Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 186414 Mehefin 1920). Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, yn blentyn hynaf i Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a München.

Max Weber
GanwydMaximilian Carl Emil Weber Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1864 Edit this on Wikidata
Erfurt Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
o niwmonia, Pandemig ffliw 1918 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, Gweriniaeth Weimar, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Levin Goldschmidt
  • August Meitzen
  • Rudolf von Gneist Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, economegydd, cymdeithasegydd, athronydd, anthropolegydd, cyfreithiwr, academydd, cerddolegydd, gwleidydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amEconomy and Society, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism, Science as a Vocation, Politics as a Vocation, Wirtschaftsgeschichte, The Religion of China, The Religion of India, Ancient Judaism Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational-Social Association, Plaid Ddemocrataidd yr Almaen, Progressive People's Party Edit this on Wikidata
TadMax Weber Edit this on Wikidata
MamHelene Weber Edit this on Wikidata
PriodMarianne Weber Edit this on Wikidata
PartnerMina Tobler, Else von Richthofen Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud â chymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth, lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.

Mewn gwaith arall, Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth, diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth.

Astudiaethau golygu

  • Ellis Roberts, Weber, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1982)