Tsafasiaid
Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i'r rhanbarth rhwng Afon Volga a Mynyddoedd yr Wral yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd yw'r Tsafasiaid (Tsafasieg: чăвашсем trawslythreniad: Čăvašsyem). Maent yn byw yn bennaf yn Tsafasia a gweriniaethau cyfagos yn Ffederasiwn Rwsia. Amcangyfrif bod 1.5–2 miliwn ohonynt ar draws y byd. Y Tsafasiaid a'r Gagauz ydy'r unig bobloedd Dyrcig sydd wedi eu troi at Eglwys Uniongred Rwsia.[1]
Hanes
golyguCofnodwyd enw'r Tsafasiaid am y tro cyntaf mewn ffynonellau Rwseg ym 1508. Mae union darddiad y Tsafasiaid yn ansicr, ond mae ysgolheigion yn cytuno'n gyffredinol eu bod yn disgyn o dri grŵp o leiaf, sef y Bolgariaid a ymsefydlodd ar lannau'r Volga yn y 7g, y Sabir a ymfudodd o'r Cawcasws yn y 8g, a'r llwythau Ffinno-Wgrig a drigodd yn Tsafasia cyn i'r bobloedd Dyrcig gyrraedd. Byddai teyrnas Volga-Bolgaria yn tra-arglwyddiaethu'r rhanbarth o'r 10g nes i'r Mongolwyr orchfygu'r Bolgariaid ym 1236. Daeth y Tsafasiaid felly dan reolaeth yr Ymerodraeth Fongolaidd, ac yna'r Llu Euraid a Chaniaeth Kazan, nes iddynt ddod yn ddeiliaid i Tsaraeth Rwsia ym 1551.[1]
Diwylliant
golyguIaith
golyguIaith Dyrcaidd o'r gangen Oghur yw'r Tsafasieg, sydd yn disgyn o'r hen Folgareg, iaith y Bolgariaid.[2] Dyma'r unig iaith fyw o'r gangen Oghur, a chedwir nifer o elfennau hynafaidd o'r Folgareg ganddi. Mae'r Tsafasieg felly yn dra-gwahanol i'r ieithoedd Tyrcaidd eraill, ac ar un pryd roedd ieithyddion yn credu iddi perthyn i gangen rhwng y teuluoedd Tyrcaidd a Mongolaidd, neu yn ffurf Dyrcigedig ar iaith Ffinno-Wgrig. Ysgrifennwyd y ffurf gynharaf ar Tsafasieg mewn llythrennau rwnig yr Hen Dyrceg, a newidiwyd at yr wyddor Arabeg yn ystod oes Volga-Bolgaria. Yn y 18g, datblygwyd gwyddor unigryw ar sail llythrennau Cyrilig, a chyhoeddwyd y gramadeg Tsafasieg cyntaf ym 1769. Dyfeisiwyd gwyddor newydd gan yr addysgwr Ivan Yakovlev ym 1871.[1]
Crefydd
golyguFfurf ar animistiaeth oedd crefydd gyntefig y Tsafasiaid, a châi ei dylanwadu gan Zoroastriaeth, Iddewiaeth (drwy'r Chasariaid), ac Islam. Byddent yn anrhydeddu elfennau tân, dŵr, yr haul, a'r ddaear, ac yn credu mewn ysbrydion y da a'r drwg.
Erbyn canol y 18g, trodd y mwyafrif o Tsafasiaid yn Gristnogion o ganlyniad i ymddiwylliannu â mewnfudwyr Rwsiaidd a chenadaethau gan Eglwys Uniongred Rwsia. Trodd lleiafrif ohonynt yn Fwslimiaid a byddent yn cymhathu i ddiwylliant ac iaith Tatariaid y Volga. Goroesodd yr hen grefydd baganaidd mewn ambell gymuned ar wasgar.[1]