Marlborough, Seland Newydd
Mae Marlborough'n dalaith o Seland Newydd yng ngogledd dwyrain Ynys y De. Y dref fwyaf Marlborough yw Waiharakeke (Saesneg: Blenheim) efo poblogaeth o 24,183 yn 2013.[1] Roedd Picton yn brifddinas Marlborough hyd at 1865, pan gymerodd Waiharakeke drosodd. Cysylltwyd y 2 dref gan reilffordd ym 1875. Dechreuodd gwasanaeth ferri rhwng Picton a Wellington ym 1962.[2]
Roedd gan Kaikoura boblogaeth o 1971 yn 2013 ac mae un ym mhob 5 yn Maori. Agorwyd y rheilffordd rhwng Picton a Christchurch yn Kaikoura ar 15 Rhagfyr 1945. Mae Ceunant tanforol Kaikoura yn denu morfilod at yr arfordir, sydd yn denu twristiaid i'r dref. [3]
Mae Marlborough'n enwog am ei win gwyn, yn benodol am win Sauvignon Blanc.[4]
HanesGolygu
Ymwelodd James Cook â Meretoto (Saesneg: Ship Cove) ar 15 Ionawr 1770.[5]
Daeganfuwyd aur yn Wakamarina yn Rbrill 1864, ac yn ymyl Waikakaho yn 1888; datblygwyd Cullensville yn sgil yr ail ddarganfyddiad.[6]
Magwyd Ernest Rutherford yn Havelock cyn iddo symud i Loegr [7]