Marged Tudur
Merch Harri VII, brenin Lloegr, a chwaer Harri VIII oedd Margaret Tudur neu Marged Tudur (28 Tachwedd 1489 – 18 Hydref 1541) a oedd yn Frenhines yr Alban rhwng 1503 ac 1513. Fe'i ganwyd ym Mhalas San Steffan yn ferch hynaf i Harri ac Elisabeth o Efrog.
Marged Tudur | |
---|---|
Ganwyd | 28 Tachwedd 1489 Llundain |
Bu farw | 18 Hydref 1541 Castell Methven |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | rhaglyw |
Tad | Harri VII |
Mam | Elisabeth o Efrog |
Priod | Iago IV, brenin yr Alban, Archibald Douglas, 6th Earl of Angus, Henry Stewart, 1st Lord Methven |
Plant | James, Duke of Rothesay, Arthur Stewart, Duke of Rothesay, Iago V, brenin yr Alban, Alexander Stewart, Duke of Ross, Margaret Douglas, unnamed daughter Stewart, unnamed son Stewart, Dorothea Stewart |
Llinach | Tuduriaid |
Tra roedd yn fam i'r frenhines, priododd Archibald Douglas, 6ed iarll Angus. Iago IV, brenin yr Alban, ar 8 Awst 1503 a hithau'n 14 mlwydd oed a bu ar yr orsedd rhwng 1503 - 1513.
Roedd yn famgu i Mari I, brenhines yr Alban drwy ei phriodas gynaf.
Hanes
golyguFe'i bedyddiwyd yn Eglwys Santes Marged, ar dir Abaty Westminster, Llundain gan ei henwi'r 'Farged' ar ôl Margaret Beaufort, iarlles Richmond a Derby, ei nain ar ochr ei thad.[1]
Yr adeg honno, defnyddiwyd merched y brenin fel asedau diplomataidd a gwleidyddol, gyda phriodas yn serio cyfeillgarwch rhwng dwy wlad. Cyn ei bod yn chwech oed roedd ei thad yn ystyried ei phriodi â Iago IV er mwyn tawelu'r dyfroedd Albanaidd ac i wahanu cyfeillgarwch Perkin Warbeck â Brenin yr Alban. Gwerin gwyddbwyll politicaidd oedd Marged felly ac mae'n gwbwl bosib fod tad Marged yn ei gweld fel modd i uno'r ddwy genedl: yr Alban a Lloegr; methodd a gwneud hyn, ond gafaelodd ei fab Harri VIII yn yr awenau hyn eilwaith, flynyddoedd yn ddiweddarach, gyda'r un nod.
Plant Marged ac Iago
golygu- Iago (1507-1508)
- Arthur (1509-1510)
- Iago V, brenin yr Alban
- Alexander (1514-1516)
Bu farw Iago ym Mrwydr Flodden yn 1513. Priododd Marged Archibald Douglas, 6ed Iarll Angus, yn 1514.
Plant Marged a Douglas
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Marshall, Rosalind Kay (2003). Scottish Queens, 1034-1714. Tuckwell. ISBN 978-1-86232-271-4.