Mechain Uwch Coed

Un o ddau gwmwd canoloesol cantref Mechain ym Mhowys oedd Mechain Uwch Coed.

Mechain Uwch Coed oedd y rhan orllewinol o gantref Mechain, a rennid yn ddau gan goedwig fawr yn ei ganol. Ffiniai'r cwmwd â Mechain Is Coed, ail gwmwd Mechain, i'r dwyrain, Ystrad Marchell i'r de, Caereinion i'r gorllewin a Mochnant Uwch Rhaeadr i'r gogledd.

Ar ôl i deyrnas Powys dorri i fyny ar ddiwedd y 12g daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn. Gyda gweddill y cantref, daeth Mechain Uwch Coed yn rhan o Sir Faldwyn pan greuwyd y sir honno gyda phasio'r "Deddfau Uno".

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.