Maredudd ap Cynan ab Owain

(1200-1212)

Maredudd ap Cynan ab Owain neu Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Gruffudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.

Maredudd ap Cynan ab Owain
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Bu farw1212 Edit this on Wikidata
TadCynan ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Genillin Edit this on Wikidata
PlantLlywelyn Fawr ap Maredudd, Llawr Grach ap Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd o Feifod Edit this on Wikidata

Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.

Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.

Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn 1212. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r tywysog o'r un enw) a Llywelyn Fychan.