Rheoli gwastraff
Mae rheoli gwastraff neu waredu gwastraff yn cynnwys y prosesau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i reoli gwastraff o'i gychwyn hyd at ei waredu'n derfynol.[1] Er enghraifft, gall hyn olygu'r camau rhwng person yn ei gartref yn penderfynu ym mha bin i roi paced gwasg o fisgedi, i'r lori ludw'n cyrraedd, ac yna'n mynd a'r maced i'r ffatri ailgylchu. Gall gynnwys casglu, cludo, trin a gwaredu gwastraff, ynghyd â monitro a rheoleiddio'r broses a'r cyfreithiau sy'n ymwneud â gwastraff, technolegau, a mecanweithiau economaidd.
Enghraifft o'r canlynol | cangen economaidd, proses, disgyblaeth academaidd, safety |
---|---|
Math | cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol, ynni a pheirianneg amgylcheddol |
Rhan o | European Waste Hierarchy |
Yn cynnwys | waste minimisation, waste reuse, Ailgylchu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall gwastraff fod yn solet, hylifol, neu nwyon ac mae gan bob math wahanol ddulliau o waredu a rheoli. Ceir pob math o wastraff, gan gynnwys gwastraff diwydiannol, biolegol, cartref, dinesig, organig, biofeddygol, ymbelydrol a gall gwastraff fod yn fygythiad i iechyd pobl.[2] Mae materion iechyd yn gysylltiedig drwy'r holl broses o reoli gwastraff. Gall materion iechyd godi hefyd yn uniongyrchol neu;n anuniongyrchol: yn uniongyrchol trwy drin gwastraff solet, ac yn anuniongyrchol trwy yfed dŵr, pridd a bwyd.
Cynhyrchir gwastraff gan[3] weithgaredd dynol, er enghraifft, echdynnu a phrosesu deunyddiau crai o'r Ddaear.[4] Bwriad rheoli gwastraff yw lleihau effeithiau andwyol y gwastraff ar iechyd dynol, yr amgylchedd, adnoddau/r blanedac estheteg.
Felly, nod rheoli gwastraff yw lleihau effeithiau peryglus ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl a;r ecosystemau byw. Mae'r rhan fawr o reoli gwastraff yn ymwneud â gwastraff solet trefol, sy'n cael ei greu gan weithgarwch diwydiannol, masnachol a chartref.
Nid yw arferion rheoli gwastraff yn unffurf ymhlith gwledydd (cenhedloedd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu); gall rhanbarthau (ardaloedd trefol a gwledig), a sectorau preswyl a diwydiannol i gyd ddefnyddio dulliau gwahanol.[5]
Mae rheoli gwastraff yn briodol yn bwysig ar gyfer adeiladu dinasoedd cynaliadwy y gellir byw ynddynt, ond mae'n parhau i fod yn her i lawer o wledydd a dinasoedd sy'n datblygu. Canfu adroddiad fod rheoli gwastraff yn effeithiol yn gymharol ddrud, fel arfer yn cynnwys 20%-50% o gyllidebau dinesig. Mae gweithredu'r gwasanaeth dinesig hanfodol hwn yn gofyn am systemau integredig sy'n effeithlon, yn gynaliadwy ac yn cael eu cefnogi'n gymdeithasol.[6] Mae cyfran fawr o arferion rheoli gwastraff yn ymdrin â gwastraff solet dinesig (municipal solid waste (MSW)) sef y rhan fwyaf o'r gwastraff a grëir gan weithgarwch domestig, diwydiannol a masnachol.[7]
Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), disgwylir i wastraff solat dinesig gyrraedd tua 3.4 Gt erbyn 2050; fodd bynnag, gall polisïau a deddfu leihau faint o wastraff a gynhyrchir mewn gwahanol ardaloedd a dinasoedd drwy'r byd.[8] Mae mesurau rheoli gwastraff yn cynnwys mesurau ar gyfer mecanweithiau techno-economaidd integredig[9] o economi gylchol, cyfleusterau gwaredu effeithiol, rheoli allforio a mewnforio[10][11] a dyluniad cynaliadwy gorau posibl y cynnyrch a gynhyrchir.
Yn yr adolygiad systematig cyntaf o'r dystiolaeth wyddonol ynghylch gwastraff byd-eang, ei reolaeth a'i effaith ar iechyd a bywyd dynol, daeth awduron i'r casgliad nad yw tua pedwerydd o'r holl wastraff trefol solat yn cael ei gasglu a bod pedwerydd arall yn cael ei gamreoli ar ôl ei gasglu, yn aml yn cael eu llosgi mewn tanau agored heb eu rheoli – sef bron i biliwn o dunelli’r flwyddyn o’u cyfuno. Canfuwyd hefyd yn y 2020au nad oedd gan bob un o'r meysydd blaenoriaeth "sylfaen ymchwil o ansawdd uchel", yn rhannol oherwydd absenoldeb "cyllid ymchwil sylweddol", y mae gwyddonwyr brwdfrydig ei angen yn aml.[12][13] Mae gwastraff electronig (e-wastraff) yn cynnwys monitorau cyfrifiaduron wedi'u taflu, mamfyrddau, ffonau symudol a gwefrwyr, cryno ddisgiau (CDs), clustffonau, setiau teledu, cyflyrwyr aer (air conditioners) ac oergelloedd. Yn ôl y Monitor E-wastraff Byd-eang 2017, roedd India'n cynhyrchu ~ 2 filiwn tunnell (Mte) o e-wastraff yn flynyddol ac yn bumed ymhlith y gwledydd cynhyrchu e-wastraff, ar ôl yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Japan a'r Almaen.[14]
Egwyddorion rheoli gwastraff
golyguHierarchaeth gwastraff
golyguMae'r hierarchaeth gwastraff yn cyfeirio at leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, sy'n dosbarthu strategaethau rheoli gwastraff yn ôl eu dymunoldeb o ran lleihau gwastraff. Yr hierarchaeth gwastraff yw sylfaen y rhan fwyaf o strategaethau lleihau gwastraff. Nod yr hierarchaeth hwn yw cael y buddion ymarferol mwyaf o'r cynnyrch a chynhyrchu cyn lleied â phosibl o wastraff terfynol.[15]
Cynrychiolir yr hierarchaeth wastraff fel pyramid oherwydd y rhagosodiad sylfaenol yw y dylai polisïau hyrwyddo mesurau i atal cynhyrchu gwastraff. Y cam nesaf neu'r cam gweithredu a ffefrir yw ceisio defnyddiau amgen ar gyfer y gwastraff a gynhyrchwyd, hy trwy ailddefnyddio. Y nesaf yw ailgylchu sy'n cynnwys compostio. Yn dilyn y cam hwn mae adfer deunydd a gwastraff-i-ynni. Y cam olaf yw gwaredu, mewn safleoedd tirlenwi neu drwy losgi heb adennill ynni.[16] Mae hierarchaeth wastraff yn cynrychioli dilyniant cynnyrch neu ddeunydd trwy gamau dilyniannol y pyramid rheoli gwastraff. Mae'r hierarchaeth yn cynrychioli rhannau olaf cylch bywyd pob cynnyrch.
Effeithlonrwydd adnoddau
golyguMae effeithlonrwydd adnoddau yn nodi na ellir cynnal twf a datblygiad economaidd byd-eang ar y raddfa (a'r patrwm) presennol. Yn fyd-eang, mae dynoliaeth yn echdynnu mwy o adnoddau i gynhyrchu nwyddau nag y gall y blaned eu hailgyflenwi.[16] Effeithlonrwydd adnoddau yw lleihau'r effaith amgylcheddol o gynhyrchu a defnyddio'r nwyddau hyn, hy o echdynnu deunydd crai i'r gwaredu olaf.
Egwyddor y llygrwr sy'n talu
golyguMae'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu yn mynnu bod y parti sy'n llygru'n talu am yr effaith ar yr amgylchedd. O ran rheoli gwastraff, mae hyn yn cyfeirio'n gyffredinol at y gofyniad i gynhyrchydd gwastraff dalu am ei waredu'n briodol.[17]
Ailgylchu
golyguMae ailgylchu yn ffordd o adennill adnoddau sy'n cyfeirio at gasglu ac ailddefnyddio deunyddiau gwastraff fel cynwysyddion diodydd gwag. Mae'r broses hon yn cynnwys torri i lawr ac ailddefnyddio deunyddiau a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu fel sbwriel. Mae yna nifer o fanteision i ailgylchu, a gyda chymaint o dechnolegau newydd yn gwneud hyd yn oed mwy o ddeunyddiau yn ailgylchadwy, mae'n bosibl glanhau'r Ddaear.[18] Mae ailgylchu nid yn unig o fudd i'r amgylchedd ond hefyd yn effeithio'n gadarnhaol ar yr economi. Gellir troi'r deunyddiau y gwneir yr eitemau ohonynt yn gynhyrchion newydd.[19] Gellir casglu deunyddiau i’w hailgylchu ar wahân i wastraff cyffredinol gan ddefnyddio biniau pwrpasol a cherbydau casglu, gweithdrefn a elwir yn gasgliad ymyl y ffordd. Mewn rhai cymunedau, mae'n ofynnol i berchennog y gwastraff wahanu'r deunyddiau i wahanol finiau (ee ar gyfer papur, plastig, metelau) cyn i'r lori ludw ddod i'w casglu. Mewn cymunedau eraill, mae'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu rhoi mewn un bin i'w gasglu, ac ymdrinnir â'r didoli yn ddiweddarach mewn man canolog. Gelwir y dull olaf yn "ailgylchu un ffrwd".
Mae'r cynhyrchion defnyddwyr mwyaf cyffredin a ailgylchir yn cynnwys alwminiwm fel caniau diod, copr fel gwifren, dur o ganiau bwyd ac aerosol, hen ddodrefn neu offer dur, teiars rwber, poteli polyethylen a PET, poteli gwydr a jariau, cartonau bwrdd papur, papurau newydd, cylchgronau a phapur ysgafn, a blychau ffibr rhychiog.
Yn 2023 roedd y math o ddeunydd a dderbynnir i'w ailgylchu yn amrywio yn ôl dinas a gwlad. Mae gan bob dinas a gwlad wahanol raglenni ailgylchu ar waith a all drin y gwahanol fathau o ddeunyddiau ailgylchadwy. Fodd bynnag, adlewyrchir amrywiad penodol yn y derbyniad yng ngwerth ailwerthu'r deunydd ar ôl iddo gael ei ailbrosesu. Mae rhai o'r mathau o ailgylchu yn cynnwys papur gwastraff a chardbord, ailgylchu plastig, ailgylchu metel, dyfeisiau electronig, ailgylchu pren, ailgylchu gwydr, brethyn a thecstilau a llawer mwy.[20] Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd llywodraeth Tsieina waharddiad mewnforio o 24 categori o ddeunyddiau ailgylchadwy a gwastraff solat, gan gynnwys plastig, tecstilau a phapur cymysg, a achosodd impact aruthrol ar wledydd datblygedig yn fyd-eang a oedd yn allforio i Tsieina.[21]
Ail-ddefnyddio
golyguAilbrosesu biolegol
golyguGellir adennill deunyddiau organig eu natur, megis deunydd planhigion, sbarion bwyd, a chynhyrchion papur, trwy brosesau compostio a threulio i ddadelfennu'r deunydd organig. Yna caiff y deunydd organig sy'n deillio ohono ei ailgylchu fel tomwellt neu gompost at ddibenion amaethyddol neu dirlunio. Yn ogystal, gellir dal nwy gwastraff o'r broses (fel methan) a'i ddefnyddio i gynhyrchu trydan a gwres (CHP/cydgynhyrchu). Mae yna wahanol fathau o ddulliau a thechnolegau compostio a threulio, o bentyrrau compost cartref syml i dreuliad diwydiannol ar raddfa fawr o wastraff domestig cymysg. Mae'r gwahanol ddulliau o ddadelfennu biolegol yn cael eu dosbarthu fel dulliau aerobig neu anaerobig. Ceir dulliau hybrid sy'n cynnwys y ddau ddull yma. Ystyrir treuliad anaerobig y ffracsiwn organig o wastraff solet yn fwy amgylcheddol effeithiol na thirlenwi, neu losgi.[22] Bwriad prosesu biolegol mewn rheoli gwastraff yw rheoli a chyflymu'r broses naturiol o ddadelfennu mater organig.
Adfer ynni
golyguAdfer ynni o wastraff yw trosi deunyddiau gwastraff na ellir eu hailgylchu yn wres, trydan neu danwydd y gellir ei ddefnyddio trwy amrywiaeth o brosesau, gan gynnwys hylosgi, nwyeiddio, pyrolysu, treulio anaerobig, ac adfer nwy tirlenwi.[23] Gelwir y broses hon yn aml yn wastraff-i-ynni. Mae adennill ynni o wastraff yn rhan o'r hierarchaeth rheoli gwastraff nad yw'n beryglus.[23] Yn fyd-eang, mae gwastraff-i-ynni yn 16% o reoli gwastraff.[24]
Rheoli gwastraff hylifol
golyguMae gwastraff hylifol yn gategori pwysig o reoli gwastraff oherwydd ei fod mor anodd ymdrin ag ef. Yn wahanol i wastraff solet, ni ellir codi a thynnu gwastraff hylif o amgylchedd yn hawdd; mae'n lledaenu, ac yn llygru hylifau eraill yn hawdd. Mae'r math hwn o wastraff hefyd yn suddo i wrthrychau fel pridd a dŵr daear. Mae hyn yn ei dro yn lllygru'r planhigion, yr anifeiliaid yn yr ecosystem, yn ogystal â'r bodau dynol o fewn ardal y llygredd.[25]
Cyfnodolion gwyddonol
golygu- Economeg Amgylcheddol ac Adnoddau
- Monitro ac Asesu Amgylcheddol
- Cylchgrawn Polisi a Rheolaeth Asesiad Amgylcheddol
- Journal of Environmental Economics and Management
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "United Nations Statistics Division – Environment Statistics". unstats.un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2017. Cyrchwyd 3 March 2017.
- ↑ "Editorial Board/Aims & Scope". Waste Management 34 (3): IFC. March 2014. doi:10.1016/S0956-053X(14)00026-9.
- ↑ Giusti, L. (2009-08-01). "A review of waste management practices and their impact on human health" (yn en). Waste Management 29 (8): 2227–2239. doi:10.1016/j.wasman.2009.03.028. ISSN 0956-053X. PMID 19401266. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0956053X09001275. Adalwyd 4 December 2020.
- ↑ "United Nations Statistics Division - Environment Statistics". unstats.un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2017. Cyrchwyd 3 March 2017.
- ↑ Davidson, Gary (June 2011). "Waste Management Practices: Literature Review" (PDF). Dalhousie University – Office of Sustainability. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 1 February 2012. Cyrchwyd 3 March 2017.
- ↑ "Solid Waste Management". World Bank (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 September 2020. Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ "Glossary of environmental and waste management terms". Handbook of Solid Waste Management and Waste Minimization Technologies. Butterworth-Heinemann. 2003. tt. 337–465. doi:10.1016/B978-075067507-9/50010-3. ISBN 9780750675079.
- ↑ "Climate Change 2022: Mitigation of Climate Change". www.ipcc.ch (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-05.
- ↑ Gollakota, Anjani R. K.; Gautam, Sneha; Shu, Chi-Min (1 May 2020). "Inconsistencies of e-waste management in developing nations – Facts and plausible solutions" (yn en). Journal of Environmental Management 261: 110234. doi:10.1016/j.jenvman.2020.110234. ISSN 0301-4797. PMID 32148304. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0301479720301699. Adalwyd 27 February 2021.
- ↑ Elegba, S. B. (2006). "Import/export control of radioactive sources in Nigeria". Safety and security of radioactive sources: Towards a global system for the continuous control of sources throughout their life cycle. Proceedings of an international conference (yn English). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 September 2021. Cyrchwyd 27 February 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "E –Waste Management through Regulations". International Journal of Engineering Inventions. https://www.researchgate.net/profile/Prem-Baboo/post/Comparison_of_e-waste_regulations_e-waste_regulations/attachment/59d6367979197b8077993e4b/AS%3A388818185277444%401469712887190/download/B0320614.pdf. Adalwyd 27 February 2021.
- ↑ "Health crisis: Up to a billion tons of waste potentially burned in the open every year". phys.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 January 2021. Cyrchwyd 13 February 2021.
- ↑ Cook, E.; Velis, C. A. (6 January 2021). "Global Review on Safer End of Engineered Life" (yn en). Global Review on Safer End of Engineered Life. http://eprints.whiterose.ac.uk/169766/. Adalwyd 13 February 2021.
- ↑ R. Dhana, Raju (2021). "Waste Management in India – An Overview" (yn English). United International Journal for Research & Technology (UIJRT) 02 (7): 175–196. https://uijrt.com/articles/v2/i7/UIJRTV2I70022.pdf. Adalwyd 21 June 2021.
- ↑ Albert, Raleigh (4 August 2011). "The Proper Care and Use of a Garbage Disposal". Disposal Mag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 July 2018. Cyrchwyd 2017-03-03.
- ↑ 16.0 16.1 Guidelines for National Waste Management Strategies Moving from Challenges to Opportunities (PDF). United Nations Environmental Programme. 2013. ISBN 978-92-807-3333-4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-04. Cyrchwyd 3 May 2014. (PDF). United Nations Environmental Programme. 2013. ISBN 978-92-807-3333-4. Archived from the original Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback (PDF) on 4 March 2016. Retrieved 3 May 2014.
- ↑ "What is the polluter pays principle?". LSE. 11 May 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 February 2020. Cyrchwyd 7 February 2020.
- ↑ "Energies". www.mdpi.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2020. Cyrchwyd 2020-10-16.
- ↑ "what is recycling". What is Recycling. 28 September 2020. https://recycling-important.phpwww.conserve-energy-future.com/why-is-.[dolen farw]
- ↑ "Types of Recycling". ISM Waste & Recycling (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 February 2020. Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ Walker, T. R. (2018). China's ban on imported plastic waste could be a game changer. Nature, 553(7689), 405–405.
- ↑ "Waste Management – Biological Reprocessing" (yn Saesneg). 3 July 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 September 2020. Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ 23.0 23.1 "Energy Recovery from Waste". USEPA. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 April 2014. Cyrchwyd 3 May 2014.
- ↑ "Waste Hierarchy". New Energy Corporation. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 May 2014. Cyrchwyd 3 May 2014.
- ↑ "Liquid Waste | Waste Management". u.osu.edu. Cyrchwyd 2020-09-28.