Martin Bormann
Un o brif arweinwyr y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen oedd Martin Ludwig Bormann (17 Mehefin 1900 – efallai 2 Mai 1945). Daeth yn bennaeth Cangelloriaeth y Blaid (Parteikanzlei), ac yn ysgrifennydd preifat i Adolf Hitler, swydd oedd yn rhoi grym mawr iddo.
Martin Bormann | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1900, 17 Gorffennaf 1900 Halberstadt |
Bu farw | 2 Mai 1945 Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen Natsïaidd, Gweriniaeth Weimar, Ymerodraeth yr Almaen |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr, person milwrol, Nazi |
Swydd | member of the Reichstag of Nazi Germany |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Priod | Gerda Bormann |
Plant | Martin Adolf Bormann |
Perthnasau | Walter Buch |
Gwobr/au | Bathodyn y Parti Aur, Blood Order, NSDAP Long Service Award, Reichsführer-SS, Honour Chevron for the Old Guard, SS-Ehrenring |
llofnod | |
Ganed Bormann yn Wegeleben, ger Halberstadt. Gadawodd yr ysgol yn ieuanc i weithio ar fferm, yna wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rheolwr ystad yn Mecklenburg, lle daeth i gysylltiad a'r Freikorps. Yn 1924, carcharwyd ef am flwyddyn am helpu ei gyfaill Rudolf Höss (yn ddiweddarach pennaeth gwersyll difa Auschwitz) i lofruddio Walther Kadow. Ymunodd a'r Blaid Natsïaidd yn 1925 wedi ei ryddhau o'r carchar. O 1933 hyd 1941, bu Bormann yn ysgrifennydd preifat i Rudolf Hess, dirprwy Hitler.
Wedi i Hess hedfan i'r Alban ym Mai 1941, daeth Bormann yn bennaeth Cangelloriaeth y Blaid (Parteikanzlei). Daeth i gael dylanwad mawr ar Hitler, oedd yn ymddiried yn llwyr ynddo. Roedd Bormann ym Merlin gyda Hitler ddiwedd ebrill, pan oedd byddin yr Undeb Sofietaidd ar fin cipio'r ddinas. Idliwyd y ddinas iddynt ar 2 Mai. Yn ôl un fersiwn gan Artur Axmann, lladdwyd Bormann wrth iddo geisio dianc.
Gan nad oedd sicrwydd a oedd yn fyw ai peidio, rhoddwyd ef ar ei brawf yn ei absenoldeb ym mhrif brawf Treialon Nuremberg, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Bu sibrydion ei fod wedi dianc i Dde America, ond yn 1998, cyhoeddwyd fod profion ar benglog oedd wedi ei darganfod ym Merlin yn 1972 wedi dangos mai penglog Bormann ydoedd.