Agor y brif ddewislen

Ffeminist o Iwerddon oedd Maud Gonne (21 Rhagfyr 1866 - 27 Ebrill 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig fel actor, hunangofiannydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét. Ond, yn bennaf, hi oedd ysbrydoliaeth fawr y bardd W. E. Yeates. Sgwennodd lawer o gerddi iddi, neu sy'n ei chrybwyll, gan gynnwys This, This Rude Knocking, a sgwennodd dwy drama o barch a chariad ati: The Countess Cathleen a Cathleen ni Houlihan.[1]

Maud Gonne
Maudgonne.jpg
Ganwyd 21 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Farnham Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Ebrill 1953 Edit this on Wikidata (86 oed)
Clonskeagh Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaeth actor, hunangofiannydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, ymgyrchydd pleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Priod John MacBride Edit this on Wikidata
Plant Seán MacBride Edit this on Wikidata

MagwraethGolygu

 
Maude Gonne, tua 1900

Ei henw Gwyddeleg oedd Maud Nic Ghoinn Bean Mac Giolla Bhríghde. Er iddi gael ei geni yn Lloegr, bu'n lladmerydd huwadl dros Genedlaetholdeb Gwyddelig. [2][3][4][5]

Ei mam Edith Frith Gonne, born Cook (1844–71) a chapten yn '7fed Lancers' byddin Lloegr oedd ei thad, Thomas Gonne (1835–86), a hanai o linach Albanaidd a Gwyddelig. Bu farw ei mham pan oedd yn ifanc iawn a chafodd ei danfon i Ffraincc, lle mynychodd ysgol breswyl.[6]

Yn 1882 cafodd ei thad, ei ddanfon gan fyddin Lloegr i Ddulyn, ac aeth Maud Gonne gydag ef ac arhosodd gydag ef nes iddo farw. Dychwelodd i Ffrainc ar ôl dal y diciâu a syrthiodd mewn cariad â gwleidydd adain dde, Lucien Millevoye. Cytunwyd i ymladd dros annibyniaeth Iwerddon ac i adennill Alsace-Lorraine i Ffrainc. Dychwelodd i Iwerddon a gweithiodd yn ddiflino i ryddhau carcharorion gwleidyddol Gwyddelig o'r carchar. Yn 1889, cyfarfu â W. B. Yeats, a syrthiodd mewn cariad â hi.

Yn 1890 dychwelodd i Ffrainc lle cyfarfu unwaith eto â Millevoye a chawsant fab, Georges. Bu farw Georges, o bosibl o lid yr ymennydd, ym 1891. Torrodd ei chalon, a chladdodd ei mab mewn capel coffa mawr a adeiladwyd iddo gydag arian yr oedd wedi'i etifeddu.

Sefydlodd fudiad Inghinidhe na hÉireann gyda'r bwriad o wrthsefyll ymdrech y Sais i ddileu etifeddiaeth Gwyddelig."Bureau of military history" (PDF). Cyrchwyd 10 Ionawr 2017.</ref>[7]

IwerddonGolygu

Yn 1897, ynghyd â Yeats ac Arthur Griffith, trefnodd brotestiadau yn erbyn Jiwbilî Ddiemwnt Brenhines Victoria. Ym mis Ebrill 1902, cymerodd ran flaenllaw yn nrama Yeats, Cathleen Ní Houlihan. Portreadodd Cathleen "hen wraig Iwerddon", sy'n galaru am ei phedwar talaith, a gollwyd i'r Saason.[8]

Gwrthododd lawer o gynigion gan Yeats i'w phriodi, nid yn unig oherwydd ei fod yn anfodlon trosi i Gatholigiaeth ond hefyd oherwydd ei bod yn ei ystyried genedlaetholdeb yn rhy llugoer, ac oherwydd ei bod yn credu bod ei gariad di-ildio ati wedi bod yn deillio o'i farddoniaeth ac y byddai'r byd, rhyw ddydd, yn diolch iddi am beidio â rhoi cadwynnau am ei awen.[9] |100|100|}}

AelodaethGolygu

Bu'n aelod o Urdd Meudwy'r Wawr Aur am rai blynyddoedd.

AnrhydeddauGolygu


CyfeiriadauGolygu

  1. "Rosemont School, Tormoham, Devon", Census, 1881.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12317823q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 32066208, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12317823q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12317823q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12317823q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. "Bureau of military history" (PDF). Cyrchwyd 10 Ionawr 2017.
  7. McCoole, Sinead (2004), No Ordinary Women: Irish Female Activists in the Revolutionary Years 1900–23, The O'Brien Press Dublin, pp. 20–1.
  8. McCoole, "No Ordinary Women", tud.24
  9. Jeffares, A. Norman (1988). W. B. Yeats, a new biography. London and New York: Continuum. p. 102.