Owain ab Edwin (Deheubarth)

Aelod o linach frenhinol Deheubarth oedd Owain ab Edwin (fl, c. 1030).

Roedd Owain yn fab i Edwin ab Einion o linach Hywel Dda, ac yn frawd i Maredudd a Hywel ab Edwin.

Pan fu Rhydderch ab Iestyn, oedd wedi cipio teyrnas Deheubarth, farw yn 1033 daeth Hywel a Maredudd yn deyrnoedd Deheubarth. Yn ddiweddarach, cipiwyd Deheubarth gan Gruffudd ap Llywelyn i Wynedd, ond llwyddodd mab Owain ab Edwin, Maredudd ab Owain ab Edwin i adennill y deyrnas i'r llinach frodorol wedi marwolaeth Gruffudd ym 1063.