Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth

Ideoleg wleidyddol ac economaidd yw Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth (MLM) sydd yn uno Marcsiaeth–Leniniaeth—sydd ei hun yn gyfuniad o syniadaeth wleidyddol ac economaidd Farcsaidd a strategaethau chwyldroadol Leninaidd—â Maoaeth. Yn ôl y rhai sydd yn ei arddel, dyma'r drydydd cam yn natblygiad Marcsiaeth, a'r ffurf uchaf ar yr athroniaeth honno. Haerai Karl Marx (1818–83) taw brwydr rhwng y dosbarth llywodraethol a'r dosbarth gweithiol yw hanes y ddynolryw; dadleuai Vladimir Lenin (1870–1924) bod angen chwyldro gan y gweithwyr diwydiannol i ddymchwel y dosbarth llywodraethol a sefydlu unbennaeth y proletariat. a daeth Marcsiaeth–Leniniaeth yn ideoleg wladwriaethol yr Undeb Sofietaidd. Yn ei dro, mynnai Mao Zedong (1893–1976) y gallai dosbarth y gwerinwyr gael ei fyddino a'i drefnu i gipio grym, strategaeth a fu'n llwyddiannus yn Chwyldro Comiwnyddol Tsieina.

Mae MLM felly yn pwyselisio pwysigrwydd byddino'r bobl ar raddfa eang, addysg wleidyddol, a thrais chwyldroadol er mwyn cyrraedd cymdeithas sosialaidd. Dadleua dros ryfel diddiwedd yn erbyn y dosbarth llywodraethol, a gwrth-imperialaeth. Nod derfynol MLM yw sefydlu cymdeithas ddiddosbarth ac ailddosrannu cyfoeth a grym yn gydraddol rhwng pob un aelodau o'r gymdeithas.

MLM oedd ideoleg wladwriaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina dan arweiniad Mao, ac hefyd yn sail i Pensamiento Gonzalo ("Meddwl Gonzalo"), sef ideoleg y Sendero Luminoso ym Mheriw. Mae'r rhai sydd yn ei hamddiffyn yn dadlau taw MLM sydd i ddiolch am wella bywydau trwch y boblogaeth yn Tsieina. Serch, mae nifer yn ystyried yr ideoleg yn gyfrifol am gamdriniaethau hawliau dynol ac awdurdodaeth ormesol wrth geisio cyflawni ei hamcanion.