Maurine Dallas Watkins
Newyddiadurwraig a dramodydd Americanaidd oedd Maurine Dallas Watkins (27 Gorffennaf 1896 – 10 Awst 1969).
Maurine Dallas Watkins | |
---|---|
Ganwyd | 27 Gorffennaf 1896, 1901 Louisville |
Bu farw | 10 Awst 1969, 1969 Jacksonville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, sgriptiwr, dramodydd, llenor |
Ganwyd yn Louisville, Kentucky a mynychodd Ysgol Uwchradd Crawfordsville, cyn mynd i bum coleg gwahanol (gan gynnwys Coleg Hamilton, Prifysgol Transylvania, Coleg Butler (Indianapolis), a Choleg Radcliffe). Ar ôl ei gyfnod yn y colegau hyn, cafodd swydd fel newyddiadurwr gyda'r Chicago Tribune.
Tra'n gweithio fel newyddiadurwr, gweithiodd ar ddau lofruddiaeth ym 1924 ac achos llys Belva Gaertner, cantores cabaret a Beulah Sheriff Annan. Canolbwyntiodd Watkins ar elfennau cyffrogarol y ddwy achos, dwy "jazz babies" a gafodd eu harwain ar gyfeiliorn gan ddynion ac alcohol, a phortreadodd Beulah fel y "beauty of the cell block" a Belva fel "most stylish of Murderess Row."
Adroddodd Watkins am achos enwog Leopold a Loeb ond yn fuan wedi hyn gadawodd byd newyddiaduriaeth er mwyn ysgrifennu dramâu, gan astudio ym Mhrifysgol Yale o dan arweiniad George Pierce Baker. Tra yno, ysgrifennodd hanes y ddau achos ar ffurf ffuglen, gan ei alw'n wreiddiol "The Brave Little Woman", yna "Play Ball" (y fersiwn hawlfraint cyntaf: sgript cyn-gynhyrchu), ac yn olaf "Chicago". Daeth Beulah Annan yn "Roxie Hart", Belva Gaertner "Velma Kelly", Albert Annan "Amos Hart", a chyfunwyd y ddau gyfreithiwr, William Scott Stewart a W. W. O'Brien, i greu cymeriad "Billy Flynn". (Ymddengys mai O'Brien oedd y tebygrwydd agosaf).
Ysgrifennodd Watkins tua ugain o ddramâu, ond "Chicago" oedd y mwyaf llwyddiannus. Teithiodd i Hollywood i ysgrifennu sgriptiau, gan gynnwys y comedi Libeled Lady (1936) gyda William Powell, Myrna Loy, Jean Harlow, a Spencer Tracy.
Diflannodd Watkins o fyd y theatr yn ystod y 1940au. Dioddefodd o gancr ar ei wyneb a adawodd creithiau ac erbyn 1968, prin y'i gwelwyd o gwbl tu allan i'w fflat. Daeth yn Gristion a gadawodd ei ffortiwn o dros $2,300,000 i gynnal cystadlaethau a chadeiriau mewn astudiaethau Beiblaidd mewn rhyw ugain prifysgol, gan gynnwys Princeton.
Ffilmograffiaeth
golygu- Chicago (1927) (drama)
- Up the River (1930)
- Doctors' Wives (1931)
- Play-Girl (1932)
- The Strange Love of Molly Louvain (1932) (drama Tinsel Girl)
- No Man of Her Own (1932)
- Child of Manhattan (1933)
- Hello Sister (1933) (di-gredyd)
- The Story of Temple Drake (1933) (di-gredyd)
- Professional Sweetheart (1933)
- Search for Beauty (1934)
- Strictly Dynamite (1934) (stori)
- A Wicked Woman (1934) (deialog)
- Libeled Lady (1936)
- Up the River (1938) (stori)
- I Love You Again (1940) (stori)
- Roxie Hart (1942)
- Easy to Wed (1946)
- Chicago (2002) (drama)
Dolenni allanol
golygu- Chicago Guns Gin Jazz Archifwyd 2008-07-04 yn y Peiriant Wayback
- Proffil Prifysgol Transylvania Archifwyd 2006-08-28 yn y Peiriant Wayback