Masters in France

Band Cymreig ydy Masters in France, a sefydlwyd yng Nghaernarfon, Gwynedd yn 2009.

Masters in France
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Ers 2009, maent wedi cael eu cynnwys ar restr chwarae BBC Radio 1 a pherfformio yng ngŵyl Wakestock a Gŵyl Sŵn yn 2010 a 2011.[1][2] Cawsant eu hyrwyddo gan Blaid Cymru gan chwarae yn eu cynhadledd flynyddol yn Llandudno ym Medi 2011.[3]

Yn 2012, defnyddiwyd fersiwn Masters in France o'r gân Playin' with my Friends, a recordiwyd yn wreiddiol gan Robert Cray a B.B. King, mewn hysbyseb teledu i'r siop IKEA. Yn 2012, ymddangosodd Owain Jones fel gwestai ar un o'r traciau ar albwm newydd Gai Toms, Bethel.

Disgograffi golygu

  • Inhale (EP), 19 Medi 2011

Cyfeiriadau golygu

  1.  MASTERS IN FRANCE. Gŵyl Sŵn. Adalwyd ar 1 Medi 2011.
  2.  Kevin White (24 Mawrth 2011). Gwynedd band Masters in France on verge of hitting the big time. Caernarfon and Denbigh Herald. Adalwyd ar 1 Medi 2011.
  3.  Plaid i roi amlygrwydd i fandiau newydd Cymreig. Plaid Cymru (18 Awst 2011). Adalwyd ar 1 Medi 2011.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato