Marie Tempest
Cantores ac actores o Loegr oedd y Fonesig Mary Susan Etherington, DBE (15 Gorffennaf 1864 - 15 Hydref 1942), a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Marie Tempest ac yn cael ei hadnabod fel "brenhines ei phroffesiwn".
Marie Tempest | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1864 Llundain |
Bu farw | 15 Hydref 1942, 14 Hydref 1942 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor ffilm, actor llwyfan |
Math o lais | soprano |
Tad | Edwin Etherington |
Mam | Sarah Mary Castle |
Priod | Cosmo Stuart, W. Graham Browne |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Daeth Tempest y soprano enwocaf ym maes yr opera ysgafn Fictoraidd hwyr a chomedïau cerddorol Edwardaidd. Yn ddiweddarach, daeth yn actores ddigrif flaenllaw a theithiodd yn eang yng Ngogledd America ac mewn mannau eraill. Roedd hi, ar brydiau, yn rheolwr theatr ei hun yn ystod gyrfa yn rhychwantu 55 mlynedd. Roedd Tempest hefyd yn allweddol wrth sefydlu undeb yr actorion Equity.
Bywyd a gyrfa
golyguGaned Tempest yn Llundain. Ei rhieni oedd Edwin Etherington (1838-1880), gwerthwr deunydd ysgrifennu, a Sarah Mary (née Castle) Etherington. Addysgwyd Tempest yn Ysgol Midhurst a lleiandy yn Thildonck, Gwlad Belg. Yn ddiweddarach, astudiodd gerddoriaeth ym Mharis, Ffrainc ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, fel disgybl canu i Manuel García, tiwtor Jenny Lind .[1] Mabwysiadodd fel ei henw llwyfan o ran o enw'r Arglwyddes Susan Vane-Tempest, ei mam bedydd.[2]
Priododd Tempest ag Alfred Edward Izard, myfyriwr arall yn yr Academi, ym 1885. Daeth y briodas honno i ben mewn ysgariad bedair blynedd yn ddiweddarach, a dyfarnwyd iawndal i Izard yn y setliad ysgariad. Bu iddynt fab o'r briodas.[3] Tua deng mlynedd yn ddiweddarach priododd ei ail ŵr Cosmo Lennox
Gyrfa gynnar
golyguYmddangosiad cyntaf Tempest oedd fel Fiametta ym 1885 yn yr opereta Boccaccio gan Franz Suppé yn y Theatr Gomedi yn Llundain, lle bu hefyd yn chware'r rôl deitl yn Erminie gan Edward Jakobowski. Bu’n serennu’n gyson yn Llundain am y ddwy flynedd nesaf mewn operâu ysgafn gan Hervé ac André Messager, ymhlith eraill.[2][4] Daeth yn enwog yn rhyngwladol am ei pherfformiad yn y rôl deitl yn Dorothy gan Alfred Cellier a BC Stephenson (1887), a redodd am 931 o berfformiadau (gan ddod yn boblogaidd wedi i Tempest gymryd y rôl deitl drosodd gan Marion Hood).[5] Difrodwyd ei phriodas o herwydd sïon am berthynas gyda'i chynhyrchydd. Er gwaethaf yr effaith ar ei phriodas bu'r sïon yn gwella ei hapêl i'w chynulleidfaoedd.[1] Ystyriodd Richard D'Oyly Carte ymgysylltu â hi ar gyfer ei gwmni opera ond wedi i WS Gilbert (ar ôl ei gweld yn Dorothy ) ei bod hi yn "sgrechian" canu, gollyngwyd y cynnig.[6]
Ym 1890, creodd rôl Kitty Carol yn The Red Hussar yn Llundain ac yna yn Ninas Efrog Newydd.[7] Yna aeth ar daith o amgylch yr Unol Daleithiau a Chanada am flwyddyn gyda Chwmni Opera Comic JC Duff mewn operetas fel Carmen, Manon, Mignon,[8] The Bohemian Girl a The Pirates of Penzance.[1] Dychwelodd i Broadway am y tair blynedd nesaf mewn nifer o gynyrchiadau gan gynnwys The Tyrolean, The Fencing Master gan Reginald De Koven a Harry B. Smith, a The Algerian .[9] Yn ystod y cyfnod hwn fe'i hystyriwyd yn un o ychydig o berfformwyr gallai gystadlu efo poblogrwydd Lillian Russell . Ysgrifennodd beirniad Americanaidd ym 1894: "Mae Miss Tempest yn cyfuno llais o draw a melyster rhyfeddol ag ysfa ddramatig actores emosiynol i raddau mwy, yn ôl pob tebyg, nag unrhyw prima donna arall sydd bellach ar y llwyfan yn yr iaith Saesneg".[10]
Ym 1895, daeth George Edwardes a hi yn ôl i Lundain i serennu yn ei gynyrchiadau yn Theatr Daly's, gan ddechrau gydag Adele yn An Artist's Model,[11][12] a redodd am dros 400 o berfformiadau. Dilynwyd hyn gan rôl y teitl yn y Geisha (1896) a oedd hyd yn oed yn fwy llwyddiannus, ac a redodd am 760 o berfformiadau. Ym 1898 bu yn A Greek Slave (1898) [13] a'r sioe ysgubol lwyddiannus trwy'r byd San Toy (1899).[14] Roedd Tempest yn un anodd i weithio efo, ac roedd ei dadleuon gydag Edwardes a rhai o'i chydweithwyr yn enwog.[1] Teimlai fod Edwardes yn rhy gyfewin ac o'r diwedd gadawodd San Toy ym 1900, yn ôl pob sôn dros ffrae ynghylch ei gwisg.[15]
O 1899 hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
golyguErbyn 1899, roedd Tempest wedi priodi eto, â'r actor a dramodydd Cosmo Stuart (Cosmo Charles Gordon-Lennox), mab yr Arglwydd Alexander Gordon-Lennox. Ar ei gyngor ef, rhoddodd Tempest y gorau i berfformio operetas gan droi at ddramâu comedi syth. Ym 1900 creodd rôl Nell Gwynne yn English Nell gan Anthony Hope yn Theatr Tywysog Cymru, Llundain,[16] ac yna yn yr un theatr ym 1901 yn rolau teitl Peg Woffington gan Charles Reade a Becky Sharp, addasiad o Vanity Fair, gan Robert Hichens a'i gŵr. Yr un flwyddyn, chwaraeodd Polly Eccles yn Caste gan TW Robertson,[8] ac yna ym 1902 rôl deitl The Marriage of Kitty, a ysgrifennwyd hefyd gan Stuart. Sefydlodd y rhain hi fel yr actores gomedi blaenaf Lloegr.[17]
Aeth Tempest ar daith i America ym 1904, gan adfer ei rôl yn The Marriage of Kitty a chwarae'r rôl deitl yn The Freedom of Suzanne . Ymddangosodd yn Llundain ym 1907 yn The Truth yn y Theatr Gomedi, wedi'i hysgrifennu, ei chyfarwyddo ac yn serennu Dion Boucicault.[18] Bu hefyd yn serennu yn The Barrier gan Alfred Sutro ym 1907.[2] Ym 1908, bu'n chware Mrs. Dot gan Somerset Maugham ac yna rhannau yn Peggy All-of-a-Sudden a Penelope . Dychwelodd i America ym 1909 ar gyfer taith dwy flynedd, ac ymddangos mewn dramâu fel Caste a Vanity Fair .[1][19]
Gan ddychwelyd i Loegr ym 1911, ymunodd Tempest â chast serennog ar gyfer cynhyrchiad Herbert Beerbohm Tree o The Critic gan Richard Brinsley Sheridan. Yna dechreuodd reoli'r theatrau yr oedd hi'n serennu ynddynt. Prydlesodd Theatr Dug Efrog a chynhyrchu adfywiad o The Marriage of Kitty . Bu’n serennu yn ei chynyrchiadau ei hun yn theatrau Llundain am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ym 1913 bu mewn adfywiad London Assurance, a roddwyd er budd Cronfa Bensiwn Actorion y Brenin Siôr.[1] Treuliodd wyth mlynedd, gan ddechrau ym 1914, trwy deithio yn America, Canada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Singapore, China, Japan a'r Philipinau.[2] Un o'i rolau, ym 1915, oedd y rôl deitl yn Rosalind gan JM Barrie .[20]
Diwedd gyrfa
golyguDychwelodd Tempest i Loegr ym 1922, gan adfywio The Marriage of Kitty . Roedd ail ŵr Tempest wedi marw ym 1921, a phriododd yr actor William Graham Browne yn Sydney yr un flwyddyn. Erbyn y 1920au, roedd Tempest wedi tyfu'n rhy hen i chware merched ifanc gydag anian drafferthus ac wedi symud i chwarae menywod canol oed swynol a chain.[1] Ym 1924 cymerodd ran canu eto yn Midsummer Madness gan Clifford Bax yn Theatr y Lyric .[21] Creodd rôl Judith Bliss yn Hay Fever Noël Coward (1925). Parhaodd ei phoblogrwydd mewn sioeau fel Passing Brompton Road gan Jevan Brandon-Thomas a The Cat's Cradle gan Aimee a Philip Stuart.[2] Cafodd un rôl canu arall ym 1927 yn The Marquise, a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan Coward.[22] Yna serennodd fel Olivia yn Mr. Pim Passes By gan AA Milne (1928), The First Mrs Fraser gan St. John Ervine (1929, gan roi 632 o berfformiadau yn Theatr yr Haymarket), a Fanny Cavendish yn Theatre Royal (1934).
Yn ei blynyddoedd olaf, daeth Tempest yn weithgar wrth weithio er budd aelodau ei phroffesiwn. Ym 1934, bu’n allweddol wrth sefydlu Equity undeb yr actorion, pan gynhaliodd ginio yng Ngwesty’r Savoy ar gyfer 85 o ddiddanwyr blaenllaw. Ar 28 Mai 1935, dathlwyd jiwbilî euraidd Tempest gyda pherfformiad budd-dal yn y Theatre Royal, Drury Lane a fynychwyd gan y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary. Roedd y rhaglen yn cynnwys teyrngedau gan JM Barrie, Noël Coward, Edward German a Somerset Maugham, ymhlith eraill. Ymddangosodd Tempest mewn un act yr un o The Marriage of Kitty a Little Catherine, dwy o'i rolau mwyaf poblogaidd. Rhoddwyd yr elw o £ 5,000 o'r digwyddiad i Ysbyty St George i'w ddefnyddio gan aelodau o'r proffesiwn theatraidd.[1]
Cafodd ei urddo yn Fonesig Gomander yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) ym 1937, yr un flwyddyn y bu farw ei thrydydd gŵr, Graham Browne. Y flwyddyn nesaf, creodd rôl Dora Randolph yn nrama Dodie Smith, Dear Octopus . Parhaodd i weithio ar ôl hyn, er yn llai o aml.[1] Aeth ar daith o amgylch Prydain Fawr yn The First Mrs. Fraser gydag AE Matthews a Barry Morse ym 1941, flwyddyn cyn ei marwolaeth. Yr un flwyddyn, bomiwyd cartref Tempest yn Llundain yn ystod y Blitz, a chollodd y rhan fwyaf o'i heiddo.
Marwolaeth
golyguBu farw Tempest yn Llundain ym 1942 yn 78 oed, a chafodd ei amlosgi yn Amlosgfa Golders Green .[23] Gosodwyd plac glas ar safle ei chartref yn 24 Park Crescent yn Llundain.[24]
Ffilmiau
golygu- 1915 - Mrs. Plumb yn Mrs. Plum's Pudding
- 1937 - Y Farwnes Lindenborg yn Moonlight Sonata
- 1938 - Jennifer Varwell yn Yellow Sands
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 "Marie Tempest (1866-1942) - Stage Beauty". www.stagebeauty.net. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Tempest, Dame Marie [real name Susan Mary Etherington] (1864–1942), actress". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/36450. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ "THE THEATRICAL DIVORCE ACTION - South Wales Echo". Jones & Son. 1889-02-13. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ Traubner, tud. 26
- ↑ Traubner, tud. 197
- ↑ Jacobs, tud. 251
- ↑ "Marie Tempest", The Illustrated American, Cyfrol 3, 6 Medi1890, p. 428
- ↑ 8.0 8.1 Ysgrif goffa, The Times, 16 Hydref 1942, tud. 7, col. D
- ↑ Traubner, tud. 142, 144 a 188
- ↑ "Health More than Success" Archifwyd 2009-05-26 yn y Peiriant Wayback, The Times, Trenton New Jersey, 1 Chwefror 1894, wedi ei ail gyhoeddi yn In Press and Literature ar wefan Stage Beauty
- ↑ "LONDON LETTER - The Western Mail". Abel Nadin. 1895-02-02. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ "AN ARTIST'S MODEL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1895-02-09. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ "A GREEK SLAVE AT THE ROYAL CARDIFF - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1899-09-26. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ Traubner, tud. 201-05
- ↑ Traubner, tud. 204-05
- ↑ "Marie Tempest Applauded in Comedy", The New York Times, 22 Awst 1900
- ↑ Beerbohm, tud.329
- ↑ The Observer, "Miss Tempest's Triumph", 7 Ebrill 1907, tud. 5
- ↑ "Marie Tempest to be a Manager", The New York Times, 14 Rhagfyr 1910, p. 13
- ↑ "40 and a Bittock" Archifwyd 2012-02-11 yn y Peiriant Wayback, Atlanta Constitution, 17 Hydref 1915, wedi ei ail gyhoeddi ar wefan Stage Beauty
- ↑ The Manchester Guardian, 16 Hydref 1942, tud. 6
- ↑ The Manchester Guardian, 17 Chwefror 1927, tud. 14
- ↑ Marwolaethau: The Times, 23 Hydref 1942, p. 7, col. B
- ↑ Darlun o'r plac gan Gwynhafyr (2008-06-09), 24 Park Crescent, W1, https://www.flickr.com/photos/gwynhafyr/2731940587/, adalwyd 2020-06-22
Ffynonellau
golygu- Beerbohm, Max. Last Theatres (1970)
- Blum, Daniel C. Great Stars of the American Stage (1953)
- Bolitho, Hector. Marie Tempest (1936)
- Holledge, J. Innocent Glowers (1981)
- Coward, Noel. Hay Fever (1983)
- Grove, V. Dear Dodie: the Life of Dodie Smith (1996)
- Hare, P. Noel Coward (1995)
- Jacobs, Arthur. Arthur Sullivan. Oxford Paperbacks, 1986 ISBN 978-0-19-282033-4
- Smith, Dodie. Dear Octopus (1938)
- Tempest, Marie and Dark, Sidney (introduction). The Marie Tempest Birthday Book, Llundain S. Paul (1913)
- Richard Traubner (2003). Operetta. Routledge. ISBN 978-0-415-96641-2.
- Chisholm, Hugh, ed. (1911). "Tempest, Marie" . Encyclopædia Britannica. 26 (arg rhif 11) Gwasg Prifysgol Caergrawnt. tud. 590–591.