Marie Under
Awdures o Estonia a Sweden oedd Marie Under (27 Mawrth 1883 - 25 Medi 1980) sy'n cael ei hystyried yn un o feirdd gorau Estonia. Roedd yn archifydd, cyfieithydd ac yn awdur. Cynigiwyd ei henw ar gyfer Gwobr Lenyddol Nobel wyth o weithiau.
Marie Under | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1883 Tallinn |
Bu farw | 25 Medi 1980 Stockholm |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Galwedigaeth | bardd, archifydd, cyfieithydd, llenor, newyddiadurwr |
Priod | Artur Adson, Carl Hacker |
Plant | Hedda Hacker, Dagmar Stock |
Gwobr/au | Henrik Visnapuu Literature Prize |
Fe'i ganed yn Tallinn, prifddinas Estonia, (Rwsia hyd at 1920) a bu farw yn Stockholm, Sweden; fe'i claddwyd yno ym mynwent Skogskyrkogården. Bu'n briod i Artur Adson.[1][2][3][4][5]
Magwraeth
golyguGanwyd Under Tallinn i ddau athro o ysgol, sef Priidu (1843-1930) a Leena Under (g. Kerner) (1854-1934). Roedd ganddi chwaer hŷn, Evangeline (1880-1932?) a brawd hŷn Gottried (1881-1882) a dwy chwaer iau, Berta (1885-1974), a Christfried (1887-1934). Mynychodd ysgol ferched Almaeneg breifat.
Ar ôl graddio, gweithiodd fel gwerthwr mewn siop lyfrau. Yn ei hamser rhydd, ysgrifennodd farddoniaeth Almaeneg. Ym 1902, priododd â chyfrifydd o Estonia, Carl Hacker. Cawsant ddau blentyn yn Kuchino, un o faestrefi Moscfa. Fodd bynnag, yn 1904, syrthiodd mewn cariad â'r arlunydd o Estonia Ants Laikmaa. Fe wnaeth Laikmaa ei hargyhoeddi i gyfieithu ei barddoniaeth i Estoneg a chyflwyno ei chyfieithiadau i bapurau newydd lleol.
Dychwelydd i Estonia
golyguYn 1906, dychwelodd Under i Reval ac yn 1913 cyfarfu ag Artur Adson, a ddaeth yn ysgrifennydd iddi. Ef hefyd a gasglodd ynghyd ei barddoniaeth, mewn sawl cyfrol.
Yn 1924, ysgarodd Under a Carl Hacker a phriododd Adson.
Ar ddiwedd y 1910au, bu'n rhan o fudiad llenyddol newydd y Siuru, mudiad neo-ramantaidd a'r gwrthwyneb i'r mudiad cyfredol, ffurfiol "Yr Estonia Ifanc" (Noor-Eesti) a sefydlwyd gan Gustav Suits a Friedebert Tuglas. Ymhlith aelodau eraill y Siuru roedd: Peet Aren, Otto Krusten, Friedebert Tuglas, Artur Adson, Awst Gailit, Johannes Semper a Henrik Visnapuu. Cyd-gyhoeddodd y grwp dair cyfrol rhwng 1917 a 1919.[6][7]
Yn 1922 cydsefydlodd Undeb Sgwennwyr Estonia (Eesti Kirjanike Liit neu EKL).[8]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Henrik Visnapuu Literature Prize (1964) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Maria Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". "Marie Under". "Maria Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Maria Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marie Under". "Marie Under". "Maria Under". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
- ↑ Jean Albert Bédé, William Benbow Edgerton, Columbia Dictionary of Modern European Literature, Columbia University Press, 1980, ISBN 0-231-03717-1, p237
- ↑ Rubulis, Aleksis. Baltic Literature. University of Notre Dame Press, 1970.
- ↑ 8.0 8.1 Tambur, S. (4 Ionawr 2015). "Estonia's most influential poet to be reburied". Eesti Rahvusringhääling. Cyrchwyd 2 Mai 2015.