Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

argraffiad; a gyhoeddwyd yn 1879

Mae Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl yn llyfr gan Robert Oliver Rees sydd yn adrodd hanes Mari Jones, y fenyw ifanc a gerddodd o Lanfihangel y Pennant i'r Bala i geisio prynu copi o'r Beibl gan y Parch Thomas Charles.[1] Cyhoeddwyd y llyfr gan gwmni Hughes a'i fab ym 1873 gydag adargraffiad ym 1874 a chafodd ei adargraffu 10 waith gan Gymdeithas y Beibl rhwng 1873 a 1923.[2]

Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl
Enghraifft o'r canlynolllyfr Edit this on Wikidata
AwdurRobert Oliver Rees Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1879 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiWrecsam Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Yr awdur golygu

Roedd Oliver Rees yn fferyllydd yn Nolgellau.[3] Gan nad oedd siop llyfrau yng Nghylch Dolgellau, dechreuodd gwerthu llyfrau o'i siop fferyllydd. Roedd yn golofnydd rheolaidd i'r Traethodydd ac yn awdur nifer o lyfrau. Roedd Oliver Rees hefyd yn aelod amlwg o'r Methodistiaid Calfinaidd, yn flaenor, yn athro ysgol Sul ac yn gefnogwr brwd i'r genhadaeth tramor a Chymdeithas y Beibl.[4] Roedd ei daid a'r ochr ei fam, Robert Oliver yn cadw Gwesty'r Angel, yn Nolgellau. Cyn bod sôn am ddirwest ymysg Methodistiaid Cymru, defnyddiodd Thomas Charles parlwr Gwesty'r Angel i gynnal cyfarfod sefydlu Beibl Gymdeithas Gynorthwyol Dolgellau ym 1813, ac yno hefyd y cynhelid cyfarfodydd blynyddol y gymdeithas am nifer o flynyddoedd.[5] Clywodd Oliver ifanc hanes yr hogan fach yn gerdded yn droednoeth i'r Bala i ymofyn Beibl gan Mr Charles ei hun ym mharlwr ei daid. Roedd yn stori a gydiodd dychymyg yr hogyn, ac yn un o'r rhesymau pam ei fod mor frwd ei gefnogaeth i Gymdeithas y Beibl trwy gydol ei oes.

Roedd athro un o ysgolion dyddiol Thomas Charles yn Abergynolwyn, Lewis William, yn byw yn Llanfachreth ger Dolgellau am y rhan fwyaf o'i oes. Fel dau Fethodist blaenllaw yn yr un ardal roedd y ddau yn adnabod ei gilydd yn dda. Roedd Mari Jones yn un o ddisgyblion Lewis William yn ysgol Abergynolwyn ar yr adeg gwnaeth ei thaith i'r Bala. Clywodd William yn adrodd stori ei disgybl llawer gwaith.[6]

Beibl Mari Jones golygu

Ychydig cyn i Mari Jones mawr, rhoddodd y Beibl cafodd gan Thomas Charles yn gymynrodd i'w gweinidog y Parch. Robert Griffiths, o Fryn-crug. Gan ei fod yn gwybod am ddiddordeb mawr Oliver Rees a'r hanes, rhoddodd Robert Griffiths y Beibl i Rees, gyda llawysgrif yn cofnodi ei atgofion ef am yr hyn a adroddwyd wrtho gan Mari am ei antur ac am ei hatgofion ohoni fel dynes mewn oed. Cyflwynodd Oliver Rees y Beibl i Goleg y Bala, fel ei bod mewn llyfrgell gyfleus i bobl Cymru cael ei weld yng Nghymru,[7] ond o dan bwysau mawr gan Gymdeithas y Beibl trosglwyddwyd y Beibl i'w llyfrgell hwy yn Llundain.[8] Bellach mae yn cael ei gadw yn archif y Gymdeithas ym Mhrifysgol Caergrawnt [9]

Y llyfr golygu

Trwy ei waith yn cefnogi a chasglu arian i Gymdeithas y Beibl daeth Oliver Rees yn ymwybodol bod llawer o swyddogion a chefnogwyr y Gymdeithas yn ymwybodol am stori "y ferch" bu gymaint o ysbrydoliaeth i annog Thomas Charles i ffurfio Cymdeithas y Beibl. Ond prin iawn oedd y bobl oedd yn gwybod pwy oedd "y ferch". Gan nad oedd am i'r hanes troi yn un dienw, penderfynodd rhoi'r hyn a glywodd gan Thomas Charles, Lewis William a Robert Griffiths am Mari ar glawr.

Mae Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl yn fwy o lyfryn na llyfr, dim ond 71 tudalen o hyd. Mae dwy ran o dair o'r llyfr yn rhoi hanes Mari o'i ieuenctid i'w marwolaeth wedi ei rhannu yn 8 pennod fer. Mae traean olaf y llyfr yn un bennod hir o gofiant i Lewis William, yr athro a dysgodd Mari ddarllen.

Penodau golygu

Cyfieithiadau ac addasiadau golygu

Yn ystod y 1880au bu nifer o genhadon Cymraeg yn gwasanaethu ym Mryniau Casia, (Khasi yng ngogledd ddwyrain yr India.)[10] Trefnodd Rees i gael cyfieithiad o'r llyfr yn i'r iaith Khasi, cyhoeddodd mil o gopïau ar ei gost ei hun a'u rhoi yn rhodd i'r genhadaeth.

Cyhoeddwyd talfyriad mewn cyfieithiad Saesneg yn y cylchgrawn "The Sunday at Home." Wedi cyhoeddi'r erthygl gofynnodd Cymdeithas y Beibl i Rees cyfieithu'r llyfr cyflawn i'r Saesneg. Cyhoeddwyd y cyfieithiad gan y gymdeithas yn 1879. Cyfieithwyd y fersiwn Saesneg wedyn i'r cyfan o brif ieithoedd Ewrop. Cyfieithodd Cymdeithas Genhadol Llundain y llyfr i nifer o ieithoedd Asia at ddefnydd yn ardaloedd eu cenhadaeth.

Ysgrifennwyd Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl mewn arddull pregethwrol yn rhoi moeswersi ar ddyletswydd Gristionogol. Ym 1882 ysgrifennodd Mary Emily Ropes addasiad o'r llyfr mewn arddull mwy storïol, gydag elfennau megis sgyrsiau dychmygol rhwng y cymeriadau ac ati. Cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol o dan y teitl From the Beginning; or, The Story of Mary Jones and her Bible. O dan y teitl mwy cryno "Mary Jones and her Bible " mae'r llyfr dal mewn print. Cafodd addasiad Ropes hefyd ei gyfieithu i ddegau o ieithoedd eraill. Hanes Mary Jones felly yw'r cyhoeddiad sy'n seiliedig ar lyfr Cymraeg sydd ar gael mewn mwy o ieithoedd eraill nag unrhyw lyfr Cymraeg arall.

Darluniau'r llyfr golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Byd Mary Jones". Cyrchwyd 12 Medi 2022.
  2. "Worldcat identities Robert Oliver Rees". Worldcat. Cyrchwyd 12 Medi 2022.
  3. "REES, ROBERT OLIVER (1819 - 1881), fferyllydd, cyhoeddwr llyfrau, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-09-11.
  4. Owen, Robert (1889). Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd . I. Dolgellau: E. W. Evans. tt. 387–391.
  5. "Ydiweddar Mr Robert Oliver Rees Dolgellau - Y Dydd". William Hughes. 1881-02-18. Cyrchwyd 2022-09-12.
  6. Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl-Nodiad Arweiniol
  7. "Beibl Mary Jones Bryncrug - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1904-10-27. Cyrchwyd 2022-09-12.
  8. "Beibl Mary Jones - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-01-23. Cyrchwyd 2022-09-12.
  9. Blog LlGC-Beibl Mari Jones
  10. "Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi". Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 12 Medi 2022.