Mark Pembridge
Cyn chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Mark Anthony Pembridge (ganed 29 Tachwedd 1970) chwaraeodd 333 o gemau ym mhrif adran Lloegr i Luton Town, Sheffield Wednesday, Everton a Fulham, gan sgorio 25 gôl a llwyddodd i ennill 54 cap dros Gymru rhwng 1991 a 2004.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Mark Pembridge | ||
Dyddiad geni | 29 Tachwedd 1970 | ||
Man geni | Merthyr Tydfil, Cymru | ||
Taldra | 1.73m | ||
Safle | Canol Cae | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1989–1992 | Luton Town | 70 | (6) |
1992–1995 | Derby County | 140 | (37) |
1995–1998 | Sheffield Wednesday | 108 | (13) |
1998–1999 | Benfica | 19 | (1) |
1999–2003 | Everton | 101 | (4) |
2003–2007 | Fulham | 54 | (2) |
Cyfanswm | 492 | (63) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1991–2004 | Cymru | 54 | (6) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
golyguDechreuodd Pembridge ei yrfa gyda Luton Town yn Adran Gyntaf Y Gynghrair Bêl-droed gan ymuno â'r clwb pan yn 18 mlwydd oed. Roedd wedi ei argymell i'r clwb gan y sgowt o dde Cymry, Cyril Beach, oedd hefyd wedi bod yn gyfrifol am chwaraewyr fel John Hartson a Ceri Hughes yn ymuno â Luton.[1]
Ym 1992 ymunodd â Derby County am £1.2m[2] ond wedi tair blynedd ar y Baseball Ground, symudodd Pembridge i Sheffield Wednesday am £900,000.
Chwaraeodd Pembridge am dri tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn ymuno â'i gyd Gymro, Dean Saunders yn Benfica lle roedd yr Albanwr, Graeme Sounness wedi cymryd yr awenau.[3] Methodd â chanfod ei draed ym Mhortiwgal a dychwelodd i Uwch Gynghrair Lloegr gan ymuno ag Everton am £800,000.
Dioddefodd Pembridge anafiadau lu yn ei gyfnod ar Barc Goodison ac er dychwelyd i chwarae'r rhan fwyaf o dymor 2002-03 symudodd i Fulham ar ddiwedd y tymor gan ymuno â'i gyd Gymro, Chris Coleman, oedd yn rheolwr ar y clwb.[4][5]
Cafodd ddechrau da i'w yrfa gyda Fulham gan sgorio yn y gêm ddarbi yn erbyn Chelsea[6] ond gydag anafiadau yn golygu mai pum gêm yn unig chwaraeodd Pembridge mewn dau dymor rhwng 2005 a 2007, cafodd ei ryddhau gan Fulham a cyhoeddedd ei ymddeoliad o bêl-droed.[7]
Gyrfa ryngwladol
golyguCafodd Pembridge ei gap cyntaf dros Gymru tra'n chwarae gyda Luton Town. Chwaraeodd mewn buddugoliaeth 1-0 dros Frasil ar Barc yr Arfau, Caerdydd.[8] Casglodd yr olaf o'i 54 cap yn erbyn Lloegr yn Hydref 2004[9] cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn dilyn penodiad John Toshack fel rheolwr newydd Cymru.[10]
Gyrfa hyfforddi
golyguAr ôl ymddeol o bêl-droed, teuliodd saith mlynedd fel hyfforddwr timau iau Fulham cyn gweithio gyda'r tîm cyntaf o dan reolaeth Kit Symons. Yn dilyn ymadawiad Symons, mae Pembridge wedi bod yng ngofal Academi Fulham.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mark Pembridge: Merthyr Boy Done Good!". Lost Boyos. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Derby County: Sky nostrils are flaring, the transfer window must be opening again". Derby Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-31. Cyrchwyd 2016-04-04.
- ↑ "When Benfica welcomed a British invasion, but wished it hadn't". World Soccer. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Everton FC: Mark Pembridge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Cyrchwyd 2016-04-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Fulham Sign Pembridge". Fulham FC.[dolen farw]
- ↑ "Chelsea 2–1 Fulham". BBC.
- ↑ "Fulham release striker Radzinski". BBC.
- ↑ "Wales 1-0 Brazil". eu-football.info. Unknown parameter
|ur;=
ignored (help); Unknown parameter|published=
ignored (help); Missing or empty|url=
(help) - ↑ "England 2-0 Wales". eu-football.info. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Toshack blasts retired quartet". Sky Sports.
- ↑ "Mark Pembridge". Fulham Official Website.