Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)
Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanfihangel-y-Pennant[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne'r sir, heb fod ymhell o Abergynolwyn, rhwng Afon Dysynni ac Afon Cadair, ger llethrau deheuol Cadair Idris. Mae Castell y Bere, un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd yn y 13g, fymryn tu allan i'r pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 339 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,749.89 ha |
Cyfesurynnau | 52.6613°N 3.9654°W |
Cod SYG | W04000078 |
Cod OS | SH671088 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
- Am y pentref arall yng Ngwynedd o'r un enw, gweler Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant).
Ganed y geiriadurwr a golygydd William Owen Pughe yn y plwyf ar 7 Awst 1759. Rhodd yw prif ffenestr yr eglwys leol (gweler isod) yn 1869 i gofio am Edward Owen Pughe.
Yn 1800, cerddodd Mari Jones (neu Mary Jones) 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Ysbrydolodd y digwyddiad yma Thomas Charles i sefydlu y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Eglwys Sant Mihangel
golygu- Prif: Eglwys Sant Mihangel
Mae siâp ofal y fynwent yn dyst fod yma eglwys llawer hŷn na'r adeilad a welir heddiw, a godwyd yng nghanrif 12. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 yn Radd II*, a hynny oherwydd ei hoed a nodweddion o'r Oesoedd Canol, fel y fedyddfaen, y nenfwd a'r rhan fwyaf o'i muriau. Yng nghanrif 15 codwyd estyniad ar ochr ogleddol yr eglwys: capel bychan; yno, yn 2016 roedd arddangosfa o ddogfennau'n ymwneud â Mari Jones. Ceir darlun o 1869 o Fihangel a Gabriel o bobty Crist ar y brif ffenestr y tu ôl i'r allor.
Credir fod y fedyddfaen yn dyddio o ganrif 12 ac iddo ddod o Gastell y Bere; y tu allan i'r brif ffenestr, ceir bedd, gyda'r union yr un cerrig crwn, tebyg i golofnau.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
golygu- Cofeb i Mari Jones yn Llanfihangel-y-pennant (o Casglu'r Tlysau) Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr