Roedd Marion Hood (1 Ebrill 1854 - 14 Awst 1912) yn Soprano Seisnig a berfformiodd mewn opera a theatr gerdd yn negawdau olaf y 19eg ganrif. Mae'n cael ei chofio orau am greu rôl Mabel yn The Pirates of Penzance Gilbert a Sullivan yn Llundain.[1]

Marion Hood
Ganwyd1 Ebrill 1854 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1912 Edit this on Wikidata
Ynys Thanet Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa gynnar golygu

Ganed Sarah Ann Isaac yn Lerpwl. Roedd hi'n perfformio yn y neuaddau gerddoriaeth fel plentyn erbyn ei bod 11 mlwydd oed dan yr enw Marion Isaac. Priododd â Mr Hunt o Neuadd Gerdd Palas Alhambra yn Kingston upon Hull.[2] Yn 1876, roedd hi wedi symud i Lundain i astudio canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Roedd ei gŵr wedi marw erbyn 1880.[3]

Ym 1880 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan Llundain yn yr Opera Comique, gan ymuno â Chwmni Opera D'Oyly Carte a chreu rôl Mabel ar gyfer cynhyrchiad Llundain o The Pirates of Penzance. Yn ôl ei chydweithiwr Rutland Barrington, roedd Hood yn "ddarlun perffaith i edrych arno ac yr un mor ddymunol i wrando arno... tal, ysgafn, a gosgeiddig, merch nodweddiadol o Loegr gyda chyfoeth o wallt teg, a oedd i gyd yn eiddo iddi hi ei hun.. Roedd ei chanu o'r gân waltz, 'Poor Wandering One', yn un o nodweddion yr act gyntaf o The Pirates of Penzance." [4]

Ar ôl y perfformiad hwnnw, gadawodd Hood y cwmni a phriodi ei hail ŵr, Mr Hesseltine, gan gymryd seibiant byr o berfformio hyd Awst 1881, pan ymddangosodd fel Constance yng nghynhyrchiad cyntaf Claude Duval gan Henry Pottinger Stephens ac Edward Solomon yn yr Olympic Theatre, gyda George Power a oedd wedi bod yn bartner iddi fel Frederic yn The Pirates of Penzance. Yna canodd yn Theatr Alhambra a Theatr Avenue, gan berfformio yn Golden Ring Frederic Clay a The Beggar Student gan Karl Millöcker. Ar ôl hyn, aeth ar daith o amgylch y theatrau taleithiol mewn opera clasurol, gan ymddangos fel Marguerite yn Faust, ym mha rôl yr ymddangosodd hi wedyn yn y Crystal Palace.

Blynyddoedd diweddarach golygu

 

Ymddangosodd Hood nesaf yn Billee Taylor yn y Gaiety Theatre ym 1885 a Little Jack Sheppard ym 1885-86. Yna creodd y rôl deitl yn sioe lwyddiannus BC Stephenson ac Alfred Cellier Dorothy gan ddechrau ym 1886, gan chwarae yn y sioe am 350 o berfformiadau hyd i salwch ei gorfodi i dynnu'n ôl o'r cast (i gael ei disodli gan Marie Tempest ). Yn fuan dychwelodd i'r Gaiety i serennu mewn sioeau burlesque fel Monte Cristo Jr (1886), Miss Esmeralda (1887), Frankenstein, or The Vampire's Victim (1887-88) a Ruy Blas and the Blasé Roué (1889). Teithiodd America ar ddau achlysur gyda chwmnïau Gaiety yn ystod y cyfnod 1888-90).[5]

Ym 1891, dychwelodd Hood i Lundain mewn sioe bwrlesg am Joan of Arc, neu Merry Maid of Orleans (gan Adrian Ross a JL Shine).[6] Teithiodd hefyd yn Awstralia ym 1892 yn Carmen up to Data ymhlith pethau eraill. Ym 1894 bu ar daith yn chware rhan Alma Somerset yn The Gaiety Girl, gan gynnwys perfformiad yn y Theatr Frenhinol, Caerdydd.[7] Efallai mai ei hymddangosiad olaf ar lwyfan Llundain oedd fel aelod o'r dorf yn y llys yn Trial by Jury sioe budd ar gyfer Nellie Farren ym 1898.

Bu farw yn Thanet, Caint yn 58 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. Pinafore - MARION HOOD Adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  2. Who Was Who in the D'Oyly Carte Marion Hood Adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  3. NY Times adolygiad o noson agoriadol Llundain o Pirates, gan gynnwys perfformiad Hood
  4. Gilbert and Sullivan Archive – Adolygiad o The Pirates of Penzance yn The Examiner, 14 Awst, 1880. Adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  5. "Green Room Gossip - South Wales Echo". Jones & Son. 1887-11-19. Cyrchwyd 2020-07-14.
  6. Hollingshead, John. Good Old Gaiety: An Historiette & Remembrance, p. 62 (1903) London: Gaiety Theatre Co.
  7. "THE GAIETY GIRL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1894-11-07. Cyrchwyd 2020-07-14.


Dolenni allanol golygu