Mario Lanza
Roedd Mario Lanza ganwyd Alfredo Arnold Cocozza; (31 Ionawr 1921 - 7 Hydref 1959) yn denor o'r Unol Daleithiau o dras Eidalaidd, ac yn actor a seren ffilm Hollywood yn niwedd y 1940au a'r 1950au.[1]
Mario Lanza | |
---|---|
Ffugenw | Mario Lanza |
Ganwyd | Alfred Arnold Cocozza 31 Ionawr 1921 Philadelphia |
Bu farw | 7 Hydref 1959 Rhufain |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cerddor, actor ffilm, artist recordio |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Prif ddylanwad | Enrico Caruso |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.lanzalegend.com |
Cefndir
golyguGanwyd Lanza yn Philadelphia, yn blentyn i Antonio Cocozza, perchennog siop groser a Maria (née Lanza) ei wraig. Roedd ei ddau riant yn fewnfudwyr i'r Unol Daleithiau o'r Eidal. Wedi derbyn rhywfaint o addysg gerddorol tra yn yr ysgol roedd wedi penderfynu ar yrfa fel cannwr opera.[2]
Gyrfa
golyguYm 1942 derbyniodd Lanza ysgoloriaeth gan y maestro Serge Koussevitzky i hyfforddi yng Ngŵyl Tanglewood. Ar 7 Awst, canodd rôl Fenton yng nghynhyrchiad yr Ŵyl o The Merry Wives of Windsor gan Nicolai - ei berfformiad cyntaf ar y llwyfan operatig.
Torrwyd ei hyfforddiant a'i yrfa operatig yn fyr pan ymunodd yr Unol Daleithiau a'r Ail Ryfel Byd. Cafodd Lanza ei listio i'r Fyddin. Cafodd ei benodi yn rhan o'r Heddlu Milwrol i gychwyn ond cafodd ei drosglwyddo i'r Gwasanaethau Arbennig fel canwr pan ddarganfuwyd bod ganddo gefndir mewn cerddoriaeth. Ac felly fe deithiodd fel diddanwr gyda'r fyddin, gan ganu mewn sioe o'r enw On the Beam.
Ar ôl y rhyfel bu Lanza yn teithio trwy'r Unol Daleithiau a Chanada wrth gael gwersi canu gan Enrico Rosati. Arweiniodd y daith at gyngerdd yn yr Hollywood Bowl Los Angeles ym 1947.[2] Gwelodd Louis B. Mayer, pennaeth Metro-Goldwyn-Mayer, ei berfformiad a gwnaeth ei ganu argraff arno. Rhoddodd Mayer gontract ffilm saith mlynedd i Lanza. Cyn hynny, dim ond dau berfformiad o opera yr oedd wedi canu. Y flwyddyn ganlynol (1948), fodd bynnag, canodd rôl Pinkerton ym Madama Butterfly gan Puccini yn New Orleans.[3]
Ei ffilm gyntaf ar gyfer MGM oedd That Midnight Kiss (1949) gyda Kathryn Grayson ac Ethel Barrymore. Blwyddyn yn ddiweddarach daeth ei gân "Be My Love", o'r ffilm The Toast of New Orleans, yn boblogaidd iawn a gwerthodd dros filiwn o gopïau o'r recordiad o'r gân. Ym 1951, chwaraeodd rôl y tenor Enrico Caruso, ei eilun, yn y ffilm fywgraffyddol The Great Caruso, a gynhyrchodd arall a werthodd dros filiwn o gopïau "The Loveliest Night of the Year" (cân a ddefnyddiodd alaw Sobre las Olas ). The Great Caruso oedd y ffilm a wnaeth y fwyaf o bres y flwyddyn honno.[4]
Cân deitl ei ffilm nesaf, Because You're Mine, oedd ei gân boblogaidd olaf a werthodd filiwn. Aeth y gân ymlaen i dderbyn enwebiad Gwobr Academi am y Gân Wreiddiol Orau. Ar ôl recordio'r trac sain ar gyfer ei ffilm nesaf, The Student Prince, cychwynnodd ar frwydr hirfaith gyda phennaeth y stiwdio Dore Schary yn deillio o wahaniaethau artistig gyda'r cyfarwyddwr Curtis Bernhardt, ac fe'i diswyddwyd gan MGM.[5]
Teulu
golyguYm 1945 priododd ag Elizabeth Jeannette Lyhan. Bu iddynt bedwar o blant.
Marwolaeth
golyguYn ystod y rhan fwyaf o'i yrfa ffilm, roedd yn dioddef o ddibyniaeth ar orfwyta ac alcohol a gafodd effaith ddifrifol ar ei iechyd a'i berthynas â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac, weithiau, aelodau eraill o'r cast.[6] Gwnaeth dair ffilm arall cyn marw o emboledd ysgyfeiniol yn 38 oed. Ar adeg ei farwolaeth ym 1959 roedd yn dal i fod "y tenor enwocaf yn y byd".[7][8]
Ffilmiau
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Stiwdio | Nodiadau | Ref |
---|---|---|---|---|---|
1944 | Winged Victory | aelod o'r corws | Twentieth Century-Fox | [9] | |
1949 | That Midnight Kiss | Johnny Donnetti | Metro-Goldwyn-Mayer | [10] | |
1950 | The Toast of New Orleans | Pepe Abellard Duvalle | Metro-Goldwyn-Mayer | [11] | |
1951 | The Great Caruso | Enrico Caruso | Metro-Goldwyn-Mayer | [12] | |
1952 | Because You're Mine | Renaldo Rossano | Metro-Goldwyn-Mayer | [13] | |
1954 | The Student Prince | Prince Karl (singing voice) | Metro-Goldwyn-Mayer | [14] | |
1956 | Serenade | Damon Vincenti | Warner Bros. | [15] | |
1957 | Seven Hills of Rome | Marc Revere | Metro-Goldwyn-Mayer | hefyd yn cael ei alw'n Arrivederci Roma | [16] |
1959 | For the First Time | Tonio Costa | Metro-Goldwyn-Mayer | ffilm olaf | [17] |
Detholiad o gryno ddisgiau
golygu- The Great Caruso And Other Caruso Favorites (1989)
- Mario Lanza Sings Songs from The Student Prince and The Desert Song (1989)
- Mario! (Lanza At His Best) (1995)
- Mario Lanza: Opera Arias and Duets, (1999)
- Mario Lanza Live at Hollywood Bowl: Historical Recordings (1947 & 1951) (2000)
- Serenade/A Cavalcade of Show Tunes (2004)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "A Lanza Scrapbook". Mario Lanza, Tenor. Cyrchwyd 2021-02-22.
- ↑ 2.0 2.1 "FanFaire celebrates MARIO LANZA!". www.fanfaire.com. Cyrchwyd 2021-02-22.
- ↑ Bessette, Roland L. Mario Lanza: Tenor in Exile, Amadeus (1999), p. 65
- ↑ Vogel, Michelle. Children of Hollywood, McFarland (2005), p. 65.
- ↑ "Mario Lanza". IMDb.com.
- ↑ Hopper, Hedda. The Whole Truth and Nothing But, Pyramid Books (1963), chapter 18.
- ↑ Mannering, Derek. Mario Lanza: Singing to the Gods, Univ. Press of Mississippi (2005) pp. xv-xvii.
- ↑ Kimmel, Eleonora. Altered and Unfinished Lives, A.F.A. (2006) p. 191.
- ↑ Leonard Maltin, gol. (2015). Leonard Maltin's Classic Movie Guide (arg. Third). Penquin Random House LLC. t. 785.
- ↑ "That Midnight Kiss". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "The Toast of New Orleans". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "The Great Caruso". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "Because You're Mine". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "The Student Prince". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "Serenade". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "Seven Hills of Rom". American Film Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-25. Cyrchwyd December 6, 2020.
- ↑ "For the First Time". American Film Institute. Cyrchwyd December 6, 2020.