Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gogledd Iwerddon (Saesneg: Northern Ireland national football team) yn cynrychioli Gogledd Iwerddon yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon (Saesneg: Irish Football Association) (IFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r IFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.irishfa.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwng 1882 a 1921 roedd un tîm yn cynrychioli Iwerddon gyfan gyda'r IFA yn rheoli'r gamp ar yr ynys, ond wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a thîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon lleihawyd awdurdodaeth yr IFA i gynnwys Gogledd Iwerddon yn unig. Er hyn, roedd Gogledd Iwerddon yn parhau i ddewis chwaraewyr o Iwerddon gyfan hyd nes 1950[1].
Mae Gogledd Iwerddon wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar dair achlysur, ym Cwpan y Byd 1958, Cwpan y Byd 1982 a Cwpan y Byd 1986.
Pat Jennings sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros ei wlad ar ôl ennill 119 cap dros Gogledd Iwerddon[2] a David Healy sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros Gogledd Iwerddon ar ôl rhwydo 36 gôl[3].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Why did Ireland reject an invitation to the 1950 World Cup in Brazil?". 2014-06-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-12. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Profile: Pat Jennings". IrishFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 2015-07-21.
- ↑ "Record goal-scorer David Healy was one of Northern Ireland greats". BBCSport.