Matilde Huici
Ffeminist o Sbaen oedd Matilde Huici Navaz (3 Awst 1890 - 13 Ebrill 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwr, athro ysgol a chyfreithiwr.
Matilde Huici | |
---|---|
Ganwyd | 3 Awst 1890 Pamplona |
Bu farw | 13 Ebrill 1965 Santiago de Chile |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, athro ysgol, cyfreithiwr, swffragét, cyfreithegwr, gwleidydd, academydd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Pamplona, Navarra, Sbaen a bu farw yn Santiago de Chile, prifddinas Chile.[1][2][3][4]
Cydweithiodd gyda María de Maeztu yn y Residencia de Señoritas, y ganolfan swyddogol gyntaf yn Sbaen a sefydlwyd i hyrwyddo addysg prifysgol i fenywod, a'r Lyceum Club Femenino, cymdeithas i fenywod.[5] Yn 1928, cyd-sefydlodd Gymdeithas Menywod Prifysgolion Sbaen (gyda Victoria Kent a Clara Campoamor) a chynrychiolodd Sbaen ar Gomisiwn Ymgynghorol ar Faterion Cymdeithasol a Dyngarol Cynghrair y Cenhedloedd.[6] Yn 1940 fe'i halltudiwyd i Chile, ac yn 1944 sefydlodd Huici Ysgol yr Addysgwr Párvulos, Prifysgol Chile a datblygodd raglen o weithgareddau addysgol dwys.[7][8]
Magwraeth a gwaith cynnar
golyguHi oedd y trydydd allan o bedwar o blant yn nheulu Ascensión a Juan Huici. Roedd ei rhieni yn weriniaethwyr rhyddfrydol cyfoethog. Yn 17 oed, cafodd radd meistr mewn addysg uwch yn Bilbao, Gwlad y Basg.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen.
Yn 1909, cafodd ei chyflogi fel athrawes mewn ysgol yng nghymdogaeth Ategorrieta o Donostia (Sbaeneg: San Sebastián). Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn brifathrawes yr ysgol. Yn 1916, symudodd i Fadrid er mwyn ymuno â'r Residencia de Señoritas lle dysgodd siarad Saesneg a Ffrangeg, yn ogystal â thechnegau llaw-fer. Dair blynedd yn ddiweddarach, graddiodd Huici yn yr Ysgol Addysg Uwch a dechreuodd astudio'r gyfraith. Yn 1922, daeth Huici yn Arolygydd Addysg Gynradd yn Santa Cruz de Tenerife.[5][9]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Lyceum Club Femenino am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 23 Rhagfyr 2018.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 23 Rhagfyr 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Matilde Huici". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: "Matilde Huici". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ 5.0 5.1 "Exposición - Mujeres en vanguardia. La Residencia de Señoritas en su centenario (1915-1936)". www.residencia.csic.es.
- ↑ Navarra, Universidad Pública de. "Universidad Pública de Navarra - Campus de Excelencia Internacional". www.unavarra.es.
- ↑ Iglesias, Fundación Pablo. "Huici Navaz de San Martín, Matilde - Fundación Pablo Iglesias". www.fpabloiglesias.es.
- ↑ "EL FEMINISMO Y EL ELEMENTO FEMENINO EN EL PENSAMIENTO DEL JURISTA ÁNGEL OSSORIO Y GALLARDO (1873-1946)". www.eumed.net.
- ↑ Vázquez Ramil, 2012, t. 103