Llywelyn Fawr

tywysog Gwynedd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llywelyn ab Iorwerth)

Llywelyn ap Iorwerth (c.117311 Ebrill 1240), neu Llywelyn Fawr, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog de facto Cymru. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 1240 roedd yn cael ei gydnabod (ac yn galw ei hun) yn Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri.

Llywelyn Fawr
Llywelyn the Great.JPG
Ganwyd 1173 Edit this on Wikidata
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Ebrill 1240 Edit this on Wikidata
Abaty Aberconwy Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Tad Iorwerth Drwyndwn Edit this on Wikidata
Mam Marared ferch Madog Edit this on Wikidata
Priod Y Dywysoges Siwan Edit this on Wikidata
Partner Tangwystyl Goch Edit this on Wikidata
Plant Gruffudd ap Llywelyn Fawr, Elen ferch Llywelyn, Gwladus Ddu, Angharad ferch Llywelyn, Dafydd ap Llywelyn, Tegwared y Bais Wen, Susanna ferch Llywelyn, Margaret ferch Llywelyn, Helen ferch Daffyd, Margred verch Llywelyn Edit this on Wikidata
Llinach Teulu brenhinol Gwynedd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) a Llywelyn (gwahaniaethu).

Roedd yn Dywysog Cymru gyfan i bob pwrpas. Roedd yn ŵyr i Owain Gwynedd, ac yn unig fab i Iorwerth Drwyndwn, sef mab cyfreithlon hynaf Owain Gwynedd,[1][2] tra'r oedd ei fam, Marged, yn ferch i Madog ap Maredudd o Bowys.[3] Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn ŵyr iddo drwy ei fab Gruffudd gyda Thangwystl.[2] Drwy gyfuniad o ryfela a diplomyddiaeth amlygodd ei hun fel un o lywodraethwyr mwyaf blaengar ac abl Cymru’r Oesoedd Canol. Yn ystod ei deyrnasiad brwydrodd yn ddygn ac ymgyrchu’n daer i wireddu ei weledigaeth yng Nghymru o greu tywysogaeth Gymreig.[2]

Yn ystod plentyndod Llywelyn, rheolwyd Gwynedd gan ei ddau ewythr, ac roeddent wedi rhannu’r deyrnas rhyngddynt, yn dilyn marwolaeth tad-cu Llywelyn, sef Owain Gwynedd, yn 1170. Bu’r blynyddoedd ar ôl 1170 yn gyfnod ansefydlog, gyda disgynyddion Owain yn brwydro i reoli. Roedd hawl Llywelyn i fod yn rheolwr cyfreithlon yn gadarn a dechreuodd ymgyrch i ennill pŵer pan oedd yn ifanc. Bu 1197 yn drobwynt pwysig. Daliodd Llywelyn ap Iorwerth ei ewythr Dafydd ab Owain a'i alltudio o Wynedd, meddiannodd y Berfeddwlad a chipiodd weddill Gwynedd yn 1200.[1]

Ef oedd prif reolwr Gwynedd erbyn 1201, a lluniodd gytundeb gyda Brenin Lloegr yn y flwyddyn honno. Yn y Deheubarth, manteisiodd Llywelyn ar y rhwygiadau a fu yn nheyrnas yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd rhwng ei feibion yn dilyn ei farwolaeth yn 1197. Rhannodd Llywelyn y tiroedd rhyngddynt a daeth Llywelyn yn uwch-arglwydd ar y Deheubarth.[4][5]

Parhaodd perthynas dda rhyngddo ef a’r Brenin John, Brenin Lloegr, am weddill y degawd hwnnw. Priododd Llywelyn ferch John, sef Siwan, yn 1205. Pan arestiwyd Gwenwynwyn ap Owain o Bowys gan John yn 1208, cymerodd Llywelyn y cyfle i feddiannu Powys. Ond yn 1210 gwaethygodd y berthynas rhwng Llywelyn a John ac oherwydd hynny penderfynodd John ymosod ar Wynedd yn 1211. Gorfodwyd Llywelyn i ofyn am delerau i geisio cymodi, a bu’n rhaid iddo ollwng ei afael ar ei holl diroedd i’r dwyrain o’r Afon Conwy, er iddo lwyddo i’w hadfeddiannu y flwyddyn ddilynol mewn cynghrair gyda thywysogion Cymreig eraill. Lluniodd gynghrair gyda’r barwniaid a oedd wedi gorfodi John i lofnodi'r Magna Carta yn 1215. Erbyn 1216, Llywelyn oedd y prif bŵer yng Nghymru, a chynhaliodd gyngor o reolwyr Cymreig yn Aberdyfi yn yr un flwyddyn, lle tyngwyd llw o ffyddlondeb iddo ef er mwyn dosbarthu tiroedd i’r tywysogion eraill.

Yn dilyn marwolaeth y Brenin John, llofnododd Llywelyn gytundeb gyda’i olynydd, Harri III, yn 1218. Roedd Cytundeb Caerwrangon yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr o hawliau Llywelyn yng Nghymru ac yn gadarnhad o’r hyn a gytunodd gyda thywysogion eraill Cymru yn Aberdyfi yn 1216. Bu’r pymtheg mlynedd nesaf yn gythryblus a chyfnewidiol i Llywelyn oherwydd bu mewn gwrthdaro cyson ag Arglwyddi’r Mers - yn eu plith, William Marshall, Iarll Penfro, a'i heriodd yn ne-orllewin Cymru yn 1223, a Hubert de Burgh a'i heriodd yn ne Powys yn 1228.[6][4]

Bu ei berthynas â’i dad-yng-nghyfraith, John, Brenin Lloegr yn anghyson, ac roedd y ffaith ei fod wedi llunio cynghreiriau gyda rhai o brif Arglwyddi’r Mers yn dangos mor anwadal oedd gwleidyddiaeth yr oes. Roedd Cytundeb Heddwch Middle yn 1234 yn datgan diwedd gyrfa filwrol Llywelyn, oherwydd estynnwyd cadoediad heddwch y cytundeb tan ddiwedd teyrnasiad Llywelyn. Sefydlogodd ei safle a’i awdurdod yng Nghymru tan ei farwolaeth yn 1240 ac olynwyd ef gan ei fab Dafydd ap Llywelyn. Pan alwodd ynghyd ei ddeiliaid yn Ystrad Fflur yn 1238 roedd hynny'n ddatganiad o ddymuniad Llywelyn bod ei benarglwyddiaeth ef fel Tywysog Cymru a’i syniad o greu tywysogaeth Cymru yn cael ei throsglwyddo i’w aer, Dafydd. Roedd yr arweinyddion oedd yn bresennol yn tyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd i sicrhau bod hynny'n cael ei wireddu yn y dyfodol.[2][7]

Llinach deuluol a bywyd cynnarGolygu

 
Arfbais Llywelyn

Ni wyddom lawer am flynyddoedd cynnar Llywelyn. Yn ôl y traddodiad cafodd ei eni yng Nghastell Dolwyddelan, Dyffryn Lledr tua 1173, yn fab i Iorwerth ab Owain, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Iorwerth Drwyndwn, ac yn ŵyr i Owain Gwynedd, a fu’n rheolwr Gwynedd tan ei farwolaeth yn 1170. Roedd Llywelyn yn ddisgynnydd ym mhrif linach Rhodri Mawr ac felly'n aelod o linach frenhinol Gwynedd.[8]

Bu farw ei dad, Llywelyn Drwyndwn, pan oedd Llywelyn yn blentyn bach. Does dim cofnodion bod Llywelyn Drwyndwn wedi cymryd rhan yn yr ymrafael a fu rhwng meibion eraill Owain Gwynedd yn dilyn ei farwolaeth, er mai ef oedd y mab hynaf. Yn ôl traddodiad, roedd yn anabl neu wedi ei anffurfio mewn rhyw ffordd fel na allai fod yn rhan o’r frwydr am bŵer.[9] Yn ôl yr hanesydd, J.E Lloyd, lladdwyd Iorwerth mewn brwydr ym Mhennant Melangell, Powys, yn 1174, yn ystod y rhyfeloedd a ymladdwyd i benderfynu'r olyniaeth yn dilyn marwolaeth ei dad.[10]

Erbyn 1175, roedd Gwynedd wedi cael ei rhannu rhwng dau o ewyrth Llywelyn, sef Dafydd ab Owain, a oedd yn rheoli’r tiroedd i’r dwyrain o Afon Conwy, a Rhodri ab Owain, a oedd yn meddiannu’r tiroedd i'r gorllewin o'r afon. Dafydd a Rhodri oedd meibion Owain drwy ei ail briodas â Cristin ferch Gronw. Nid oedd y briodas hon yn cael ei hystyried yn ddilys gan yr Eglwys gan fod Cristin ac Owain yn gefndryd cyntaf, ac roedd cyfraith eglwys yn datgan fod perthynas deuluol o'r fath yn golygu bod y briodas yn anghyfreithlon. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio at Iorwerth Drwyndwn fel unig fab cyfreithlon Owain Gwynedd[11] ac yn dilyn marwolaeth Iorwerth, Llywelyn a ystyriwyd gan yr Eglwys fel yr unig ymgeisydd cyfreithlon ar gyfer gorsedd Gwynedd.[5]

Mam Llywelyn oedd Marged, merch Madog ap Maredudd, tywysog Powys. Mae tystiolaeth yn bodoli bod Marged, ar ôl marwolaeth ei gŵr cyntaf, wedi priodi yn ystod haf 1197 â Gwion, nai Roger Powys o Gastell Whittington, a bod mab wedi ei eni iddynt, sef Dafydd ap Gwion. Felly, mae rhai yn dadlau na wnaeth Marged briodi aelod o deulu’r Corbet o Gastell Caus (ger Westbury, Swydd Amwythig) ac yn ddiweddarach Castell Moreton Corbet. Er hynny, mae dogfen yn dangos bod Llywelyn ab Iorwerth wedi rhoi rhodd o dir i’r fynachlog yn Wigmore, gyda Llywelyn yn cyfeirio at y ffaith bod ei fam yn aelod o lys Corbet.[12]

 
Sêl Llywelyn ap Iorwerth

Llinach frenhinol GwyneddGolygu

Iago ab Idwal ap Meurig
c. 1023-1039
 
 
Cynan ab Iago
m. 1060
 
 
Gruffydd ap Cynan
1055-1081-1137
 
 
Owain Gwynedd
1100-1137-1170
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Hywel ab Owain Gwynedd
c. 1170
Iorwerth Drwyndwn
1145-1174
Dafydd ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
Maelgwn ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1173
Rhodri ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1195-1240


Sefydlu ei awdurdod 1188-1199Golygu

 
Llywelyn Fawr (cerflun yng Nghonwy)

Rhaniadau yng NgwyneddGolygu

Gyda marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 bu gwrthdaro a rhaniadau dwfn ymhlith disgynyddion Owain yng Ngwynedd. Tasg gyntaf Llywelyn oedd sefydlu ei awdurdod. Gwnaeth hyn yn rhannol drwy nerth arfau ac yn rhannol drwy nawdd a chynghreirio. Yn 1194, gyda chymorth ei gefndryd, Gruffudd ap Cynan a Maredudd ap Cynan, gorchfygodd Llywelyn ei ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd, mab Owain Gwynedd, ym Mrwydr Aberconwy.[13] Meddiannwyd tiroedd ei frawd, Rhodri ab Owain, i’r gorllewin o afon Conwy gan Gruffudd a Maredudd tra bod Llywelyn wedi cipio tiroedd Dafydd a leolwyd i’r dwyrain o afon Conwy.[1][14] Bu farw Rhodri ab Owain yn 1195.[15]

Yn ystod y blynyddoedd dilynol canolbwyntiodd Llywelyn ar gadarnhau ei awdurdod. Bu 1197 yn drobwynt pwysig arall yn ei esgyniad i bŵer yng Ngwynedd. Herwgipiodd Llywelyn ei ewythr Dafydd ab Owain a’i garcharu[16] ond flwyddyn yn ddiweddarach perswadiwyd ef gan Hubert Walter, Archesgob Caergaint, i ryddhau Dafydd, ac fe wnaeth hwnnw ffoi i Loegr, lle bu farw ym mis Mai 1203. Erbyn 1200 roedd Llywelyn wedi meddiannu gweddill Gwynedd. Yn sgil y datblygiadau hyn, penderfynodd y Brenin John y byddai’n cydnabod awdurdod Llywelyn wrth i Llywelyn dyngu llw o ffyddlondeb iddo yn 1201.[1]

Rhaniadau yn rhannau eraill o GymruGolygu

Rhannwyd Cymru yn ddwy ran - y Pura Wallia, sef yr ardaloedd a reolwyd gan y tywysogion Cymreig, a’r Marchia Wallia, a reolwyd gan y barwniaid Eingl-Normanaidd. Ers marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, roedd Rhys ap Gruffydd wedi datblygu teyrnas y Deheubarth i fod y deyrnas fwyaf pwerus yng Nghymru ac wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y Pura Wallia. Yn dilyn marwolaeth Rhys yn 1197, roedd ymladd rhwng ei feibion wedi achosi rhwyg a rhaniadau yn y Deheubarth rhwng gwahanol garfannau. Ceisiodd Gwenwynwyn ab Owain, tywysog Powys Wenwynwyn, sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, ac yn 1198 casglodd fyddin fawr er mwyn rhoi gwarchae ar Gastell Paun (Painscastle) rhwng Llanfair-ym-Muallt a Thalgarth ym Mhowys,[17] oedd yn cael ei feddiannu ar y pryd gan filwyr Gwilym Brewys, Arglwydd Bramber. Anfonodd Llywelyn filwyr i helpu Gwenwynwyn, ond ym mis Awst, trechwyd lluoedd Gwenwynwyn gan fyddin a arweiniwyd gan y Prif ustus, Geoffrey Fitz Peter.[18] Rhoddodd gorchfygiad Gwenwynwyn y cyfle i Llywelyn sefydlu ei hun fel arweinydd y Cymry, ac yn 1199 cipiodd Llywelyn gastell pwysig yr Wyddgrug. Erbyn hynny roedd wedi dechrau arfer y teitl Tocius norwallie princeps, sef Tywysog Gogledd Cymru Gyfan’.[19] Yn fwy na thebyg, nid oedd Llywelyn yn rheoli Gwynedd gyfan erbyn y cyfnod hwn gan mai ei gefnder Gruffudd ap Cynan a dalodd wrogaeth ar ran Gwynedd i’r Brenin John yn 1199.[20][21]

Tywysog GwyneddGolygu

   
Llywelyn a Siwan; ffenestri lliw Eglwys y Santes Fair, Trefriw, Bwrdeistref Sirol Conwy.

1200-1210 - SefydlogiGolygu

Yn 27 oed, daeth Llywelyn ap Iorwerth yn dywysog Gwynedd ar ôl gorchfygu ei ddau ewythr. Bu farw Gruffudd ap Cynan yn 1200 a daeth Llywelyn yn arweinydd diamheuol Gwynedd.[1] Yn 1201 cipiodd a meddiannodd Eifionydd a Llŷn oddi wrth Maredudd ap Cynan ar sail cyhuddiad o deyrnfradwriaeth.[20]

Yng Ngorffennaf 1201 arwyddodd y cytundeb ysgrifenedig ffurfiol cyntaf yn hanes Cymru rhwng tywysog Cymru a choron Lloegr. Yn y cytundeb roedd cynghorwyr y brenin John yn cydnabod hawl Llywelyn i orsedd Aberffraw a'r tir a ddaliai, ac yn cydnabod hefyd ddilysrwydd Cyfraith Hywel Dda. Fel rhan o’r telerau roedd yn rhaid i Llywelyn dyngu llw a thalu gwrogaeth i’r Brenin, ac mewn achosion o dir a feddiannwyd gan Llywelyn roedd hawl i’r achosion hynny gael eu clywed yn ôl Cyfraith Hywel Dda, sef cyfraith Cymru.[22]

Yn 1204 cipiodd Llywelyn gantref strategol Penllyn, ar y ffin â Phowys Fadog; arwydd o'i uchelgais tuag at y dyfodol i reoli'r Bowys anghytûn.[4]

I gadarnhau ei sefyllfa ymhellach, priododd y Dywysoges Siwan, merch y Brenin John, yn 1205.[23] Manteisiodd Llywelyn ar ei berthynas newydd. Yn 1208 bu anghytundeb rhwng Gwenwynwyn ab Owain o Bowys a'r Brenin John, a chafodd wŷs gan y Brenin i fynd i Amwythig yn yr Hydref, ac yna arestiwyd ef a chollodd ei holl diroedd. Manteisiodd Llywelyn ar y sefyllfa gan gipio Powys Wenwynwyn (tra'r oedd Gwenwynwyn ab Owain oddi cartref, wedi ei arestio dros dro gan John, ac a oedd yn ddeiliad i goron Lloegr), a gorymdeithiodd gyda'i fyddin i Geredigion gan feddiannu ac atgyfnerthu Castell Aberystwyth a sicrhau gwrogaeth yr arglwyddi lleol.[24][1]

Defnyddiodd Llywelyn y sefyllfa i yrru Maelgwn allan o ogledd Ceredigion a gellir dehongli hwn fel arwydd clir bod Llywelyn yn dangos ei fwriad i bwysleisio mai rheolwr Gwynedd oedd arweinydd y Pura Wallia.[1] Roedd Llywelyn yn medru defnyddio ei achau hanesyddol i gyfiawnhau’r hawl hon gan ei fod yn ddisgynnydd i linach frenhinol Aberffraw ac yn un o ddisgynyddion Rhodri Mawr a Gruffydd ap Cynan. Roedd hefyd â’i fryd ar ddilyn polisi mwy herfeiddiol na Owain Gwynedd, ei dad-cu, er mwyn cael cydnabyddiaeth i’w awdurdod y tu allan i deyrnas Gwynedd.

Roedd angen cefnogaeth Llywelyn ar John yr adeg honno oherwydd problemau â Ffrainc a nerth y barwniaid yn Lloegr, ac roedd Llywelyn yn ymwybodol o hynny. Yn 1209 bu'n cefnogi John yn ystod ei gyrch yn erbyn William I o’r Alban. Erbyn 1210 roedd awdurdod Llywelyn ar seiliau cadarn, i bob golwg. Er ei fod yn anghytuno â John a'i olynydd, Harri III o Loegr weithiau, llwyddodd i gadw ei dywysogaeth yn annibynnol a hyd yn oed cipio'r rhan fwyaf o Bowys a Cheredigion, hefyd.[25]

1210-1217 - Colledion ac adferiadGolygu

 
Castell Dolwyddelan - man geni Llywelyn ap Iorwerth yn ôl y traddodiad

Ond daeth tro ar fyd. Yn 1210 dirywiodd y berthynas rhwng Llywelyn a’r Brenin John. Awgryma’r hanesydd J.E. Lloyd bod y gwrthdaro wedi digwydd oherwydd bod Llywelyn wedi ffurfio cynghrair â Gwilym Brewys, 4ydd Arglwydd Bramber, a oedd wedi ffraeo gyda’r brenin ac wedi colli ei diroedd. Tra'r oedd John yn arwain ymgyrch yn erbyn Gwilym Brewys a’i gefnogwyr yn Iwerddon, roedd byddin o dan arweiniad Iarll Ranulph o Gaer a Peter des Roches, Esgob Caer-wynt, wedi goresgyn Gwynedd. Dinistriodd Llywelyn ei gastell ei hun yn Neganwy a thynnodd yn ôl i ochr orllewinol afon Conwy. Ailadeiladwyd Deganwy gan Iarll Caer ond talwyd y pwyth yn ôl gan Llywelyn drwy ddifetha tiroedd yr iarll.[26] Anfonodd John filwyr i helpu i adfer rheolaeth Gwenwynwyn yn ne Powys.

Yn 1211 goresgynnwyd Gwynedd gan John gyda chefnogaeth cyfran helaeth o’r tywysogion Cymreig, a’i fwriad yn ôl Brut y Tywysogion oedd cymryd tiroedd Llywelyn oddi wrtho a’i ddinistrio’n gyfan gwbl.[27] Methodd yr ymosodiad cyntaf, ond ym mis Awst 1211 llwyddodd John i groesi afon Conwy a threiddio i mewn i Eryri.[28] Llosgwyd Bangor a chipiwyd Esgob Bangor. Gorfodwyd Llywelyn i ddod i delerau â’r Brenin, ac ar gyngor ei gynghorwyr anfonwyd ei wraig Siwan i drafod gyda’i thad, Brenin Lloegr.[29] Llwyddodd Siwan i berswadio ei thad i beidio amddifadu Llywelyn o’i holl diroedd, ond methodd osgoi sefyllfa lle collodd ei holl diroedd i’r dwyrain o afon Conwy. Bu'n rhaid iddo hefyd dalu ar ffurf gwartheg a cheffylau a throsglwyddo gwystlon i’r Brenin, gan gynnwys ei fab anghyfreithlon, Gruffydd. Roedd yn rhaid iddo gytuno hefyd, petai’n marw heb etifedd cyfreithlon oddi wrth Siwan, y byddai ei holl diroedd yn dychwelyd i’r Brenin.[30] Trodd y mân arglwyddi Cymreig eu cefn ar Llywelyn. Roedd yn well ganddynt gydnabod Brenin Lloegr fel eu penarglwydd, na fyddai’n ymyrryd yn ormodol yn eu teyrnasoedd, yn hytrach na Llywelyn fel rheolwr brodorol.[25]

Roedd hon yn siom fawr i Llywelyn ond adferwyd ei statws yn fuan. Trosglwyddodd y tywysogion Cymreig eraill, a oedd yn flaenorol wedi cefnogi John yn erbyn Llywelyn, eu teyrngarwch a’i ail-gyfeirio at Llywelyn. Ffurfiodd Llywelyn gynghrair gyda Gwenwynwyn o Bowys a dau o reolwyr y Deheubarth, sef Maelgwn ap Rhys a Rhys Gryg, meibion yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd o'r Deheubarth, a chodi mewn gwrthryfel yn erbyn John. Yn ôl Cronicl de Wallia, galwyd y cyfarfod ynghyd yn Hendy-gwyn, a dewisiwyd Llywelyn, Tywysog Gwynedd, fel eu harweinydd.[25] Cawsant gefnogaeth y Pab Innocent III, a oedd wedi bod mewn anghytundeb gyda John ers blynyddoedd ac wedi gosod ei diroedd o dan waharddiad. Rhyddhawyd Llywelyn, Gwenwynwyn a Maelgwn o’u llwon o ffyddlondeb i John gan y Pab, a chodwyd gwaharddiad ar y tiroedd roeddent yn eu rheoli. Llwyddodd Llywelyn i adfeddiannu holl diroedd Gwynedd heblaw am gestyll Deganwy a Rhuddlan o fewn deufis yn 1212.[31][25]

Roedd John wedi bwriadu lansio ymgyrch arall i oresgyn Gwynedd yn Awst 1212 ond rhybuddiwyd ef gan ei ferch a gan William I o’r Alban y byddai ei farwniaid yn cymryd y cyfle i’w ladd neu ei drosglwyddo fel carcharor i’w elynion petai’n gwneud hynny.[32] Penderfynodd John roi’r syniad o'r neilltu, ac yn 1213 meddiannwyd cestyll Deganwy a Rhuddlan gan Llywelyn ab Iorwerth.[33]

Lluniodd Llywelyn gytundeb gyda Philip II Augustus o Ffrainc[34] cyn gwneud cynghrair gyda’r barwniaid oedd yn gwrthryfela yn erbyn John, ac yn 1215 gorymdeithiodd i mewn i Amwythig a meddiannu'r dref heb unrhyw wrthwynebiad. Pan orfodwyd John i lofnodi'r Magna Carta cynigiwyd telerau ffafriol i Llywelyn, oedd yn cynnwys rhyddhau ei fab Gruffudd a oedd wedi bod yn wystlon ers 1211. Yn yr un flwyddyn penodwyd Ednyfed Fychan yn ddistain Gwynedd a chydweithiodd yn agos gyda Llywelyn am weddill ei deyrnasiad.[35][36]

Erbyn nawr roedd Llywelyn wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig annibynol, a rhwng 1215 a 1218 llwyddodd i ehangu ei awdurdod ar draul y problemau mewnol a wynebai'r Brenin John yn ei deyrnas ac ymhlith ei farwniaid. Rhwng 1215 a 1216 meddiannodd gestyll yng Ngwent a Brycheiniog, ac arweiniodd byddin o fân dywysogion Cymreig a chipio cestyll eraill, yn eu plith, Caerfyrddin, Cydweli, Llansteffan, Arberth, Aberteifi a Chilgerran.[37][38] Yn 1216 meddiannodd Powys Wenwynwyn wedi i Wenwynwyn dorri ei lw o ffyddlondeb iddo. Rhoddodd rheolwyr Powys Fadog a'r Deheubarth eu gwrogaeth iddo ac roedd yn rhoi nodded i arglwyddi Cymreig Morgannwg a Gwent a’r ardal rhwng Gwy a Hafren.[37] Arwydd arall o’i bŵer cynyddol oedd ei fod wedi llwyddo i gael dylanwad ar benodiadau dau Gymro i ddwy swydd wag yn yr Eglwys, sef Iorwerth fel Esgob Tyddewi a Chadwgan fel Esgob Bangor.[39]

Yn 1216 cynhaliodd Llywelyn gyngor yn Aberdyfi er mwyn penderfynu ar hawliau tiriogaethol rhai o’r mân dywysogion. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gadarnhau eu ffyddlondeb a’u gwrogaeth i Llywelyn. Yn ôl yr hanesydd, J.Beverley Smith, roedd Llywelyn nawr yn amlinellu ei rôl fel arglwydd, yn ogystal ag yn arweinydd milwrol. Eu cynghreiriaid bellach oedd ei ddeiliaid.[40] Newidiodd Gwenwynwyn ochrau eto ochri â’r Brenin John, a gyrrwyd ef allan o dde Powys unwaith yn rhagor gan Llywelyn. Bu farw Gwenwynwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn Lloegr, gan adael etifedd o dan oedran. Bu farw John yn yr un flwyddyn, gan adael etifedd ifanc hefyd, sef y Brenin Harri III yn Lloegr.

Yn 1217, gorfododd coron Lloegr un o gefnogwyr Llywelyn, sef Reginald o Frewys (a oedd hefyd wedi priodi merch Llywelyn, sef Gwladus Ddu), i newid ochrau. Ymatebodd Llywelyn drwy oresgyn tiroedd Brewys yn Aberhonddu a’r Fenni, gan fygwth Aberhonddu yn gyntaf, cyn mynd ymlaen i Abertawe, lle cyfarfu Llywelyn â Reginald Brewys. Cynigiodd Brewys ildio’r dref iddo ac aeth Llywelyn tua’r gorllewin tuag at Hwlffordd, lle cynigiodd y bwrdeistrefwyr wystlon os byddent yn ufuddhau i’w awdurdod neu dalu dirwy 1,000 o farciau.[41]

1218-1229 - Cytundeb Caerwrangon ac ymgyrchoedd y gororauGolygu

 
Cerflun o ben Llywelyn a ddarganfuwyd yng nghastell Cricieth.

Yn dilyn marwolaeth y Brenin John, arwyddodd Llywelyn Gytundeb Caerwrangon gyda’i olynydd, sef Harri III, yn 1218. I goron Lloegr roedd y cytundeb yn gam doeth, yn enwedig wrth ystyried mor fregus oedd gafael gorsedd frenhinol Lloegr ar ei barwniaid. Roedd y cytundeb yn cadarnhau perchnogaeth Llywelyn dros y tiroedd a oresgynnwyd ganddo, ond mewn sawl ystyr roedd y cytundeb yn gadoediad gyda chyfyngiadau ar rai o’r telerau - er enghraifft, collodd wrogaeth y Deheubarth a Phowys.[42][6]

Ond er gwaethaf y Cytundeb, cafodd Llywelyn drafferthion gydag Arglwyddi’r Mers yn y blynyddoedd dilynol - yn eu plith, teulu Marshall a Hubert de Burgh, gyda’r Brenin Harri III yn procio’r gwrthdaro. Yn 1228 bu ymladd yng nghwmwd Ceri rhwng Llywelyn a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr. Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin â byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Llywelyn. Cododd Llywelyn yr arian drwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymryd yn garcharor yn yr ymladd.[6]

Trefnodd Llywelyn gyfres o briodasau cynghreiriol gyda llawer o deuluoedd y Gororau hefyd. Er enghraifft, roedd ei ferch, Gwladus Ddu, yn briod â Reginald Brewys o Aberhonddu a’r Fenni, ond gan fod Reginald yn medru bod yn anwadal yn ei ffyddlondeb, penderfynodd Llywelyn drefnu priodas ei ferch arall, Marged, gyda nai Reginald, sef John Brewys o’r Gŵyr. Priododd merch arall iddo, Elen, â nai ac etifedd Ranulph, Iarll Caer, sef John y Sgotyn, yn 1222. Pan fu Reginald Brewys farw yn 1228, trefnodd Llywelyn briodas wleidyddol arall gyda theulu pwerus Mortimer, pan briododd Gwladus Ddu ei hail ŵr, sef Ralph de Mortimer.[43]

Sylweddolai Llywelyn fod yn rhaid iddo droedio llwybr gofalus wrth geisio osgoi pechu coron Lloegr nac Arglwyddi’r Mers. Er enghraifft, perswadiodd Rhys ap Gryg yn 1220 i ddychwelyd pedwar cwmwd yn ne Cymru i’w cyn-berchnogion Eingl-Normanaidd.[44] Adeiladodd nifer o gestyll er mwyn amddiffyn ffiniau ei diroedd, gyda’r mwyafrif wedi eu hadeiladu rhwng 1220 a 1230, mae'n debyg. Roedd y rhain yn gestyll carreg - er enghraifft, Cricieth, Deganwy, Dolbadarn, Dolwyddelan a Chastell y Bere.[45]

GweinyddiaethGolygu

Datblygodd Llywelyn yr hen gyfreithiau Cymreig, Cyfraith Hywel Dda, a blodeuodd ysgol gyfraith ogleddol yn ystod ei deyrnasiad. Datblygodd system weinyddol y dywysogaeth gyda chymorth ei ddistain galluog Ednyfed Fychan.[36] Un o nodweddion teyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth, ac a fu’n sail i’w lwyddiant, oedd ei fod wedi defnyddio adnoddau milwrol ac economaidd Cymru i hyrwyddo a datblygu ei deyrnas a’i awdurdod - er enghraifft, Tegeingl a Phowys Wenwynwyn, a oedd yn adnabyddus am eu plwm a’u meirch. Helpodd hefyd i greu canolfannau masnachol oddi mewn i'w diroedd yng Ngwynedd ac roedd yn defnyddio adnodd fel tir Cymru fel rhan o system ffiwdal i ennyn a gwarantu teyrngarwch a ffyddlondeb. Dyma a wnaeth gydag Ednyfed Fychan, distain Gwynedd rhwng 1216 a 1246, ac un o gyndeidiau teulu Tuduriaid Ynys Môn.[46][47]

Ei berthynas â SiwanGolygu

Wedi genedigaeth Dafydd ap Llywelyn ac Elen, plant Llywelyn a Siwan, cychwynnodd Siwan berthynas â Gwilym Brewys, arglwydd Normanaidd o Frycheiniog. Oherwydd hyn dienyddiwyd Gwilym ar orchymyn Llywelyn yn 1230, er bod merch Gwilym, sef Isabella, yn mynd i briodi mab Llywelyn, sef Dafydd ap Llywelyn. Dangoswyd cryfder ei awdurdod yng Nghymru gyda’r weithred hon, oherwydd roedd Gwilym Brewys yn aelod o un o deuluoedd mwyaf pwerus Arglwyddi’r Mers. Rhoddwyd Siwan dan glo am flwyddyn. Wedi cyfnod, maddeuodd Llywelyn i Siwan a'i hadfer yn dywysoges. Roedd gan Siwan ran bwysig ym mherthynas Llywelyn â'i thad, y Brenin John, ac ar fwy nag un achlysur cynrychiolodd Llywelyn mewn materion diplomyddol rhwng llys Gwynedd a choron Lloegr.[43]

1231-1240 - Ymgyrchoedd olaf a Chytundeb Heddwch MiddleGolygu

Yn ôl telerau’r cytundeb llwyddodd Llywelyn i ail-adfer ffiniau a thiroedd ei deyrnas fel y digwyddodd yng nghyfnod y Brenin John. Roedd Powys Wenwynwyn yn ei feddiant o hyd, roedd arglwyddi Powys Fadog a'r Deheubarth i fod yn deyrngar iddo a rhoddwyd Maelienydd, Gwrtheyrnion a Buellt iddo. Yn y cyfnod hwn mabwysiadodd y teitl ‘Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri’ er mwyn pwysleisio bod ei awdurdod y tu hwnt i ffiniau a theitl Tywysog Gwynedd. Roedd hyn yn gam oedd yn ei godi goruwch, ac yn dangos ei statws fel penarglwydd ymhlith rheolwyr Cymru.[43] Er na wnaeth ddefnyddio’r teitl Tywysog Cymru yn swyddogol, roedd yn Dywysog Cymru i bob pwrpas fel y dywed yr hanesydd J.E Lloyd, gan ei fod yn meddiannu’r pŵer a'r awdurdod oedd yn cyfateb i hynny.[48]

Trosglwyddo’r etifeddiaeth a marwolaethGolygu

Yr olyniaethGolygu

Problem fwyaf y cyfnod oedd y rheolau ynglyn ag etifeddiaeth yng Nghymru. Gan nad oedd y mab hynaf yn etifeddu holl dir a theitlau ei dad, ond yn hytrach bod eiddo'r tad yn cael ei ddosrannu rhwng yr holl feibion (y rhai cyfreithlon ac anghyfreithlon), roedd hi'n anodd adeiladu arweinyddiaeth gref ar Gymru gyfan dros genedlaethau.

Tua diwedd ei oes, ymdrechodd Llywelyn yn galed i sicrhau y byddai Dafydd, ei fab ef a Siwan, a’i unig fab cyfreithlon, yn ei olynu fel rheolwr Gwynedd, ac addaswyd Cyfraith Cymru ganddo i sicrhau hynny.[49] Roedd addasiadau Llywelyn i Gyfraith Cymru er mwyn ffafrio plant cyfreithlon o fewn priodasau a ddilyswyd gan yr Eglwys, yn debyg i ymdrechion yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth, wrth benodi Gruffydd ap Rhys II fel ei etifedd yn hytrach na hawliau ei fab anghyfreithlon hynaf, sef Maelgwn ap Rhys. Roedd hawliau Gruffydd, brawd hynaf anghyfreithlon Dafydd, felly'n cael eu rhoi o’r neilltu fel prif etifedd Llywelyn. Er hynny, byddai'n derbyn tiroedd i’w rheoli. Roedd trefniant Llywelyn ar gyfer Dafydd yn wahanol i arferion Cyfraith Cymru, a oedd yn dweud mai’r mab hynaf oedd etifedd ei dad, beth bynnag oedd statws priodasol ei rieni.

Roedd Llywelyn wedi bod yn paratoi ers blynyddoedd i sicrhau bod olyniaeth ei deyrnas yn gadarn. Yn 1220, llwyddodd Llywelyn i gael y Brenin, Harri III, i gydnabod Dafydd fel ei etifedd.[50] Yn 1222, fe wnaeth Llywelyn hefyd anfon deiseb at y Pab, Honorius III, i gadarnhau olyniaeth Dafydd. Roedd y Pab yn croesawu’r ffaith bod Llywelyn eisiau diddymu’r arferiad hwn.[51] Yn 1226, perswadiodd Llywelyn y Pab i gyhoeddi bod Siwan, ei wraig a mam Dafydd, yn ferch gyfreithlon i’r Brenin John, er mwyn cryfhau hawl Dafydd i’r olyniaeth. Yn 1229 derbyniodd coron Lloegr wrogaeth Dafydd am y tiroedd a fyddai’n eu hetifeddu oddi wrth ei dad.[43] Yn 1238, cynhaliodd Llywelyn gyngor yn Abaty Ystrad Fflur, lle cyfarfu’r tywysogion Cymreig eraill i dyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd - elfen a oedd yn allweddol i drefn ffiwdal o reoli.[46] Bwriad gwreiddiol Llywelyn oedd y byddent yn talu gwrogaeth i Dafydd, ond ysgrifennodd y brenin at y rheolwyr eraill a’u gwahardd rhag talu gwrogaeth.[52] Yn ychwanegol at hynny, roedd Llywelyn wedi trefnu priodas rhwng Dafydd a merch hynaf Gwilym Brewys, sef Isabella Brewys, oherwydd nad oedd etifedd gwrywaidd gan Gwilym Brewys, ac y byddai ei diroedd yn ne Cymru yn cael eu trosglwyddo i etifedd Dafydd ac Isabella.

Yn 1228 carcharwyd Gruffydd gan Llywelyn tan 1234. Yn dilyn ei ryddhau rhoddwyd rhan o Lŷn iddo reoli, ac erbyn 1238 rhoddwyd gweddill Llŷn iddo ei reoli a chyfran sylweddol o dir ym Mhowys.[53]

MarwolaethGolygu

 
Ffotograff o feddrod Llywelyn yn Llanrwst.

Bu farw Siwan yn 1237, ac yn yr un flwyddyn ymddengys bod Llywelyn wedi dioddef math o strôc a wnaeth ei barlysu.[54] O’r cyfnod hwn ymlaen, cydiodd Dafydd fwyfwy yn awenau pŵer oddi wrth ei dad, ac er mwyn cael gwared ar unrhyw gystadleuaeth i’w safle, tynnodd diroedd o feddiant Gruffydd, ei hanner brawd, a chadwodd ef a’i fab hynaf, Owain, yn garcharorion yng Nghastell Criccieth. Bu Llywelyn farw ar 11 Ebrill 1240 yn Abaty Sistersaidd Aberconwy. Roedd hwn yn abaty a sefydlwyd ganddo ef a chladdwyd ef yno. Mae ei arch garreg i’w gweld yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst.[55]

Er bod Harri III yn fodlon i Dafydd olynu Llywelyn fel Tywysog Gwynedd ni chaniataodd iddo etifeddu statws ei dad yng ngweddill Cymru. Gorfodwyd Dafydd i gytuno ar gytundeb oedd yn gosod cyfyngiadau mawr ar ei bŵer, a gorfodwyd ef i drosglwyddo ei hanner-brawd, Gruffydd, i’r brenin. Medrai’r brenin wedyn ei ddefnyddio yn erbyn Dafydd. Lladdwyd Gruffydd wrth iddo geisio dianc o Dŵr Llundain yn 1244. Bu Dafydd farw yn 1246 heb unrhyw etifedd ac o ganlyniad olynwyd ef gan ei nai, sef mab Gruffydd, Llywelyn ap Gruffydd.

PlantGolygu

Cafodd Llywelyn sawl plentyn gan fwy nag un cymar.

Plant gyda Siwan

  • Dafydd ab Llywelyn (c. 1215-1246): priododd Isabella de Braose
  • Elen (1206-1253), priododd John Earl o Huntington, a’i hail ŵr oedd Robert de Quincy.
  • Susanna ferch Llywelyn (bu farw rywbryd ar ôl Tachwedd 1228) er nid oes sicrwydd mai Siwan oedd ei mam.
  • Marged ferch Llywelyn (bu farw wedi 1268), priodi Syr John de Braose, ŵyr Gwilym Brewys, yn 1219 a’r eilwaith (c.1232) Walter III de Clifford; cafodd blant gyda’r ddau ŵr.
  • Elen yr Ieuengaf (ganwyd cyn 1230; bu farw rywbryd wedi 16 Chwefror 1295), priododd ei gŵr cyntaf Máel Coluim II, Iarll Fife, a’i hail ŵr (wedi 1266) oedd Domhnall I, Iarll Mar. Priododd merch Elen a Domhall, sef Isabella, â Robert Bruce, Brenin yr Alban, a chafodd un plentyn, sef Marjorie Bruce, a oedd yn fam i’r brenin Stiwartaidd cyntaf, sef Robert II, brenin yr Alban

Plant gyda Tangwystl Goch

Plant eraill

  • Gwladus Ddu (c.1206-1251), merch Llywelyn a Siwan fwy na thebyg, ond nid oes sicrwydd am hyn. Yn ôl rhai cofnodion roedd hi'n ferch iddo gan un o'i wragedd gordderch. Priododd Gwladus Syr Randulph Mortimer.
  • Angharad ferch Llywelyn (c.1212-1256), merch Llywelyn a Siwan fwy na thebyg; priododd Maelgwn Fychan
  • Tegwared y Baiswen ap Llywelyn (c.1215), mab a anwyd i fenyw o’r enw Cristin, efaill posibl i Angharad.

Ei ddisgynyddionGolygu

 
Llywelyn ar ei wely angau, gyda'i feibion Gruffudd a Dafydd. Llun mewn llawysgrif gan Mathew Paris sy'n dyddio o tua 1259.
 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378

Gweddol Llywelyn FawrGolygu

Yn ystod ei deyrnasiad roedd Llywelyn ap Iorwerth wedi sefydlu ei hun fel Tywysog Gwynedd, ac erbyn cyfarfod Aberdyfi yn 1216 roedd fwy neu lai wedi sefydlu ei hun yn Dywysog Cymru. Cytunodd y rheolwyr Cymreig yn swyddogol eu bod yn ymrwymo eu ffyddlondeb a’u teyrngarwch i Llywelyn.[6][2] Llwyddodd i sicrhau cydnabyddiaeth Brenin Lloegr i’w statws a’i awdurdod yng Nghymru - er enghraifft, yn 1201 gyda’r Brenin John, Cytundeb Caerwrangon yn 1218 a Chytundeb Middle yn 1234, pan ddechreuodd gyfeirio ato'i hun fel Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri.[43]

Yng ngolwg Llywelyn, byddai sicrhau olyniaeth ei fab cyfreithlon, Dafydd, yn ffon fesur bwysig o lwyddiant ei deyrnasiad. Roedd 1238 yn benllanw'r uchelgais hwnnw pan alwodd ynghyd dywysogion Cymru fel ei ddeiliaid, ac yntau’n arglwydd arnynt, yn Abaty Ystrad Fflur, i dyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd fel ei olynydd. Roedd wedi ymgyrchu’n galed yn ystod y blynyddoedd blaenorol i sicrhau cefnogaeth y Pab, Brenin Lloegr ac arweinyddion eraill Cymru i’w nod. Roedd yn wleidydd craff a chyfrwys a oedd wedi ymdopi â’r her o ddelio ag ymddygiad Arglwyddi’r Mers, Brenin Lloegr a rheolwyr Cymreig eraill, ac wedi defnyddio ei sgiliau fel gwleidydd i lunio priodasau teuluol gyda rhai o Arglwyddi’r Mers. Nid oedd yn gyndyn o elwa ar sefyllfaoedd a oedd yn fanteisiol iddo, ac roedd yn ddewr ac yn gadarn yn ei wrthsafiad mewn gwahanol gyd-destunau. Roedd ganddo weledigaeth o dywysogaeth Gymreig annibynnol a oedd yn medru cynnal ei hun yn wleidyddol ac yn economaidd. Sicrhaodd gydnabyddiaeth i Gyfraith Cymru, roedd yn noddwr hael i’r Sistersiaid a hyrwyddodd benodiad Cymry i swyddi pwysig yn yr Eglwys yng Nghymru.[14] Nid oes amheuaeth ei fod yn haeddu'r ymadrodd ’Mawr’ fel rhan o’i deitl ym mhantheon arwyr hanes Cymru.[7]

CyfeiriadauGolygu

 
Addasiad o ddrama Saunders Lewis: 'Siwan a Cherddi Eraill'
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 130. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 583. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  3. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 88. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. 4.0 4.1 4.2 Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. t. 476. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
  5. 5.0 5.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 129. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 133. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  7. 7.0 7.1 "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  8. Bartrum, Peter C. (1963). Early Welsh Genealogical Tracts. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 95–96. ISBN 978-0708300497.
  9. Maund, K. L., 1962- (2006). The Welsh kings : warriors, warlords, and princes. Stroud, Gloucestershire: Tempus Pub. t. 185. ISBN 0-7524-2973-6. OCLC 62177777.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  10. "IORWERTH DRWYNDWN (bu farw c. 1174, y mae'n debygol), | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  11. Giraldus, Cambrensis, 1146?-1223. (1978). The journey through Wales ; and, the description of Wales. Harmondsworth: Penguin. t. 126. ISBN 0-14-044339-8. OCLC 5752126.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  12. Maund, K. L., 1962- (2006). The Welsh kings : warriors, warlords, and princes. Stroud, Gloucestershire: Tempus Pub. t. 186. ISBN 0-7524-2973-6. OCLC 62177777.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  13. "ABERCONWY, SITE OF BATTLE | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-10-02.
  14. 14.0 14.1 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 188–93. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  15. "RHODRI ab OWAIN (bu farw 1195), tywysog yng Ngwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  16. "DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1203) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  17. "PAINSCASTLE, LLANBEDR;GARDE DOLOUREUSE | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-10-02.
  18. Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales, from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. II. Longmans, Green & Co.
  19. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 239. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  20. 20.0 20.1 "LLYWELYN ap IORWERTH ('Llywelyn Fawr'; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  21. Moore, David, 1965- (2005). The Welsh wars of independence, c. 410-c. 1415. Stroud, Gloucestershire: Tempus. t. 109. ISBN 0-7524-3321-0. OCLC 57061425.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  22. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 294. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  23. Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales, from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. II. Longmans, Green & Co. tt 616-7
  24. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. tt. 229, 241. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  25. 25.0 25.1 25.2 25.3 John Davies, Hanes Cymru, tt. 130-1.
  26. Maund, K. L., 1962- (2006). The Welsh kings : warriors, warlords, and princes. Stroud, Gloucestershire: Tempus Pub. t. 192. ISBN 0-7524-2973-6. OCLC 62177777.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  27. Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts.
  28. Maund, K. L., 1962- (2006). The Welsh kings : warriors, warlords, and princes. Stroud, Gloucestershire: Tempus Pub. t. 193. ISBN 0-7524-2973-6. OCLC 62177777.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  29. Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. tt. 155–6.
  30. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 295. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  31. Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. tt. 158–9.
  32. The acts of Welsh rulers, 1120-1283. Pryce, Huw., Insley, Charles., University of Wales. Board of Celtic Studies. History and Law Committee. Cardiff: University of Wales Press. 2005. ISBN 1-4237-4028-9. OCLC 62421436.CS1 maint: others (link)
  33. Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. t. 162.
  34. Moore, David, 1965- (2005). The Welsh wars of independence, c. 410-c. 1415. Stroud, Gloucestershire: Tempus. tt. 112–3. ISBN 0-7524-3321-0. OCLC 57061425.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  35. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 318–319. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  36. 36.0 36.1 "EDNYFED FYCHAN a'i ddisgynyddion. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-02.
  37. 37.0 37.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 132. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  38. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 91. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  39. Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. t. 167.
  40. Smith, J. Beverley. (1998). Llywelyn ap Gruffudd : Prince of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 19. ISBN 0-7083-1474-0. OCLC 40610923.
  41. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 242. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  42. "treaty of Worcester". Oxford Reference (yn Saesneg). doi:10.1093/oi/authority.20110803124726211. Cyrchwyd 2020-10-02.
  43. 43.0 43.1 43.2 43.3 43.4 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 135–6. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  44. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 298. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  45. Lynch, Frances, 1938- (1995). Gwynedd. Cadw (Organization : Great Britain). London: H.M.S.O. t. 135. ISBN 0-11-701574-1. OCLC 35364893.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  46. 46.0 46.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 137. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  47. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 318–319. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  48. Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales, from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. II. Longmans, Green & Co. tt. 682-3
  49. Lloyd, J.E. A HISTORY OF WALES FROM THE EARLIEST TIMES TO THE EDWARDIAN CONQUEST. Llundain: Barnes & Noble Publishing. tt. 297, 362, 164, 369, 347.
  50. Davies, R. R. (1987). Conquest, coexistence, and change : Wales, 1063-1415. Oxford: Clarendon Press. t. 249. ISBN 0-19-821732-3. OCLC 24009614.
  51. The acts of Welsh rulers, 1120-1283. Pryce, Huw., Insley, Charles., University of Wales. Board of Celtic Studies. History and Law Committee. Cardiff: University of Wales Press. 2005. tt. 414–5. ISBN 1-4237-4028-9. OCLC 62421436.CS1 maint: others (link)
  52. Carr, A. D. (Anthony D.), 1938- (1995). Medieval Wales. Houndmills, Basingstoke, Hampshire: Macmillan Press. t. 60. ISBN 0-312-12509-7. OCLC 31206994.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  53. Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales, from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. II. Longmans, Green & Co. t. 692
  54. Stephenson, David, 1947- (1984). The governance of Gwynedd. Cardiff: University of Wales Press. tt. xxii. ISBN 0-7083-0850-3. OCLC 12611700.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  55. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 584. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)

LlyfryddiaethGolygu

FfynonellauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  • G. Edwards (gol.), A Calendar of Ancient Correspondence concerning Wales (1935)
  • J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
  • Roger Turvey Llywelyn the Great (Gwasg Gomer, 2007) ISBN 978-1-84323-747-1

FfuglenGolygu

Llywelyn Fawr
Ganwyd: 1173 Bu farw: 11 Ebrill 1240
Rhagflaenydd:
Dafydd ab Owain Gwynedd
Tywysog Gwynedd
11951240
Olynydd:
Dafydd ap Llywelyn
Rhagflaenydd:
Gwenwynwyn ab Owain
Tywysog Powys Wenwynwyn
12161240
Olynydd:
Gruffudd ap Gwenwynwyn