Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury

gwleidydd, boneddiges breswyl (1473-1541)
(Ailgyfeiriad o Margaret Pole)

Uchelwraig Seisnig oedd Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury (14 Awst 147327 Mai 1541). Roedd hi'n ferch i Siôr, Dug Clarens, brawd Edward IV, brenin Lloegr a Rhisiart III, brenin Lloegr. Ei mam oedd Isabel o Warwick, merch Richard, Iarll Warwick (llysenw: y "Kingmaker") Roedd Margaret yn un o ddwy ferch yn yr 16g yn Lloegr i fod yn arglwyddes drwy ei hawl ei hun: y llall oedd Anne Boleyn, Ardalydd Penfro.

Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury
Ganwyd14 Awst 1473, 1473 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1541, 1541 Edit this on Wikidata
Tŵr Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, boneddiges breswyl Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Mai Edit this on Wikidata
TadGeorge Plantagenet, dug 1af Clarence Edit this on Wikidata
MamIsabel Neville, duges Clarence Edit this on Wikidata
PriodSir Richard Pole Edit this on Wikidata
PlantUrsula Pole, Arthur Pole, Geoffrey Pole, Henry Pole, 1st Baron Montagu, Reginald Pole Edit this on Wikidata
LlinachIorciaid, Llinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Yn 1500 priododd Margaret Syr Richard Pole (1462–1504), boneddigwr o Swydd Buckingham o dras Gymreig. Byddai eu mab Reginald Pole (1500–1588) yn ddiweddarach yn dod yn Gardinal yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn Archesgob Caergaint yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad.

Roedd Margaret yn foneddiges breswyl i Catrin o Aragón pan oedd Catrin yn briod ag Arthur Tudur (1501–2) ac eto pan ailbriododd â Harri VIII, brenin Lloegr (1509).

Cafodd Margaret ei dienyddio yn 1541 yn Nhŵr Llundain ar orchymyn Harri VIII. Ym 1886 cafodd ei gwynfydoli fel merthyr i'r Eglwys Gatholig gan y Pab Leo XIII.

Llyfryddiaeth golygu