Meillionen

Mae Meillion (sengl: Meillionen; Lladin: Trifolium), yn genws o tua 300 o rhywogaethau o blanhigion yn nheulu'r pys, sef Fabaceae.
Meillion
Meillionen wen (Trifolium repens)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Is-deulu: Faboideae
Genws: Trifolium
L.
Rhywogaethau

tua 300

Mae Meillion (sengl: Meillionen; Lladin: Trifolium), yn genws o tua 300 o rhywogaethau o blanhigion yn nheulu'r pys, sef Fabaceae. Mae gan y genws ddosbarthiad amlgenhedlig; mae'r amrywiaeth uchaf i'w gael yn Hemisffer Gogleddol cymedrol, ond mae nifer o rywogaethau ar gael yn Ne America ac Affrica, gan gynnwys uchderau mynyddoedd y trofannau. Maen nhw'n blanhigion blynyddol, dwyflynyddol, neu'n blanhigyn lluosflwydd llysieuol. Mae'r dail yn dair-ddeiliog (yn anaml yn 5 neu 7 deiliog), gyda stipylau yn cysylltu â choes y ddeilen, a phennau sbigynnau dwys o flodau bychain coch, piws, gwyn neu felyn; mae'r codenni sy'n cynnwys ychydig o hadau wedi eu hamgáu yn y blodyn.

Llên Gwerin

golygu

"Tegwyn yn hadu clofer o Ruthun”[1] Clofer cymysg o goch a gwyn oedd hwn, mae’n debyg. Mae Tegwyn yn cofio hefyd mynd i fferm Coed Acas, ger Dinbych, i nôl clofer coch, clofer brasach. Mae hyn yn f’atgoffa o ddau enw oedd gennym ni, blant Uwchaled: ‘y borfa’n drwch o siwgwr coch a siwgwr gwyn’.[2]

Rhai Rhywogaethau

golygu
 
Meillion coch (T. pratense) mewn cae
 
Deilen meillionen wen (T. repens)
 
Blodau meillionen gedennog (T. arvense)
  1. Dyddiadur John Hugh Jones, Rhafod, Llangwm
  2. Sylwadau am sylw John Hugh Jones uchod gan Robin Gwyndaf, ei frawd