Agor y brif ddewislen

Mefenydd

cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion

Cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion oedd Mefenydd. Gyda Anhuniog a Pennardd roedd yn un o dri chwmwd cantref Uwch Aeron.

Mefenydd
Math cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Anhuniog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.32681°N 3.86269°W Edit this on Wikidata

Cwmwd o siâp hirgul oedd Mefenydd, yn gorwedd i'r de o Afon Ystwyth rhwng Bae Ceredigion a bryniau Elenydd. Fffiniai â chwmwd Creuddyn yng nghantref Penweddig i'r gogledd, Cwmwd Deuddwr yn ardal Rhwng Gwy a Hafren i'r dwyrain, dros fryniau Elenydd, a chymydau Pennardd ac Anhuniog, yn yr un cantref, i'r de.

Roedd ei brif ganolfannau yn cynnwys Ysbyty Ystwyth a Llangwyryfon.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.