Mari Grug

actores

Cyflwynydd teledu o Gymraes yw Mari Grug (ganwyd 27 Awst 1984).[1]

Mari Grug
Ganwyd1984 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Magwyd ar fferm ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro ac addysgwyd yn Ysgol y Preseli cyn astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd.[2]

Gyrf golygu

Actiodd ran Catrin yn y gyfres ddrama Darn o Dir ar S4C pan oedd yn ifanc. Dechreuodd ei gyrfa fel cyflwynydd gyda Planed Plant ar ôl iddi raddio. Ymunodd â thîm tywydd Newyddion S4C yn Nhachwedd 2007, wrth iddynt lansio’r gwasanaeth ar ei newydd wedd. Mae hefyd wedi bod yn gyflwynydd ar raglenni teledu o'r Sioe Fawr, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Cerdd Dant.[2]

Mae wedi cyflwyno Heno ers 2012 ac wedi cyflwyno ar Prynhawn Da.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Gareth James ac mae ganddynt 3 o blant.

Yng Ngorffennaf 2023 fe ddatgelodd ei bod yn cael triniaeth am ganser y fron ers mis Mai.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Mari Grug yn ymuno â chriw cyflwyno gwasanaeth tywydd. S4C (1 Tachwedd 2007).
  2. 2.0 2.1  Tywydd. S4C.
  3. "Mari Grug yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron". newyddion.s4c.cymru. 2023-07-24. Cyrchwyd 2023-07-24.

Dolenni allanol golygu

  • Holi Mari Grug, Gorffennaf/Awst 2009, cyfweliad ar wefan BBC Lleol, De Orllewin