Meknès
Dinas yng ngogledd Moroco yw Meknès (Arabeg: مكناس), a leolir tua 130 km (81 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas Rabat a 60 km (37 milltir) i'r gorllewin o Fès. Mae'n brifddinas rhanbarth Meknès-Tafilalet. Poblogaeth: tua 950,322 (amcangyfrifiad 2006).
Math | dinas, dinas fawr, urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 520,428, 601,000 |
Pennaeth llywodraeth | Abdellah Bouanou |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Imperial cities of Morocco |
Sir | Meknès Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 370 km² |
Uwch y môr | 546 metr |
Cyfesurynnau | 33.88°N 5.55°W |
Cod post | 50000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Abdellah Bouanou |
Y ddinas
golyguMae Meknes yn ddinas hanesyddol; hon oedd prifddinas Moroco yn nheyrnasiad Moulay Ismail (1672–1727), cyn iddi symud i Marrakech, ac felly mae'n un o bedair "dinas ymerodrol" y wlad, gyda Marrakech, Rabat a Fès. Enwir Meknès ar ôl llwyth Berber y Miknasa (ffurf Arabeg ar yr enw Berber Imknasn). Daeth yr ardal i feddiant y Rhufeiniaid a chodwyd dinas Rufeinig Volubilis (Oualili) i'r gogledd o'r ddinas bresennol.
Oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol a diwylliannol, mae medina (hen ddinas) Meknès yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Mae priffordd yr A2 a rheilffordd yn cysylltu Meknès gyda Rabat ar arfordir Cefnfor Iwerydd a gyda Fès i'r dwyrain. Mae lein reilffordd arall yn ei chysylltu gyda Tanger (Tangiers) i'r gogledd.
Cymunedau Meknès
golyguMeknès Al Ismaïlia
golygu- Aïn Jemâa
- Aïn Karma
- Aïn Orma
- Aït Ouallal
- Al Ismaïlia
- Al Machouar Stinia
- Dar Oum Soltane
- Maknassat Azzaytoun
- Oued Rommane
- Toulal
Meknès El Menzeh
golygu- Boufakrane
- Charqaoua
- Dkhissa
- Hamrya
- Karmet Ben Salem
- M'haya
- Majjate
- Mergassiyine
- Moulay Idriss Zerhoun
- N'zalat Bni Amar
- Oualili (Volubilis)
- Oued Jdida
- Ouislane
- Sidi Abdellah el Khayat
- Sidi Slimane Moul Al Kifane
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan y ddinas Archifwyd 2014-12-23 yn y Peiriant Wayback