Marowak
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Marowak (Japaneg: ガラガラ - Garagara). Mae Marowak yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.
Cymeriad
golyguDaw'r enw Marowak o'r geiriau Saesneg marrow (mêr) a whack (i bwrw'n galed). Daw'r enw Japaneg Garagara o'r gair dychmygol am drystiad. Fel Pikachu cafodd Marowak ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon).
Ffisioleg
golyguMae Marowak (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon tirol sydd yn edrych fel deinosor bychain brown gyda chynffonau eang, sbigynnog. Maent yn gwisgo penglogau ar ei bennau am amddifyniad ac er mwyn ymosod ar ei ysglyfaeth. Oherwydd hyn, mae eu wir wynebau yn anadnabyddus i wyddoniaeth (o fewn y bydysawd Pokémon). Mae Marowak hefyd yn defnyddio esgyrn fel arfau, neillau fel bwmerangau neu pastynnau.
Ymddygiad
golyguEr gwaethaf eu maint bach, mae gan Marowak naturion ffyrnig ac anwaraidd iawn. Mae gan Marowak ysbrydau diflinol a byddent yn ymladd Pokémon maint llawer mwy na'u hunain. Cyfriniaeth enfawr o fewn y byd Pokémon yw o ble caiff Marowak eu esgyrn. O fewn y gêm Pokémon Red, mae yna cyfeiriad tuag at claddfa am Marowak. Mae hyn yn gynfeiriad tuag at y chwedl o gladdfa eliffantiaid.
Cynefin
golyguCaiff Marowak eu ffeindio a gwmpas ardaloedd mynyddig.
Deiet
golyguMae Marowak yn hollysyddion sydd yn bwyta cig, ffrwythau, llysiau ac aeron.