Mochnant Uwch Rhaeadr
Cwmwd canoloesol yng nghantref Mochnant, Teyrnas Powys, oedd Mochnant Uwch Rhaeadr. Gyda Mochnant Is Rhaeadr, roedd yn un o ddau gwmwd y cantref hwnnw. Gorwedd yn ardal Maldwyn, yn sir Powys, heddiw.
Dynodai Afon Rhaeadr, un o ledneintiau Afon Tanad (neu 'Tanat'), y ffin rhwng y ddau gwmwd. Yn ogystal â Mochnant Is Rhaeadr, i'r gogledd, ffiniai'r cwmwd â Mechain, Caereinion, Cyfeiliog (cwmwd Mawddwy), Penllyn, a darn o Edeirnion.
Pan ymranodd hen deyrnas Powys yn 1166 yn Bowys Fadog a Powys Wenwynwyn, rhanwyd cantref Mochnant rhwng y ddwy dywysogaeth newydd. Aeth Mochnant Is Rhaeadr yn rhan o Bowys Fadog (ym meddiant Owain ap Madog i ddechrau) ac aeth Uwch Rhaeadr yn rhan o Bowys Wenwynwyn (ym meddiant Owain Cyfeiliog i ddechrau). Parhaodd afon Rhaeadr fel ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn pan grëwyd y siroedd newydd yn 1536.
Roedd y cwmwd yn fynyddig, gyda llethrau'r Berwyn yn y gorllewin. Y ganolfan eglwysig bwysicaf oedd Pennant Melangell, lle ceid creirfa y Santes Melangell, un o gyrchfannau pererindod mwyaf poblogaidd y rhan yma o Gymru yn yr Oesodd Canol.