Maredudd ab Owain ab Edwin

brenin Deheubarth

Brenin Deheubarth o 1063 hyd 1072 oedd Maredudd ab Owain ab Edwin (bu farw 1072).

Maredudd ab Owain ab Edwin
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farw1072 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadOwain ab Edwin (Deheubarth) Edit this on Wikidata

Roedd Maredudd yn fab i Owain ab Edwin o linach Hywel Dda. Am gyfnod meddiannwyd y deyrnas gan frenin Gwynedd, Gruffydd ap Llywelyn, ond pan laddwyd ef yn 1063 llwyddodd Maredudd i adennill y deyrnas i linach Hywel.

Yn ystod teyrnasiad Maredydd y dechreuodd ymosodiadau'r Normaniaid ar dde-ddwyrain Cymru. Wedi rhywfaint o ymdrech i'w gwrthwynebu, penderfynodd Maredudd adael Gwent iddynt, a gwobrwywyd ef a thiroedd yn Lloegr yn 1070. Yn 1072 lladdwyd ef mewn brwydr ger Afon Rhymni, a dilynwyd ef gan ei frawd, Rhys ab Owain.

Roedd ganddo un mab, Gruffydd ap Maredudd, a fu'n byw ar diroedd ei dad yn Lloger am rai blynyddoedd cyn cael ei ladd wrth geisio adennill teyrnas ei dad o ddwylo Rhys ap Tewdwr.

Llyfryddiaeth golygu

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

O'i flaen :
Gruffydd ap Llywelyn
Teyrnoedd Deheubarth
Maredudd ab Owain ab Edwin
Olynydd :
Rhys ab Owain