Margaret Beaufort

mam Harri VII, brenin Lloegr

Margaret Beaufort, Iarlles Richmond (31 Mai 144329 Mehefin 1509), oedd merch John, Dug 1af Somerset a mam Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Yn 1455, a hithau'n ferch ifanc 12 oed, priododd Edmwnd Tudur, mab Catherine de Valois gan Owain Tudur a brawd Siasbar Tudur. Bu farw Edmwnd yn 1456, ond cawsant fab. Trwy ei fam roedd Harri Tudur yn medru olrhain ei dras i John o Gaunt ac felly'n medru hawlio Coron Lloegr yn enw'r Lancastriaid.

Margaret Beaufort
Ganwyd31 Mai 1443 Edit this on Wikidata
Swydd Bedford Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1509, 1509 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyngarwr, addysgwr Edit this on Wikidata
Swyddrhaglyw Edit this on Wikidata
TadJohn Beaufort, Dug Somerset 1af Edit this on Wikidata
MamMargaret Beauchamp o Bletso Edit this on Wikidata
PriodEdmwnd Tudur, Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby, John de la Pole, 2nd Duke of Suffolk, Sir Henry Stafford Edit this on Wikidata
PlantHarri VII Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Beaufort Edit this on Wikidata
Cerflun o Eglwys Sant Silyn, Wrecsam. Mae'n fwy na thebyg mai Margaret Beaufort yw hi, mam Harri Tudur.

Priododd yn gyntaf ŵyr y bardd Geoffrey Chaucer, sef John de la Pole, yn 1450, cyn ei bod yn 12 oed. Yna, priododd Edmwnd Tudur. Ar ôl marwolaeth Edmwnd, yn 14 oed, priododd Syr Henry Stafford (c.1425–1471), mab Humphrey Stafford, dug cyntaf Buckingham. Ei phedwerydd gŵr oedd Thomas, Arglwydd Stanley (1435 – 29 Gorffennaf 1504).

Cafodd Margaret ei charcharu am gyfnod gan yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Trefnu priodas ei mab golygu

Yn 1482, wedi i Richard III, brenin Lloegr, gipio coron Lloegr oddi wrth Edward V a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, Elizabeth Woodville am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch Elisabeth o Efrog ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda Harri Tudur yn Llydaw, ac yn awyddus i'w cloi yn Nhŵr Llundain. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd yr Lancastriad Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon o'r naill at y llall, gan drefnu gyda nhw briodas Harri a merch Elisabeth, sef Elisabeth o Efrog. Hi felly drefnodd yr uniad rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid, a hynny flynyddoedd cyn y briodas ei hun ac a ysbrydolodd lawer o'r ddwy ochor i sicrhau llwyddiant Harri Tudur.[1][2]

Dialedd Richard III golygu

Oherwydd mai Margaret oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda Buckingham, beth wnaeth ei gŵr tra phwerus, Thomas, Arglwydd Stanley, oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, ochrodd gyda Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin, a derbyniodd llawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisoes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch; yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr. I ferch annibynnol, gyda'i harian a'i thiroedd a'i rhyddid ei hun, roedd hyn yn gosb llym. Ond parhau i weithio yn y dirgel dros Harri wnaeth Margaret.

Addewid i briodi Elizabeth golygu

Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (Vannes), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.[3]

Gwaddol golygu

Roedd hi'n noddwr i'r argraffydd arloesol William Caxton a sefydliadau ym mhrifysgolion Rhydychen a Caergrawnt. Hi fu'n gyfrifol yn ogystal am godi'r adeilad presennol o gwmpas Ffynnon Wenffrei yn Nhreffynnon, Sir y Fflint (1490 - 1500).

Priododd Margaret:

  1. John de la Pole, Dug Suffolk (c.1450-1453)
  2. Edmwnd Tudur (1455-1456)
  3. Syr Henry Stafford (1458–1471)
  4. Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby (1472-1504)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol
  2. Polydore Vergil gofnododd hyn; drwy: Bosworth: The Birth of the Tudors; Gwasg Phoenix; 2003. Tud. 139
  3. Mae Chris Skidmore, yn ei lyfr Bosworth: The Birth of the Tudors, yn galw Harri'n Gymro sawl tro e.e. tud. 152. In desperation, each of their futures had become forged to a mysterious Welshman, who most had never even met.; tud. 154: For others, however, coming face to face with Henry, an unknown Welshman who many would probably heard of before....; tud. ... had little choice but to consider this unknown Welshman their candidate for the throne.