Goleuadau Egryn
Goleuadau afreolaidd oedd Goleuadau Egryn a welwyd gan y bregethwraig Mary Jones ac eraill yn Egryn ar arfordir Meirionnydd yn ystod Diwygiad 1904–1905.
Math | digwyddiad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanegryn |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.628°N 4.068°W |
Cyfnod | 1904 |
Cefndir
golyguPentrefan gwasgaredig oedd Egryn ar arfordir Sir Feirionnydd (heddiw: Gwynedd) rhwng Abermaw a Harlech.[1] Adeiladwyd Capel Egryn ym 1836.[2]
Y goleuadau a welwyd yng ngaeaf 1904–5 yw'r enwocaf, ond mae cofnodion o oleuadau anhysbys ym Meirionnydd ers canrifoedd. Er enghraifft, gwelwyd peli tân yn croesi'r môr yn y 17g.[3]
Mary Jones
golyguDelweddau allanol | |
---|---|
Ffotograff o Mary Jones. |
Pregethwraig oedd Mary Elizabeth Jones (ganwyd Mary Elizabeth Powell yn Nhyddyn Du, Bont Ddu; 30 Mawrth 1868 – 1936). Roedd Mary yn yr ieuengaf o saith o blant i Morus ac Anne (Owen) Powell, ac yn byw yn Sarfaen, Talybont, o dair oed nes iddi briodi Richard Jones ar 16 Tachwedd 1887 yn 19 oed. Ymgartrefodd y ddau yn Islawrffordd a chafodd dau o blant, Robert (Medi 1889 – marw'n ifanc) ac Annie (26 Ebrill 1893 – ?), cyn symud i'r Hafod. Bu farw Richard ym 1909 yn 50 oed. Priododd Annie ym 1916 ag Evan Davies o Drawfynydd ac ymsefydlasant yn Nhyddyn Simne Talybont; ganwyd iddynt fab Richard Ieuan ond bu'n farw yn 10 mis oed. Nid oedd gan Mary Jones ddisgynyddion uniongyrchol felly.[4]
Enillodd Mary Jones yr enwau Mari'r Golau a Gweledydd Meirionnydd, ac yn ogystal â gweld goleuadau cafodd hefyd weledigaethau o Iesu Grist, angylion, a Satan ar ffurf ci du. Daeth miloedd o bobl i Gapel Egryn i weld ac i rannu profiadau Mary. Aeth Mary ar draws Cymru i ddisgrifio ei gweledigaethau ac i broffwydo i gapeli llawn.[2] Pan ddaeth Mary gartref o'i thaith ar draws Cymru defnyddiodd yr arian a gasglwyd i adeiladu Capel Beulah.[4]
Yn hwyrach yn ei bywyd bu parchusion Abermaw yn edrych i lawr ar Mary a dywed iddi droi ei chefn ar ei chrefydd.[2] Cafodd Mary angladd anferth ym mynwent Capel Horeb[4] oedd yn un o'r angladdau mwyaf erioed yng Ngogledd Cymru.[2] Cyfansoddwyd penillion am Mary gan ei nai, Evan Morris Powell (mab i Hywel a Jane (chwarae hynaf Mary) Powell), o Milwaukee, UDA.[4]
Disgrifiadau cyfoes
golyguYn ystod Diwygiad 1904–1905 gwelwyd goleuadau gan Mary Jones. Cafodd y goleuadau eu gweld hefyd gan ddwsinau o dystion yn ystod pregethau Mary Jones, y tu mewn i adeiladau ac yn yr awyr agored.
Honnodd gohebyddion o'r Daily Mirror, y Daily Mail, a The Daily Telegraph iddynt weld goleuadau rhyfedd, ond ni welodd eraill, gan gynnwys eu ffotograffwyr, unrhyw beth.[2]
Disgrifiodd un tyst "llestr mawr" yn yr awyr, dros ddeugain mlynedd cyn i'r term Saesneg flying saucer gael ei fathu yn sgil disgrifiad yr Americanwr Kenneth Arnold o wrthrychau hedegog anhysbys yn 1947.[5]
Diddordeb modern
golyguMae Goleuadau Egryn wedi tynnu sylw iwffolegwyr yn y degawdau diwethaf sy'n ystyried Goleuadau Egryn yn wrthrychau hedegog anhysbys. Cyhoeddwyd ymchwiliad gan Flying Saucer Review ym 1971.[3] Mae gwyddonwyr hefyd wedi ceisio esbonio'r goleuadau. Yn ôl un theori, roeddent yn ffenomen anghyffredin a elwir yn "olau daeargryn", o ganlyniad i ddaeargryn y Bala ym 1905.[2] Mae theorïau eraill yn awgrymu nwy cors, pryfed goleuol, tân rigin, gwawl y Gogledd, y Fata Morgana, ac ymddangosiad y blaned Gwener. Mae eraill yn ystyried y ffenomen yn enghraifft o hysteria torfol crefyddol, neu fod hysteria torfol wedi gor-ddweud yr hyn a ddigwyddodd.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn New Scientist ym 1983, awgrymir i Oleuadau Egryn gael eu hachosi gan olau o ffawtiau daearegol, o bosib enghraifft o dribo-oleuedd. Mae Ffawt Mochras, sydd â chwymp o 610 m, yn rhedeg o Harlech i Abermaw. Yn ôl awduron yr erthygl mae "cydberthynas hynod" rhwng lleoliadau'r goleuadau a Ffawt Mochras. Dangosodd y mwyafrif o'r goleuadau ger Capeli Egryn a Llanfair, ar naill ben Ffawt Mochras, ac roedd pob un o'r ymddangosiadau yn yr ardal a ellir eu lleoli'n sicr o fewn 500 m i ffawt, nifer ohonynt yn agos i Ffawt Mochras. Saif Capel Egryn o fewn 100 m i Ffawt Mochras, a saif Capel Llanfair yn union ar y ffawt hwn. Yn ôl tystion, daeth nifer o'r goleuadau o'r ddaear neu ymddangosodd yn agos at y ddaear. Gwelwyd goleuadau eraill yn dod o'r ddaear tua'r un cyfnod, ar Ffawt y Bala.[6]
Ysgrifennwyd sioe gerdd gan Aled Lewis Evans yn seiliedig ar hanes Mary o'r enw Mari'r Golau, gyda cherddoriaeth gan Arwel Tanat. Cafodd ei llwyfannu gan Gwmni Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar 22 a 23 Ebrill 2005.[7]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Kevin McClure (2 Ionawr 1980). Stars and Rumours of Stars: The Egryn Lights. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2010.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 (Saesneg) Capel Egryn - the scene of strange apparitions. Geograph (2007). Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2011.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Alex Hickey (5 Chwefror 2011). Step back in time at Egryn. Daily Post. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2011.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Jean Powell Jones, Sarnfaen, a Heulwen Jones, Hen Golwyn. Mari'r Golau. BBC.
- ↑ Mihangel Morgan. Adolygiad o Yr Ymwelwyr gan Richard Foxhall. gwales.com. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2011.
- ↑ Devereux, P., McCartney, P., a Robins, D. "Bringing UFOs down to Earth", New Scientist (1 Medi 1983), tt. 629–30.
- ↑ Mari'r Golau: Sioe am oleuni rhyfedd Diwygiad '04-'05. BBC. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2011.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Rhestr o adnoddau ar Oleuadau Egryn Archifwyd 2011-12-04 yn y Peiriant Wayback