Marco Carynnyk
Bardd, hanesydd, golygydd, a chyfieithydd o Wcráin a anwyd yn yr Almaen yw Marco Carynnyk (Wcreineg: Марко Царинник; ganwyd 1944) sydd wedi treulio'i fywyd yn Unol Daleithiau America a Chanada. Mae'n medru Wcreineg, Saesneg, Almaeneg, Rwseg, a Phwyleg.[1]
Marco Carynnyk | |
---|---|
Ganwyd | 1944 Berlin |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cafodd ei eni ym Merlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Treuliodd cyfnod mewn gwersyll i bobl a oedd wedi'u dadleoli'n fewnol yn Augsburg, Awstria, cyn i'w deulu symud i Philadelphia yn yr Unol Daleithiau. Symudodd i Toronto, Canada, ar ddiwedd y 1960au. Fe'i cysylltir â charfan o feirdd modernaidd Wcreineg yn Efrog Newydd, a chyhoeddodd sawl cerdd mewn cyfnodolion yn y 1970au a dechrau'r 1980au.
Mae Carynnyk wedi cyhoeddi nifer o weithiau academaidd ar bynciau'r Holodomor, yr Holocost, pogromau, ac hanes yr Wcreiniaid a'r Iddewon yn Nwyrain Ewrop. Mae hefyd wedi ysgrifennu am ffilm ac wedi cyfieithu ysgrifeniadau'r gwneuthurwr ffilmiau Sofietaidd Alexander Dovzhenko.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Fellow Mr. Marco Carynnyk Archifwyd 2019-04-03 yn y Peiriant Wayback", United States Holocaust Memorial Museum. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) "Marco Carynnyk", Intstitut für Zeitgeschichte. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.