Brwydr Aberconwy
Ymladdwyd Brwydr Aberconwy yn y flwyddyn 1194 ger Conwy (Aberconwy) rhwng Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr yn ddiweddarach) a'i ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd. Mae'n bosibl y bu ewythr arall, sef Rhodri ab Owain Gwynedd, yn bresennol ar ochr Dafydd hefyd.[1]
Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1194 ![]() |
Lleoliad | Cymru ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |

Hanes
golyguDigwyddodd y frwydr ar lan aber Afon Conwy ger safle presennol tref Conwy. Ymladdodd Llywelyn gyda chymorth ei gefndyr Maredudd a Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd. Cafodd fuddugoliaeth fawr ar fyddin Dafydd a osododd y sylfeini i'w deyrnasiad hir fel Tywysog Gwynedd a Chymru.[1]
Cyfeirir at y fuddugoliaeth bwysig hon mewn cerddi gan y beirdd Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) a Cynddelw Brydydd Mawr. Dyma ran o ddisgrifiad Cynddelw:
- Ni bu lledrad cad cadr Aber—Conwy,
- Cynnechrau fy udd nêr;
- Cynnygn fy llyw oedd llawer,
- Cwyddynt yng ngif seithrif sêr.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 J. E. Lloyd. A History of Wales (Llundain, 1939), tt. 588-9.
- ↑ Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol II (Caerdydd, 1995), cerdd 13, llinellau 9-13. Aralleiriad: 'Ni bu byddin un gwych Aberconwy yn llechwraidd / [Ar] ddechreuad [gyrfa] fy arglwydd-bennaeth; / Niferus oedd gelynion fy arweinydd / [Ond] syrthiai saith gwaith rhif y sêr yn farw yn [yr] ymrafael.'