Pennardd
Cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion oedd Pennardd (ceir y ffurf ansafonol Penardd hefyd weithiau). Gyda Mefenydd ac Anhuniog roedd yn un o dri chwmwd cantref Uwch Aeron.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Uwch Aeron |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.290268°N 3.903789°W |
Cwmwd gweddol fawr oedd Pennardd, yn gorwedd wrth lethrau Elenydd yn ne-ddwyrain Ceredigion. Fffiniai â chwmwd Mefenydd i'r gogledd, Cwmwd Deuddwr (darn) a chantref Buellt i'r dwyrain, yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, cymydau Caeo a Mallaen yn Ystrad Tywi i'r de, a chymydau Mebwynion ac Anhuniog i'r gorllewin.
Mae Afon Aeron yn llifo trwy dde'r cwmwd. Roedd ei brif ganolfannau gweinyddol yn cynnwys Castell Ystrad Meurig ger Tregaron. Dyma un o'r ardaloedd pwysicaf yng Ngheredigion o ran sefydliadau crefyddol, gyda'r clas cynnar yn Llanddewi Brefi, a gysylltir â Dewi Sant ac a bertynai i Esgobaeth Tyddewi, a'r abaty Sistersiaidd yn Ystrad Fflur lle claddwyd Dafydd ap Gwilym, yn ôl traddodiad.