blodau haul o safle'r trychineb ar gyfer teulu a ffrindiau'r 38 o ddioddefwyr Awstralia, a oedd yn anelu at roi symbol teimladwy o obaith iddynt. [65]
Ar Fai 13, 2021, yn ystod cystadleuaeth Gwisgoedd Cenedlaethol pasiant harddwch Miss Universe 2020, gwisgodd Miss Dominican Republic Kimberly Jiménez wisg “Duwies Blodau Haul” wedi’i gorchuddio â rheinstonau aur a melyn [66] a oedd yn cynnwys sawl blodyn haul go iawn wedi’u gwnïo ar y ffabrig, er bod un ohonyn nhw wedi cwympo i ffwrdd ac yn gorwedd y tu ôl iddi ar y llwyfan yn ystod ei pherfformiad.
Mae straeon modern yn aml yn honni bod y nymff Clytie, ym mytholeg Groegaidd, wedi trawsnewid yn flodyn haul tra'n torri ei chalon ar ôl ei chyn gariad Helios, duw'r haul, a'i dirmygodd hi a'i gadael am rywun arall. Fodd bynnag, nid yw blodau haul yn frodorol i Wlad Groeg na'r Eidal, ond i Ogledd America . [67] Mae'r hanes wreiddiol yn ymwneud â blodyn arall, yr heliotropiwm . [68]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Helianthus annuus L. Sp. Pl. : 904 (1753)". World Flora Online. World Flora Consortium. 2022. Cyrchwyd 30 November 2022.
- ↑ "Helianthus annuus L. Sp. Pl. : 904 (1753)". World Flora Online. World Flora Consortium. 2022. Retrieved 30 November 2022.
- ↑ "Tallest Sunflower". Guinness World Records. Cyrchwyd 4 May 2014.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Spellenberg, Richard (2001). National Audubon Society Field Guide to North American Wildflowers: Western Region (arg. rev). Knopf. tt. 378–379. ISBN 978-0-375-40233-3. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw ":1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Hangarter, Roger P. "Solar tracking: sunflower plants". Plants-In-Motion website. Indiana University. Cyrchwyd 22 August 2012.
Many people are under the misconception that the flower heads of the cultivated sunflower (Helianthus annuus) track the sun... Immature sunflower flower heads do exhibit solar tracking and on sunny days the buds will track the sun across the sky from east to west... However, as the flower bud matures and blossoms, the stem stiffens and the flower head becomes fixed facing the eastward direction."
- ↑ "Sunflowers in the blooming stage are not heliotropic anymore. The stem has frozen, typically in an eastward orientation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-23.
- ↑ Gerard, John (1597). Herball, or Generall Historie of Plantes. London: John Norton. tt. 612–614. Cyrchwyd 2012-08-08.
- ↑ "Sunflower, Developmental stages (life cycle)". GeoChemBio website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2012. Cyrchwyd 8 August 2012.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 Atamian, Hagop S.; Creux, Nicky M.; Brown, Evan A.; Garner, Austin G.; Blackman, Benjamin K.; Harmer, Stacey L. (2016-08-05). "Circadian regulation of sunflower heliotropism, floral orientation, and pollinator visits" (yn en). Science 353 (6299): 587–590. Bibcode 2016Sci...353..587A. doi:10.1126/science.aaf9793. ISSN 0036-8075. PMID 27493185. https://zenodo.org/record/889822. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw ":0" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Donat-Peter Häder; Michael Lebert (2001). Photomovement. Elsevier. tt. 673–. ISBN 978-0-444-50706-8. Cyrchwyd 15 August 2010.
- ↑ Adam, John A. (2003). Mathematics in Nature: Modeling Patterns in the Natural World. Princeton, New Jersey: Princeton University Press. t. 217. ISBN 978-0-691-11429-3. Cyrchwyd 31 January 2011.
- ↑ Knott, Ron (12 February 2009). "Fibonacci Numbers and Nature - Part 2". Department of Computer Science. University of Surrey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 September 2009. Cyrchwyd 31 January 2011.
- ↑ Knott, Ron (30 October 2010). "Fibonacci Numbers and Nature". Department of Computer Science. University of Surrey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 September 2009. Cyrchwyd 31 January 2011.
- ↑ Motloch, John L. (2000). Introduction to landscape design. New York, USA: John Wiley & Sons, Inc. t. 154. ISBN 978-0-471-35291-4. Cyrchwyd 31 January 2011.
- ↑ Jean, Roger V (1994). Phyllotaxis. t. 185. ISBN 978-0-521-40482-2. Cyrchwyd 2011-01-31.
fibonacci packing efficiency.
- ↑ "Parastichy pair(13:21) of CYCAS REVOLUTA (male) florets_WebCite". Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 3, 2009.
- ↑ Vogel, H. (1979). "A better way to construct the sunflower head". Mathematical Biosciences 44 (3–4): 179–189. doi:10.1016/0025-5564(79)90080-4.
- ↑ Prusinkiewicz, Przemyslaw; Lindenmayer, Aristid (1990). The Algorithmic Beauty of Plants. Springer-Verlag. tt. 101–107. ISBN 978-0-387-97297-8.
- ↑ "Helianthus annuus (common sunflower) Genome Project". NCBI. Cyrchwyd 2012-02-20.
- ↑ "Sunflower Genome Holds the Promise of Sustainable Agriculture". ScienceDaily. 2010-01-14.
- ↑ 21.0 21.1 Gontcharov, SV.
- ↑ Encheva, J.; Christov, M.; Shindrova, P.. "Developing Mutant Sunflower Line (Helianthus Annuus L.) By Combined Used Of Classical Method With Induced Mutagenesis and Embryo Culture Method". Bulgarian Journal of Agricultural Science 14 (4): 397-404. https://agrojournal.org/14/04-07-08.pdf. Adalwyd 15 October 2014.
- ↑ Blackman et al. (2011).
- ↑ Lentz et al. (2008).
- ↑ Rieseberg, Loren H., et al. (2004).
- ↑ Henderson & Pollack (2012).
- ↑ Putt, E.D. (1997). "Early history of sunflower". In A.A. Schneiter (gol.). Sunflower Technology and Production. Agronomy Series. 35. Madison, Wisconsin: American Society of Agronomy. tt. 1–19.
- ↑ Smith (2006).
- ↑ Park, Brian; Burke, John M. (March 2020). "Phylogeography and the Evolutionary History of Sunflower (Helianthus annuus L.): Wild Diversity and the Dynamics of Domestication" (yn en). Genes 11 (3): 266. doi:10.3390/genes11030266. PMC 7140811. PMID 32121324. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7140811.
- ↑ 30.0 30.1 Hancock, J.F. (2012). Plant Evolution and the Origin of Crop Species. CABI Pub. t. 188. ISBN 978-0-85199-874-9. Cyrchwyd 2022-04-07.
- ↑ SUNFLOWERS: The Secret History. (2007).
- ↑ "Production of sunflower seeds in 2020, Crops/Regions/World list/Production Quantity (pick lists)". UN Food and Agriculture Organization, Corporate Statistical Database (FAOSTAT). 2022. Cyrchwyd 13 March 2022.
- ↑ Spinelli, D; Bardi, L; Fierro, A; Jez, S; Basosi, R (2017). "Environmental analysis of sunflower production with different forms of mineral nitrogen fertilizers". The International Journal of Life Cycle Assessment (Journal of Environmental Management) 22 (4): 492–501. doi:10.1007/s11367-016-1089-6. PMID 23974447. http://ainfo.cnptia.embrapa.br/digital/bitstream/item/138249/1/2015AA039.pdf.
- ↑ Castro, C.; Leite, Regina (2018). "Main aspects of sunflower production in Brazil". Ocl 25: D104. doi:10.1051/ocl/2017056. Nodyn:ProQuest. https://www.ocl-journal.org/articles/ocl/pdf/2018/01/ocl170047.pdf.
- ↑ Mastuura, M. I. S. F.; Dias, F. R. T.; Picoli, J. F.; Lucas, K. R. G.; Castro, C.; Hirakuri, M. H. (2017). "Life-cycle assessment of the soybean-sunflower production system in the Brazilian Cerrado". The International Journal of Life Cycle Assessment 22 (4): 492–501. doi:10.1007/s11367-016-1089-6. http://ainfo.cnptia.embrapa.br/digital/bitstream/item/138249/1/2015AA039.pdf.
- ↑ Martin, Cinthia Susic; Farina, Walter M. (2016-03-01). "Honeybee floral constancy and pollination efficiency in sunflower (Helianthus annuus) crops for hybrid seed production" (yn en). Apidologie 47 (2): 161–170. doi:10.1007/s13592-015-0384-8. ISSN 0044-8435.
- ↑ "AGM Plants - Ornamental" (PDF). Royal Horticultural Society. July 2017. t. 43. Cyrchwyd 3 March 2018.
- ↑ "Helianthus annuus 'Claret'". Apps.rhs.org.uk. Cyrchwyd 2020-08-02.
- ↑ "Helianthus 'Gullick's Variety'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus 'Lemon Queen'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus 'Loddon Gold'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus 'Miss Mellish'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus 'Monarch'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus annuus 'Munchkin'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus annuus 'Pastiche'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus annuus 'Sunsation Yellow'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus annuus 'Teddy Bear'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ "Helianthus annuus 'Valentine'". RHS. Cyrchwyd 1 August 2020.
- ↑ Pelczar, Rita. (1993) The Prodigal Sunflower.
- ↑ 50.0 50.1 50.2 Niering, William A.; Olmstead, Nancy C. (1985) [1979]. The Audubon Society Field Guide to North American Wildflowers, Eastern Region. Knopf. t. 384. ISBN 0-394-50432-1. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "Audubon" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Neufeld, Dietrich.
- ↑ Heuzé V., Tran G., Hassoun P., Lessire M., Lebas F., 2016.
- ↑ Heuzé V., Tran G., Hassoun P., Lessire M., Lebas F., 2018.
- ↑ Camazine, Scott and Robert A. Bye (1980) A Study Of The Medical Ethnobotany Of The Zuni Indians of New Mexico.
- ↑ Stevenson, Matilda Coxe (1915) Ethnobotany of the Zuni Indians.
- ↑ Irons, Stephen M.; Burnside, Orvin C. (1982). "Competitive and Allelopathic Effects of Sunflower (Helianthus annuus)". Weed Science 30 (4): 372–377. doi:10.1017/S0043174500040789. ISSN 0043-1745. JSTOR 4043628. https://www.jstor.org/stable/4043628.
- ↑ AFP (June 24, 2011). "Sunflowers to clean radioactive soil in Japan". Yahoo News. Cyrchwyd 2011-06-25.
- ↑ Antoni Slodkowski; Yuriko Nakao (19 August 2011). "Sunflowers melt Fukushima's nuclear "snow"". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 January 2012. Cyrchwyd 22 January 2012.
- ↑ Stevenson, p.93
- ↑ "Sunflower Symbolism & the Meaning of Sunflowers in the Language of Flowers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-18. Cyrchwyd 2014-03-07.
- ↑ "Ukrainian woman offers seeds to Russian soldiers so 'sunflowers grow when they die' – video". The Guardian. 25 February 2022.
- ↑ "The sunflower, Ukraine's national flower, is becoming a global symbol of solidarity". The Washington Post. 2 March 2022.
- ↑ Awtry-Smith, Marilyn J. The Symbol of Spiritualism: The Sunflower.
- ↑ "Dutch town hard hit by MH17 disaster remembers victims with sunflowers". The Guardian. 17 July 2015. Cyrchwyd 30 May 2021.
- ↑ "Planting hope". The Sydney Morning Herald. 2015. Cyrchwyd 30 May 2021.
- ↑ "Kimberly Jiménez parades in the typical sunflower costume at the Miss Universe pre-message gala". 13 May 2021.
- ↑ Flora of North America: Common sunflower, United States Department of Agriculture, Helianthus annuus L.
- ↑ Ovid (1977). Metamorphoses: Books 1-8. Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press. tt. Book iv, lines 190–283. ISBN 9780674990463.