Rhanbarthau Seland Newydd
Rhennir Seland Newydd yn 16 o ranbarthau sy'n gweithredu fel y lefel uchaf o lywodraeth leol. Gweinyddir 11 o'r rhanbarthau gan gynghorau rhanbarthol (haen uchaf llywodraeth leol), a 5 yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau unedol, sef awdurdodau tiriogaethol (ail haen llywodraeth leol) sydd hefyd yn cyflawni swyddogaethau cynghorau rhanbarthol. Yn ogystal â'r rhanbarthau, mae Cyngor Ynysoedd Chatham, er nad yw'n rhanbarth, yn gweithredu yn debyg i awdurdod unedol, wedi'i awdurdodi o dan ei ddeddfwriaeth ei hun.[1][2]
Daeth y rhanbarthau a'r rhan fwyaf o'u cynghorau i fodolaeth yn 1989 fel rhan o ddiwygio llywodraeth leol. Disodlodd y cynghorau rhanbarthol fwy na 700 o gyrff gweinyddol a ffurfiwyd yn y ganrif flaenorol. Yn ogystal, ymgymerasant â rhai cyfrifoldebau a gyflawnasid cynt gan gynghorau sir.
-
Enw Saesneg Enw Māori Prifddinas Ynys y Gogledd 1 Northland Te Tai Tokerau Whangārei 2 Auckland Tāmaki-makau-rau Auckland 3 Waikato Waikato Hamilton 4 Bay of Plenty Te Moana-a-Toi Whakatāne 5 Gisborne Te Tai Rāwhiti Gisborne 6 Hawke's Bay Te Matau-a-Māui Napier 7 Taranaki Taranaki Stratford 8 Manawatū-Whanganui Manawatū-Whanganui Palmerston North 9 Wellington Te Whanga-nui-a-Tara Wellington Ynys y De 10 Tasman Te Tai-o-Aorere Richmond 11 Nelson Whakatū Nelson 12 Marlborough Te Tauihu-o-te-waka Blenheim 13 West Coast Te Tai Poutini Greymouth 14 Canterbury Waitaha Christchurch 15 Otago Ōtākou Dunedin 16 Southland Murihiku Invercargill
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "2013 Census definitions and forms: U" (yn Saesneg). Statistics New Zealand. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
- ↑ "Glossary". localcouncils.govt.nz (yn Saesneg). Department of Internal Affairs. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.