Mared
Cantores-gyfansoddwraig Gymreig yw Mared Williams, a adnabyddir fel cantores yn Mared .
Bywyd
golyguCantores, cyfansoddwraig ac actor Cymreig o Lannefydd yw Mared Williams. Ar hyn o bryd mae hi'n rhannu ei hamser rhwng Llanefydd a Llundain.[1]
Gyrfa
golyguEr iddi ystyried astudio’r gyfraith[2], astudiodd Mared gerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds tan 2018 ac yna gradd meistr mewn perfformiad theatr gerdd yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Roedd ganddi rolau ensemble ac roedd hi'n deall rolau Eponine yn Les Miserables yn y West End yn 2019. Ymunodd Mared â grŵp Cymry’r West End yn ystod y pandemig covid sydd wedi perfformio mewn cyngherddau gan gynnwys yn y Royal Albert Hall.[3] Mewn perfformiad Britain’s Got Talent gyda’r grŵp, gwnaeth lleisiau Mared argraff ar y beirniaid, gyda Simon Cowell yn dweud bod perfformiad y grŵp yn “eithriadol”.[4]
Enillodd Mared Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 am yr albwm, Y Drefn, gyda label Recordiau I KA CHING, a gyhoeddwyd yn fyw ar BBC Radio Cymru.[5] Mae’r albwm yn ddwyieithog ac yn cynnwys sesiynau byw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.[6] Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd Mared “Mae fy nghalon yn llawn! Diolch yn fawr am wneud fy mlwyddyn fil o weithiau'n well." “Mae’r albwm yma’n golygu’r byd i mi ac mae cael yr ymateb yma wedi bod mor arbennig.” [7]
Yn 2021, enillodd Mared wobr Y Selar am Seren y Sîn.[8] Yn yr un flwyddyn perfformiodd Mared yn y fersiwn covid Ar-lein Eisteddfod Genedlaethol Cymru, "Eisteddfod AmGen". [9]
Perfformio yn Efrog Newydd
golyguYn 2022, perfformiodd Mared yng nghyngerdd Cymru a'r Byd yn Times Square, Efrog Newydd, a ddarlledwyd ar S4C ar drothwy gêm bêl-droed Cwpan Y Byd rhwng Cymru a UDA. Roedd yr actorion o Gymru, Ioan Gruffudd, Mathew Rhys, a Michael Sheen hefyd i'w disgwyl i gymryd rhan.[10] “Mae genon ni gymaint o gyfoeth yn ein cerddoriaeth a diwylliant,” meddai.
“Ma’n rili neis cael gweld Cymru yn cael platfform byd enwog yn ddiweddar ar raglen 'Welcome to Wrexham' efo Ryan Renolds a Rob McElhenney. So dwi rili yn ymfalchïo bo’ ni’n gallu rhannu’r iaith Gymraeg a chael creu partneriaeth wahanol yma allan yn Efrog Newydd.”[11]
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddwyd Mared fel artist unigol gorau’r flwyddyn Y Selar.[12]
Dolenni
golygu- Ailgymysgiad trac Mared Y Selar, Ebrill 2022
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Howkins, Jane (2022-06-24). "Mared Williams Announces Leeds Date & EP". York Calling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Ateb y Galw: Mared Williams". BBC Cymru Fyw. 2022-12-05. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ Howkins, Jane (2022-06-24). "Mared Williams Announces Leeds Date & EP". York Calling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ Owen, Annie (2022-05-22). "Britain's Got Talent judges wowed by 'pitch perfect' North Wales singers". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Mared wins this year's Welsh Language Album of the Year Award | National Eisteddfod". eisteddfod.wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-28. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ Howkins, Jane (2022-06-24). "Mared Williams Announces Leeds Date & EP". York Calling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-28.Howkins, Jane (2022-06-24). "Mared Williams Announces Leeds Date & EP". York Calling. Retrieved 2023-02-28.
- ↑ "Mared's 'Y Drefn' wins Welsh Language Album of the Year Award". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-08-07. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Pwy oedd yn fuddugol yng Ngwobrau'r Selar 2021?". BBC Cymru Fyw. 2021-02-12. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Albwm y Flwyddyn: 'Profiad bythgofiadwy' Mared Williams". BBC Cymru Fyw. 2021-08-06. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "S4C to host Wales v USA concert on New York's Times Square tonight and hand Rob and Ryan national award". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-11-14. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Cyngerdd S4C yn Efrog Newydd yn 'rhannu diwylliant Cymru efo'r Byd'". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Enillwyr Gwobrau'r Selar 2022". BBC Cymru Fyw. 2023-02-24. Cyrchwyd 2023-02-28.