Nîmes
Dinas yn ne Ffrainc yw Nîmes. Hi yw prifddinas département Gard yn region Languedoc-Roussillon. Saif heb fod ymhell o Avignon, Montpellier a Marseille. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 133,424 .
Arwyddair | COLNEM |
---|---|
Math | cymuned, dinas fawr |
Poblogaeth | 148,104 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Paul Fournier |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Braunschweig, Frankfurt an der Oder, Prag, Preston, Verona, Salamanca, Rishon LeZion, Meknès, Fresno, Plasencia, Córdoba, Fort Worth |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gard |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 161.85 km² |
Uwch y môr | 215 metr, 21 metr |
Yn ffinio gyda | Bouillargues, Caissargues, La Calmette, Caveirac, Dions, Gajan, Générac, Marguerittes, Milhaud, Parignargues, Poulx, La Rouvière, Sainte-Anastasie, Saint-Gilles, Rodilhan |
Cyfesurynnau | 43.8383°N 4.3597°E |
Cod post | 30000, 30900 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Nîmes |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Paul Fournier |
Roedd Nîmes, fel Colonia Nemausensis, yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'r amffitheatr Rufeinig, Arena Nîmes, yn nodedig, tra ystyrir y Maison Carrée yr enghraifft o deml Rufeinig sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Rhyw 20 km i'r gogledd-orllewin, mae'r Pont du Gard, acwedwct oedd yn cario dŵr i'r ddinas.
Daw'r gair denim am y brethyn o "de Nîmes" ("o Nîmes").
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amffitheatr
- Eglwys gadeiriol
- Musée des Beaux-Arts de Nîmes (amgueddfa)
- Pont du Gard
Enwogion
golygu- François Guizot (1787–1874), hanesydd a gwleidydd
- Alphonse Daudet (1840–1897), nofelydd