Mel Charles

pêl-droediwr

Cyn-chwaraewr pêl-droed Cymreig oedd Melvyn Charles (14 Mai 193524 Medi 2016).

Mel Charles
Ganwyd14 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw24 Medi 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
PlantJeremy Charles Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Sir Hwlffordd, C.P.D. Dinas Caerdydd, Arsenal F.C., Port Vale F.C., Oswestry Town F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Porthmadog, Leeds United A.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr, blaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Abertawe, yn frawd i'r pêl-droed John Charles. Rhwng 1952 a 1959, chwaraeodd dros 250 o gemau i C.P.D. Dinas Abertawe. Yn 1959, arwyddodd dros Arsenal am £40,000. Bu anafiadau yn broblem iddo yn y cyfnod yma, ond mewn tri thymor chwaraeodd 64 gwaith i Arsenal, gan sgorio 28 o weithiau. Yn 1962 symudodd i C.P.D. Dinas Caerdydd, lle treuliodd ddau dymor, gan chwarae 81 gwaith iddynt. Symudodd i C.P.D. Porthmadog am £1,250, cyn symud eto i Port Vale yn 1967. Bu'n chwarae wedyn i C.P.D. Croesoswallt a C.P.D. Hwlffordd.

Chwaraeodd 31 gwaith dros Gymru, gan sgorio chwech o weithiau, gan gynnwys pedair gôl mewn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 1961.

Yn ei flynyddoedd olaf bu'n byw mewn cartref gofal yn Abertawe a bu farw yn 81 mlwydd oed.[1]

Cyhoeddiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Mel Charles wedi marw , Golwg360, 25 Medi 2016. Cyrchwyd ar 26 Medi 2016.