Margaret McDonagh

Gwleidydd Llafur Prydeinig a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur rhwng 1998 a 2001 oedd Margaret Josephine McDonagh (26 Mehefin 196124 Mehefin 2023).[1][2] Roedd hi'n gyd-lywydd Cymdeithas Wyddelig y Blaid Lafur,[3] ac arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes McDonagh.

Margaret McDonagh
Ganwyd26 Mehefin 1961 Edit this on Wikidata
Mitcham Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mehefin 2023 Edit this on Wikidata
Colliers Wood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
  • Prifysgol Brunel Llundain
  • Kingston Business School
  • Ysgol Fusnes Harvard Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Cafodd McDonagh ei geni ym Mitcham, Surrey, i rhieni Gwyddelig,[4] Cumin McDonagh, llafurwr adeiladu, a'i wraig Breda (née Doogue), nyrs seiciatrig. Ei chwaer oedd Siobhain McDonagh, a etholwyd yn aelod seneddol Llafur dros Mitcham a Morden ym 1997. Am y rhan fwyaf o'i hoes, bu McDonagh yn byw gyda'i chwaer yn Llundain.[4] Cafodd ei addysg yn Ysgol Holy Cross yn New Malden Graddodd mewn llywodraeth ym Mhrifysgol Brunel Llundain ac wedyn astudiodd marchnata yn Ysgol Fusnes Kingston. Yn ddiweddarach cwblhaodd Raglen Rheolaeth Uwch yn Ysgol Fusnes Harvard yn yr UDA.[4]

Daeth McDonagh yn ysgrifennydd cyffredinol benywaidd cyntaf Llafur ym 1998.[2][5][6][2][7] Ymddiheurodd McDonagh yn ddiweddarach am ei rol yn y proses dewis ymgeisydd maer Llundain y blaid yn wael, a arweiniodd at Ken Livingstone yn ennill etholiad maerol 2000 fel ymgeisydd annibynnol.[8] Daeth ei sgiliau trefniadol i'r amlwg yn yr etholiad cyffredinol 2001. [2] Fe’i beirniadwyd am dderbyn rodd o £100,000 gan Daily Express a chyhoeddwr cylchgrawn oedolion Richard Desmond. [9]

Ar ôl ymddeol fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn 2001, [10] daeth McDonagh yn Rheolwr Cyffredinol Express Newspapers.[8][11] Roedd hi'n Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Standard Life.

Daeth McDonagh yn arglwydd am oes ar 24 Mehefin 2004, fel y Farwnes McDonagh, o Mitcham a Morden ym Mwrdeistref Merton yn Llundain.>

Bu farw McDonah o glioblastoma yn ei chartref ar 24 Mehefin 2023,. [4] [12] Cafodd ei disgrifio fel "linchpin" Llafur Newydd[13] a "wir arwr dosbarth gweithiol".[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Baroness McDonagh" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2013. Cyrchwyd 12 Chwefror 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Dunne, Ray (27 Mawrth 2001). "Margaret McDonagh: Labour general secretary" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 14 Mehefin 2014.
  3. "The Committee". Labour Party Irish Society. Cyrchwyd 2023-03-06.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Langdon, Julia (25 Mehefin 2023). "Lady McDonagh obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mehefin 2023.
  5. Davies, Liz (29 March 2001). "Labour pains". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Mehefin 2014.
  6. Assinder, Nick (7 March 2000). "Livingstone sparks Labour inquest" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 14 Mehefin 2014.
  7. Watt, Nicholas; Maguire, Kevin (8 Mawrth 2000). "Knives out for McDonagh after selection fiasco". The Guardian. Cyrchwyd 14 Mehefin 2014.
  8. 8.0 8.1 "Former Labour chief joins Express" (yn Saesneg). BBC. 11 Hydref 2001. Cyrchwyd 14 Mehefin 2014.
  9. Grice, Andrew (25 Awst 2002). "David Triesman: The Blairite trade unionist determined to square the funding circle". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  10. McSmith, Andy (4 Hydref 2001). "Smiles mask the tensions at the end of McDonagh's reign". Daily Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Mehefin 2014.
  11. Wells, Matt; Maguire, Kevin (12 Hydref 2001). "Woman behind Labour landslides gets job at Express". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mehefin 2014.
  12. Maidment, Adam (24 Mehefin 2023). "Sir Keir Starmer leads tributes as Margaret McDonagh - Labour's first female general secretary – dies at 61" (yn Saesneg). Manchester Evening News. Cyrchwyd 24 Mehefin 2023.
  13. Savage, Michael (2023-06-24). "'A tour de force': tributes pour in for Margaret McDonagh, linchpin of Tony Blair's New Labour". The Observer (yn Saesneg). ISSN 0029-7712. Cyrchwyd 26 Mehefin 2023.
  14. McFadden, Pat (25 Mehefin 2023). "Margaret McDonagh obituary: 'We have lost a true working-class hero'". LabourList (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2023.