Ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth (MLM) yw Meddwl Gonzalo (Sbaeneg: pensamiento Gonzalo) a ddatblygwyd gan Abimael Guzmán, sefydlwr ac arweinydd y grŵp herwfilwrol comiwnyddol Sendero Luminoso ("Y Llwybr Disglair") ym Mheriw.[1] Ffugenw neu nom de guerre Guzmán oedd "Presidente Gonzalo", ac efe a fathodd y term yn y 1980au, ar batrwm "Meddwl Mao Zedong", i ddisgrifio ei ddehongliad ei hun o MLM a'i ymdrechion i addasu'r ideoleg honno at chwyldro sosialaidd ym Mheriw.

Yn ôl Guzmán, cam newydd a thrawsffurfiol yn namcaniaeth Farcsaidd oedd Meddwl Gonzalo, ac ideoleg a oedd yn angenrheidiol ar gyer ennill y chwyldro sosialaidd a sefydlu cymdeithas gomiwnyddol ym Mheriw. Dadleuodd dros addasu Marcsiaeth–Leniniaeth i amodau neilltuol Periw: yn hytrach na phwyslais Marx a Lenin ar rôl y dosbarth gweithiol diwydiannol a threfol, haerodd Guzmán taw'r gwerinwyr a'r bobloedd frodorol oedd ar flaen y gad yng ngwledydd yr Andes, yn debyg i syniadaeth Mao yng nghefn gwlad Tsieina.

Prif strategaeth filwrol Guzmán oedd "rhyfel hir y bobl" er mwyn cyrraedd nod y chwyldro, a cheisiodd fyddino'r bobl drwy gyfuniad o addysg wleidyddol, hyfforddiant herwfilwrol, a gorfodi'r rhai nad oedd yn ufuddhau. O gymharu â chysyniad "unbennaeth y proletariat", dadleuodd Guzmán dros sefydlu "gwladwriaeth ddemocrataidd newydd" wrth drawsnewid i gymdeithas sosialaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "El pensamiento Gonzalo no es una idea democrática". PUCP. 19 Ionawr 2012. Cyrchwyd 18 Ebrill 2021. (Sbaeneg)