Masnach gwastraff byd-eang
Y fasnach wastraff fyd-eang yw'r fasnach trin gwastraff ryngwladol rhwng gwledydd, ei gasglu, ei symud a'i waredu neu ei ailgylchu ymhellach. Mae gwastraff gwenwynig neu beryglus yn aml yn cael ei fewnforio o wledydd cyfoethog i wledydd sy'n datblygu.
Math | masnach ryngwladol |
---|
Mae Adroddiad Banc y Byd Beth yw Gwastraff: Adolygiad Byd-eang o Reoli Gwastraff Solet, yn disgrifio faint o wastraff solat a gynhyrchir mewn gwlad benodol, gyda'r gwledydd sy'n cynhyrchu mwy o wastraff solet yn fwy datblygedig yn economaidd ac yn fwy diwydiannol.[1] Mae'r adroddiad yn esbonio: "Yn gyffredinol, po uchaf yw'r datblygiad economaidd a'r gyfradd drefoli, y mwyaf o wastraff solet a gynhyrchir."[1] Felly, mae gwledydd yn y Gogledd Byd-eang, sy'n fwy datblygedig yn economaidd ac yn drefol, yn cynhyrchu mwy o wastraff solet na gwledydd De Byd-eang.[1]
Mae’r llifau gwastraff masnach rhyngwladol presennol yn dilyn patrwm o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y Gogledd Byd-eang ac yn cael ei allforio a’i waredu yn y De Byd-eang. Ceir nifer o ffactorau sy'n effeithio ar ba wledydd sy'n cynhyrchu gwastraff a faint, lleoliad daearyddol, graddau diwydiannu, a lefel integreiddio i'r economi fyd-eang.
Mae nifer o ysgolheigion ac ymchwilwyr wedi cysylltu'r cynnydd sydyn mewn masnachu gwastraff (ac effeithiau negyddol masnachu gwastraff) â'r polisi economaidd neoryddfrydol.[2][3][4][5] Mae'r symudiad tuag at bolisi "marchnad rydd" wedi hwyluso'r cynnydd sydyn yn y fasnach wastraff fyd-eang.
Mae’r fasnach wastraff fyd-eang wedi cael effeithiau negyddol ar lawer o bobl, yn enwedig mewn gwledydd tlotach sy’n datblygu. Yn aml nid oes gan y gwledydd hyn brosesau na chyfleusterau ailgylchu diogel, ac mae pobl yn prosesu'r gwastraff gwenwynig â'u dwylo noeth.[6] Yn aml nid yw gwastraff peryglus yn cael ei waredu na'i drin yn briodol, gan arwain at wenwyno'r amgylchedd cyfagos ac arwain at salwch a marwolaeth mewn pobl ac anifeiliaid.[7] Mae llawer o bobl wedi profi salwch neu farwolaeth oherwydd y ffordd anniogel y caiff y gwastraff peryglus hwn ei drin.
Gwastraff cemegol
golyguGwastraff cemegol yw gormodedd o gemegau peryglus na ellir eu defnyddio, cemegau a gynhyrchiwyd yn bennaf gan ffatrïoedd mawr. Mae'n hynod o anodd a chostus ei waredu, a'r ateb hawdd yw eu danfon i wlad arall. Mae'n achosi llawer o broblemau a risgiau iechyd wrth ddod i gysylltiad â nhw, a rhaid trin y gwastraff yn ofalus a hynny mewn cyfleusterau prosesu gwastraff gwenwynig.
Yr Eidal yn dympio cemegau peryglus yn Nigeria
golyguUn enghraifft o wastraff cemegol yn cael ei allforio o'r Gogledd Byd-eang i'r De Byd-eang oedd geisiodd dyn busnes o'r Eidal osgoi rheoliadau economaidd Ewropeaidd.[8] Honnir iddo allforio 4,000 tunnell o wastraff gwenwynig, yn cynnwys 150 tunnell o ddeuffenylau polyclorinedig, neu PCBs, gwnaeth $4.3 miliwn o lew wrth gludo'r gwastraff peryglus i Nigeria.[9] Cyhoeddodd Fordham Environmental Law Review erthygl yn egluro effeithiau’r gwastraff gwenwynig a osodwyd ar Nigeria yn fanylach:
“Gan gam-labelu’r gwastraff fel 'gwrtaith', twyllodd y cwmni Eidalaidd weithiwr coed wedi ymddeol/anllythrennog i gytuno i storio’r gwenwyn yn ei iard gefn ym mhorthladd afon Koko yn Nigeria am gyn lleied â 100 doler y mis. Roedd y cemegau gwenwynig hyn yn llygad yr haul poeth a ger maes chwarae plant. Gollyngodd rhai o'r casgenni i system ddŵr Koko gan arwain at farwolaeth un-deg-naw o bentrefwyr a oedd yn bwyta reis wedi'i halogi o fferm gyfagos."[9]
Gwastraff plastig
golyguMae'r fasnach mewn gwastraff plastig wedi'i nodi fel prif achos sbwriel morol. Yn aml nid oes gan wledydd sy'n mewnforio'r plastigau mo'r gallu i brosesu'r holl ddeunydd. O ganlyniad, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi gosod gwaharddiad ar fasnach gwastraff plastig oni bai ei fod yn bodloni meini prawf penodol.
Effaith
golyguEffeithiau ar yr amgylchedd
golyguMae'r fasnach gwastraff peryglus yn cael effeithiau trychinebus ar yr amgylchedd a'r ecosystemau naturiol ac mae'r crynodiadau o lygryddion organig parhaus wedi gwenwyno'r ardaloedd o amgylch safleoedd dympio, gan ladd nifer o adar, pysgod a bywyd gwyllt arall.[7] Profwyd fod crynodiadau cemegol metal trwm yn yr aer, dŵr, pridd, a gwaddod yn yr ardaloedd dympio gwenwynig hyn ac o'u cwmpas, ac mae lefelau crynodiad yn uchel iawn ac yn wenwynig.[7]
Ymatebion rhyngwladol i faterion masnach gwastraff byd-eang
golyguCafwyd amrywiaeth o ymateb rhyngwladol i’r problemau sy’n gysylltiedig â’r fasnach wastraff fyd-eang a'r holl ymdrechion i’w reoleiddio ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae'r fasnach gwastraff peryglus wedi bod yn anodd ei rheoleiddio gan fod cymaint o wastraff yn cael ei fasnachu, a cheir cyfreithiau sy'n anodd eu gorfodi. At hynny, yn aml mae bylchau mawr yn y cytundebau rhyngwladol hyn sy'n caniatáu i wledydd a chorfforaethau ollwng gwastraff peryglus mewn ffyrdd peryglus. Yr ymgais fwyaf nodedig i reoleiddio'r fasnach gwastraff peryglus fu Confensiwn Basel.[10]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 What a Waste: A Global Review of Solid Waste Management (Adroddiad). World Bank.
- ↑ Nixon, Rob (2011). Slow Violence and the Environmentalism of the Poor. Cambridge, MA: Harvard University Press.
- ↑ Grossman, Gene M.; Krueger, Alan B. (1994). "Environmental Impacts of a North American Free Trade Agreement". In Garber, Peter (gol.). The U.S. Mexico Free Trade Agreement. MIT Press. tt. 13–56. doi:10.3386/w3914. ISBN 0-262-07152-5.
- ↑ Smith, Jackie (March 2001). "Globalizing Resistance: The Battle of Seattle and the Future of Social Movements". Mobilization: An International Quarterly 6 (1): 1–19. doi:10.17813/maiq.6.1.y63133434t8vq608. http://d-scholarship.pitt.edu/26753/1/Battle_in_Seattle_Smith_Mobilization_2000.pdf.
- ↑ 15 Harv. J. L. & Pub. Pol'y 373 (1992)Fallacies of Free Market Environmentalism, The ; Blumm, Michael C.
- ↑ Grossman, Elizabeth (10 Apr 2006). "Where Computers Go to Die — and Kill". Salon.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Frazzoli, Chiara; Orisakwe, Orish Ebere; Dragone, Roberto; Mantovani, Alberto (2010). "Diagnostic Health Risk Assessment of Electronic Waste on the General Population in Developing Countries' Scenarios". Environmental Impact Assessment Review 30 (6): 388–399. doi:10.1016/j.eiar.2009.12.004.
- ↑ Clapp, J. (1994). "Africa, NGOs, and the International Toxic Waste Trade". The Journal of Environment & Development 3 (2): 17–46. doi:10.1177/107049659400300204.
- ↑ 9.0 9.1 Okaru, Valentina O. (2011). "The Basil Convention: Controlling the Movement of Hazardous Wastes to Developing Countries". Fordham Environmental Law Review. 6th 4 (2): 138.
- ↑ Abrams, David J. (1990). "Regulating the International Hazardous Waste Trade: A Proposed Global Solution". Columbia Journal of Transnational Law 28: 801–846. https://heinonline.org/HOL/LandingPage?handle=hein.journals/cjtl28&div=43&id=&page=. Adalwyd 24 Feb 2014.