Gaius Julius Verus Maximinus (c.173238), mwy adnabyddus fel Maximinius Thrax (Maximinius y Thraciad), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 235 a 238.

Maximinus Thrax
Ganwyd173 Edit this on Wikidata
Thrace Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 238 Edit this on Wikidata
Aquileia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, milwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
MamAbaba Edit this on Wikidata
PriodCaecilia Paulina Edit this on Wikidata
PlantGaius Julius Verus Maximus Edit this on Wikidata

Ganed ef tua 173 i deulu gwledig yn Moesia neu Thrace. Goth oedd ei dad, tra roedd ei fam o dras Alanaidd. Mae rhai yn credu ei fod wedi ei eni'n ddiweddarach, tua 183. Ymddengys ei fod wedi cymryd ei enw oddi wrth Gaius Julius Maximinus, rhaglaw talaith Dacia yn 208, ef efallai mai yr adeg honno y gafodd Maximinius ddinasyddiaeth Rhufeinig. Dywedir ei fod o daldra eithriadol, wyth troedfedd a chwe modfedd yn ôl un ffynhonnell.

Dechreuodd ar ei yrfa yn y fyddin dan yr ymerawdwr Septimius Severus, ac oherwydd ei faint a'i gyfder anarferol dringodd trwy'r rhengoedd yn gyflym. Erbyn 232 roedd yn arwain lleng, yn Yr Aifft yn ôl pob tebyg. Dan yr ymerawdwr Alexander Severus bu'n ymladd yn erbyn y Parthiaid. Yn 235 ef oedd yn gyfrifol am y llengoedd ar y ffin gyda'r Almaen pan ddaeth yr ymerawdwr i arwain ymgyrch yn eu herbyn, gwrthryfelodd y milwyr, lladdwyd Alexander Severus gerllaw Maguncia) a chyhoeddodd y llengoedd Maximinius yn ymerawdwr. Llwyddodd Maximinius i orchfygu'r Almaenwyr.

Efallai oherwydd ei fod ef ei hun o deulu tlawd, roedd Maximinius yn ddrwgdybus iawn o'r Senedd a'r uchelwyr. Newidiodd bolisi Alexander Severus, oedd wedi cefnogi'r Cristionogion, a bu llawer o erlid arnynt.

Yn 236 aeth i Pannonia i ryfela yn erbyn y Daciaid. Er mwyn ariannu'r byddinoedd, ychwanegodd at y trethi ar y cyfoethogion. Tra'r oedd yng nghyffiniau Afon Donaw, bu gwrthryfel gan y boneddigion, a cyhoeddasant broconswl Affrica, Sempronianus Gordianus (Gordian I) yn ymerawdwr. Cyhoeddodd y Senedd fod Maximinius yn elyn Rhufain. Cyhwynnodd Maximinius a'i fyddin am Rufain, ond roedd y boblogaeth yn elyniaethus ac yn gwrthod bwydo ei filwyr.

Gorchfygwyd Gordianus a'i fab gan raglaw Mauritania, oedd yn parhau'n deyrngar i Maximinius, ond yna enwodd y Senedd Pupienus y Balbinus yn gyd-ymerodron. Gerllaw dinas Aquileia gwrthryfelodd milwyr Maximinius a'i ladd ef a'i fab. Aed a'u pennau i Rufain.

Maximinius oedd y cyntaf o'r "ymerodron milwrol", oedd yn dibynnu ar y fyddin i'w cadw mewn grym. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf o dras "barbaraidd" a'r ymerawdwr cyntaf na fu erioed yn Rhufain.

Rhagflaenydd:
Alexander Severus
Ymerawdwr Rhufain
235238
Olynydd:
Gordian I a Gordian II